Llwyddiant ar gyfer parti heddwch y Deml
Bu pobl o bob rhan o Gymru yn dathlu pen-blwydd y Deml Heddwch yn 75 oed yng Ngŵyl Heddwch 75 ar 30 Tachwedd.
Arhosodd teuluoedd am oriau wrth iddynt gwblhau Helfa Drysor y Deml, paentio’r ' Peace of Art' ymuno â thrafodaeth athronyddol, gwrando ar y côr Adfer Nu-Hi neu ddrymio rhyw ychydig.
Meddai Susie Ventris-Field: " Rydym wedi’n gwefreiddio gan yr ŵyl a’r adborth. Dywedodd pawb a gymerodd ran y byddent wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg yn y dyfodol, Hefyd, daeth llawer o bobl i'r Deml nad oedd erioed wedi bod yma o'r blaen."
Daeth enillwyr y gystadleuaeth hefyd i'r ŵyl i dderbyn eu gwobrau. Enillodd Dylan Highgate i-pad ar gyfer ei ysgol, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cadog. Bydd ei gais, ymhlith eraill, ar gael drwy'r wefan yn fuan.
Daeth yr ŵyl i ben ar 1 Rhagfyr, gyda pharti a cherddoriaeth byw ym Milgi.
|
|
|
Canlyniad Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru
Ysgol Tryfan oedd enillydd Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru, yn dadlau yn erbyn y cynnig 'Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi methu."
Roedd Cian Sion and Zara Abas wrth eu boddau gyda’r dyfarniad, a chasglont eu gwobr.
Wrth siarad ar ran y beirniaid, sylwodd AM ar ansawdd uchel y ddadl, boed o ran yr arddull angerddol a huawdl a’r cynnwys clir ar fater mor gymhleth.
|
Cynlluniau’r Diwrnod Llaw Goch
Mae Cangen CCU Caerdydd a’r Cylch yn cynllunio digwyddiad i nodi’r Diwrnod Llaw Goch, diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth am blant sy’n filwyr.
Bydd hyn yn cynnwys sesiwn ddadlau gyda chyfranogiad ysgolion yn y prynhawn a digwyddiad gyda'r nos gyda siaradwyr.
Digwyddiad Keith Best yng Ngogledd Cymru
Rhoddodd Keith Best, Prif Weithredwr yr elusen Freedom from Torture, ddarlith mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gangen Menai CCU ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd y ddarlith yn canolbwyntio ar ymchwil diweddar gan Freedom for Torture i arteithio yn Sri Lanka: "Mae’r hyn yr ydym wedi ei ddogfennu yn destun pryder mawr, ac yn fwy felly oherwydd yn amlwg dim ond pigyn y rhewfryn yw hyn," meddai Keith Best.
|
|
Gweledigaeth Carwyn Jones ar gyfer Cymru yn y Byd
Dadleuodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y dylai Cymru ddyrnu'n uwch na'i phwysau yn y Byd.
Gan gyffwrdd ar bynciau mor amrywiol â datblygu rhyngwladol, masnach ac uwchgynhadledd NATO'r flwyddyn nesaf, dadleuodd y Prif Weinidog yn gryf dros Gymru allblyg.
Cynhaliwyd trafodaeth ar ôl yr araith gyda’r panelwyr Syr Emyr Jones Parry, cyn Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Cenhedloedd Unedig; Mutale Merrill OBE, Prif Weithredwr BAWSO; Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru; a Fran Dickson, Ymchwilydd PhD yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
|
Llwybr Heddwch
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Deml Heddwch yn 75 oed, datblygodd Intern UNA Rebecca Dunn Lwybr Heddwch yng Nghaerdydd, er mwyn i bobl allu archwilio ochr arall o Gaerdydd. Mae'r daith gerdded 1.2 milltir ar gael i'w llwytho i lawr am ddim oddi ar y wefan, ac mae’n cynnwys nifer o fannau heddwch yng Nghaerdydd, o arddangosfa Bugeiliaid y Stryd yn Stori Caerdydd i’r Ardd Heddwch.
Cofio Mandela
Ychwanegodd dilynwyr WCIA eu teimladau ar Facebook am Nelson Mandela, a fu farw yn ei gartref ar 5 Rhagfyr.
Meddai Peter Sutch, Uwch Ddarlithydd mewn theori wleidyddol a rhyngwladol a Chyfarwyddwr Astudiaethau mewn Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Roedd Mandela yn cynrychioli safon y wladweiniaeth y dylem ei ddisgwyl gan ein harweinwyr, hyd yn oed ar gyfer y rhai hynny y mae eu hymdrechion eu hunain yn enw dynoliaeth yn eithriadol.
Pan ymwelodd Desmond Tutu â’r Deml Heddwch yn ystod digwyddiad Tutu foundation, roedd ei deyrnged i Mandela, fel dyn y mae ei ddioddefaint wedi gwneud iddo ddeall heddwch a maddeuant, yn ysbrydoledig. "
|
|
|
|