Gŵyl y Gaeaf ym Mlaenafon Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr, 11am - 4pm yn Nhref Dreftadaeth Blaenafon. Hwyl yr ŵyl yn cynnwys:
• Ffair o Gyfnod Victoria
• Ogof Siôn Corn - Bethlehem Court
• Carw go iawn a Char Llusg
• Côr Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon
• Band Tref Blaenafon
• Marchnad Nadolig
• Gweithgareddau Crefft y Nadolig i Blant
• Siopau Traddodiadol ac Arbenigol
Bydd ymweliad arbennig gan y tywysogesau Elsa ac Anna, ac Olaf y dyn eira o’r ffilm Disney enwog, a byddant yn ymuno â Siôn Corn a’i geirw.
Ynghyd â llu o ddigwyddiadau eraill dan yr un thema drwy gydol mis Rhagfyr. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ar: 01495 742333 neu ewch i’r wefan.
Gweithdai ‘Creu a Chludo’ Blaenafon yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr -
Gweithdai Nadolig ‘Creu a Chludo’ cyfeillgar i deuluoedd gydag amrywiaeth o stondinau yn gwerthu anrhegion, perfformiad gan yr Academi Dawns, Band Tref Blaenafon; a bydd y Caffi yn gweini bwydlen Nadoligaidd. I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch ar: 01495 742333 neu ewch i’r wefan
Nadolig yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru Sad 14 Rhagfyr - Digwyddiad Nadolig Babis Big Pit
Cyfle i ymwelwyr iau gwrdd â Siân Corn. Addas i blant 0-5 oed. Sesiynau: 11.30am-12.30pm a 1.30pm-2.30pm a RHAID BWCIO YMALEN LLAW. Nifer cyfyngedig o lefydd, ffoniwch (029) 2057 3650 i gadw lle. £5 y plentyn, yn cynnwys anrheg. Sad 20 Rhagfyr - Sion Corn yn y Pwll gyda Band Tref Blaenafon
Bydd Siôn Corn gyrraedd pen y pwll am 10.30am, gan godi 300tr o grombil y ddaear. Bydd Band Tref Blaenafon hefyd yn chwarae caneuon a charolau drwy’r dydd.
£5 y pen, yn cynnwys anrheg. Addas i bob plentyn. Nid oes angen cadw lle.
Teithiau Arbennig i weld Siôn Corn ar y Rheilffordd Peidiwch ag anghofio bwcio eich lle ar daith arbennig i weld Siôn Corn ar Reilffordd Treftadaeth Blaenafon. Bydd anrhegion i’r plant a mins peis a sieri i oedolion a thaith fer i weld Siôn Corn yn y Whistle Inn. Bydd angen bwcio. Y pris yw £9 y pen ac fe allwch drefnu lle ar lein ar www.pontypool-and-blaenavon.co.uk neu drwy ffonio 01495 708812.
Newyddion
Tim y Dref yn Sicrhau Cyllid! Llongyfarchiadau i Dîm Tref Blaenafon, sydd, gyda chymorth Cyngor Torfaen, wedi llwyddo i sicrhau £50,000 gan ffynhonnell cyllid Partneriaeth Canol Trefi Llywodraeth Cymru. Nod y cyllid yw cynorthwyo partneriaethau canol trefi i gyflawni gwelliannau i ganol trefi, gan gynnwys cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli a denu busnesau newydd, cwsmeriaid newydd a chyfleoedd cyflogi i’r dref. Mae’r partneriaid eraill sydd yn cyfrannu at gronfa gyllid o £116,000 yn cynnwys Cyngor Tref Blaenafon, Pwyllgor Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon, Cyngor Torfaen a’r Cynllun Datblygu Gwledig.Darllenwch yr hanes yn llawn ar newyddion
Prosiect Ucheldir y Cymoedd Dwyreiniol yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru Dyfarnwyd grant o £280,000 i Gyngor Torfaen arwain cydweithredfa i helpu i adfer ucheldiroedd hanesyddol o bwys ledled ardaloedd y pedwar awdurdod lleol.
Mae’r grant yn rhan o Gronfa Natur £6m Llywodraeth Cymru, sef pot o arian sydd yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru er lles bioamrywiaeth, tra’n creu effaith bositif ar gymunedau amgylchynol, a sbarduno economi cefn gwlad.
Bydd y prosiect, sydd dan arweiniad Cyngor Torfaen, ac yn cael ei ddatblygu o fewn cyd-destun Parc Rhanbarthol y Cymoedd, yn adeiladu ar brofiad Prosiect Tirweddau Angof Blaenafon.
Dywedodd Bob Wellington, arweinydd cyngor Torfaen a chadeirydd Partneriaeth Blaenafon: “Rydym wrth ein bodd i fod yn un o 20 o brosiectau’r Gronfa Natur ledled Cymru.
Treftadaeth Amaethyddol Mae Amgueddfa Treftadaeth Gymunedol Blaenafon yn ceisio darganfod mwy am dreftadaeth amaethyddol Blaenafon. Mae’r gwirfoddolwyr yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth neu hanesion am y nifer o ffermydd ym Mlaenafon a’r cylch (ddoe neu heddiw). Os ydych yn medru helpu, a fyddech cystal ag e-bostio blaenavoncordellmuseum@hotmail.co.uk neu ffonio 01495 790991