Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru 2014 Mae eleni yn dathlu dengmlwyddiant yr Ŵyl a ddechreuodd yng nghymoedd y Rhondda yn 2004, cyn lledaenu ar draws y cymoedd i gyd. Mae'r ŵyl o deithiau cerdded yn cychwyn ar ddydd Sadwrn 6 Medi, ac yna mae o leiaf un daith gerdded y dydd tan ddydd Sadwrn 20 Medi.
Mae taith gerdded gylchol drwy dirwedd ddiwydiannol Blaenafon, i ddarganfod y golygfeydd ysblennydd archaeoleg a chudd, yn digwydd ar ddydd Sul 14 Medi am 1.00pm. Mae’n 4.5 milltir o bellter ac yn cymryd tua 2.5 awr. Man Cychwyn; Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, NP4 9AE. Mae manylion pellach yn: www.walesvalleyswalking.co.uk
Ffair Hydref Blaenafon Gwahoddir trigolion Blaenafon i roi prawf ar eu sgiliau pobi’r hydref yma gyda chyfres o ddigwyddiadau sy’n anelu at ddangos y gorau sydd gan y stryd fawr i’w gynnig.
Mae ffair Blaenafon yn digwydd ar 27 Medi o 12pm-4pm gyda rhaglen o weithgareddau hwyl sy’n canolbwyntio ar fwyd, gan gynnwys arddangosfeydd coginio gan Franco Taruschio o Ysgol Goginio Blaenafon a samplau gan gogydd newydd y Lion Hoel.
Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos Cefnogwch eich Stryd Fawr - ymgyrch Cymru gyfan sy’n anelu at annog partneriaid, busnesau lleol a chymunedau i gefnogi eu strydoedd mawr lleol ac ailddarganfod buddion siopa yn lleol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â 01495 742333 neu www.visitblaenavon.co.uk
Medi ar y Rheilffordd Mae ein gala stêm yn cael ei gynnal ar 12-14 Medi ac yn cwblhau ein rhediad arferol ar gyfer y tymor. Dros y penwythnos fe fydd pump locomotif stêm mewn defnydd - pedair ohonynt wedi eu creu gan Andrew Barclay. Mae tocynnau dau a thri diwrnod ar gael yn ogystal â manylion am brisiau ac amseroedd - Ewch at ein gwefan
Taith Bws Mini: Cerdded yn ôl traed Alexander Cordell 27 Medi 2014 - 10.00am - 3.00pm
Mae eleni yn nodi canmlwyddiant genedigaeth y nofelydd lleol enwog Alexander Cordell, awdur yr adnabyddus ‘Rape of the Fair’ a ‘This Proud and Savage Land’.
I ddathlu’r garreg filltir mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, ar y cyd gyda’r hanesydd lleol adnabyddus Chris Barber, yn cynnig cyfle i chi i gerdded yn ôl traed yr awdur. Byddwch yn teithio mewn bws mini i leoliadau pwysig ac ysblennydd sy’n ymddangos yn y nofelau.
I archebu lle ffoniwch 01495 742333
Cost: £15 i oedolion/hanner pris i blant o dan 16 oed
Newyddion
Gwelliannau i lwybr halio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yng Ngofilon Mae Ymddiriedolaeth Camlas ac Afonydd ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog wedi cwblhau gwelliannau ar 600 metr o'r llwybr halio yng Ngofilon. Mae'r adran hon o'r llwybr halio ar ffin Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a rhan o Lwybr Dyffryn Wysg. Daeth y llwybr halio yn fwdlyd a gwlyb mewn tywydd gwael iawn ac roedd hefyd yn rhy gul i ganiatáu cerddwyr a beicwyr i basio ei gilydd yn ddiogel. Mae'r gwelliannau wedi darparu llwybr halio o ansawdd uchel gydag wyneb llwch cywasgedig sy’n draenio’n dda sydd hefyd yn ddigon llydan i alluogi defnyddwyr i basio yn ddiogel. Mae nifer o lwybrau cerdded cylchol sy'n cysylltu â llwybr halio'r gamlas rhwng Gofilon a Llanfoist.
Tour of Britain Tour of Britain yw ras feicio broffesiynol mwyaf y DU, a digwyddiad chwaraeon mwyaf y wlad sy’n rhad ac am ddim i ‘w wylio. Gan ddechrau ar 07-14 Medi, mae Cam 3 o Tour of Britain gan Friends Life yn cychwyn yr wythnos hon o Drenewydd ac mae beicwyr yn wynebu 179.9km cyn iddynt orffen gyda dring Categori 1 The Keepers sydd wedi ei leoli o fewn Safle Treftadaeth y Byd. Manylion pellach - www.tourofbritain.co.uk