Copy
Y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru. l i dderbyn yr e-newyddion yn Saesneg.

Ewrop, beth yw'r pwynt?

Mae digon o bethau'n digwydd ar draws Cymru i'ch helpu i benderfynu yn etholiadau Ewrop, a gynhelir ar 22 Mai 2014.

Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a Phrifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad Ewrop, beth yw'r pwynt? yn y Ganolfan Ddogfennaeth Ewropeaidd ym Mangor ar 14 Mai, 6.00-8.00pm. Bydd dadlau, trafodaeth a chyfle i rannu barnau. Dywedodd Chris Thompson, trefnydd y digwyddiad: "Mae hwn yn gyfle i bawb, yn cynnwys y rhai sydd heb wybodaeth flaenorol am Ewrop, gael gwybod beth yw'r prif faterion, a'r manteision a'r anfanteision o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac efallai penderfynu sut i bleidleisio!"

Mae'r digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, Prifysgol Bangor a Chynghrair y Trethdalwyr. Gallwch gael mwy o wybodaeth a chofrestru yma.

Yn y Pierhead, Caerdydd ar 10 Ebrill, 6.00-8.00pm, bydd Chwarae Teg yn cynnal dadl yn null Amser Cwestiynau a elwir Lle'r Fenyw yn Ewrop.

Mae'r digwyddiad hwn, a noddir gan y Swyddog Llywyddu, Y Fonesig Rosemary Butler AC, yn darparu cyfle am drafodaeth gyda'ch ymgeiswyr ASE a chlywed sut fyddent yn cynrychioli menywod a theuluoedd yng Nghymru pe baent yn cael eu hethol.

Bydd y Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o'r prif Bleidiau gwleidyddol dan lywyddiaeth Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg.  Dysgwch fwy neu cofrestrwch yma drwy e-bost.

Digwyddiad newid yn yr hinsawdd

Ar 4 Ebrill, bydd Machynlleth yn gwahodd arbenigwyr newid yn yr hinsawdd, pobl gyda phrofiad o'r newid yn yr hinsawdd, a'r cyhoedd i ddod at ei gilydd i ddysgu am wyddor newid hinsawdd a beth allant hwy ei wneud i greu gwahaniaeth.

Mewn diwrnod o sgyrsiau, trafodaethau, arddangosfeydd, theatr a mwy, bydd y digwyddiad yn sicrhau bod gwyddor newid hinsawdd yn hawdd ei deall, gan astudio'r effeithiau ar Gymru ac Affrica a sut gellir dylanwadu ar newid.

Mae'r WCIA yn bartner digwyddiadau i'r trefnwyr Rhwydwaith Affrica Canolbarth Cymru. Cofrestrwch yma.

Intern Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA) newydd 

Mae'r WCIA yn falch o groesawu Hazel McDonald fel Intern UNA. Bydd Hazel yn recriwtio aelodau newydd, yn datblygu gwefan yr UNA ac yn cydweithio gyda'r canghennau a'r aelodau presennol i gryfhau gwaith UNA Cymru. Ymunwch yma.  

Anne Clwyd AS yn hybu hawliau dynol 

Rhoddodd Anne Clwyd AS ddarlith gyhoeddus a fynychwyd gan dros 60 o bobl ddydd Mercher diwethaf ym Mhrifysgol Bangor:

Ganwyd a magwyd Anne Clwyd, sy'n 76 oed, yng Ngogledd Cymru ac aeth i Ysgol Ramadeg Treffynnon a Phrifysgol Bangor. Gweithiodd fel Rheolwr Stiwdio i'r BBC ac yn ddiweddarach fel Gohebydd Cymru i'r Guardian a'r Observer cyn dod yn AS dros Gwm Cynon ym 1984. Anne oedd y wraig gyntaf erioed i sefyll fel aelod seneddol yng Nghymoedd Cymru.

Pwysleisiodd Anne yr angen hanfodol am barhau i amlygu torri hawliau dynol a dal y rhai hynny'n sy'n euog o drosedd dybryd yn gyfrifol.

Gyda thristwch amlwg, cyfeiriodd at y diffyg diddordeb ymddangosiadol gan y rhan fwyaf o'r ASau yn Senedd y DU yn y pwnc Hawliau Dynol.

Yn newyddion UNA-UK, maent yn cynllunio ar gyfer ymgyrchoedd Etholiad Cyffredinol 2015 ac etholiad Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2016. Hefyd, mae Staying Connected ar 29 Mawrth yn Llundain wedi cael ei drefnu gan Bwyllgor Gweithdrefnau'r UNA-UK i ddiweddaru'r aelodau ar Gynhadledd Polisi 2013 yr UNA-UK.

Cystadleuaeth Debating Matters

Enillodd Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd Rownd Derfynol Dadleuon Rhanbarthol De Cymru a'r Gorllewin. Dyma'r drydedd flwyddyn i Gaerdydd gyrraedd y Rownd Derfynol Ranbarthol, a'r ail flwyddyn iddynt gyrraedd y Rownd Derfynol Genedlaethol.

Ymgyrch i wneud bananas yn deg

Eleni aeth pythefnos Masnach Deg yn bananas gyda'i digwyddiadau, gan orffen gyda gŵyl fananas Foncho yn Abertawe.

Amlygodd yr ŵyl yr arferion masnachu annheg sy'n effeithio ar ffermwyr bananas. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae pris bananas yn y siopau wedi haneru, ond mae pris cynhyrchu wedi dyblu.

Mae'r bananas rhad hyn yn bygwth dyfodol ffermwyr fel Foncho, y ffermwr bananas o Golombia a hedfanodd i'r DU i ofyn i Vince Cable ymchwilio i'r arferion prisio annheg yn yr uwchfarchnadoedd a gweithredu i amddiffyn cynhyrchwyr hoff ffrwyth y DU.  Darllenwch fwy, a gweld sut gallwch chi helpu.

Pen-blwydd Hapus Maint Cymru

Fis Mawrth eleni, mae gan Maint Cymru lawer i'w ddathlu.  Nid yn unig mae blwyddyn wedi mynd heibio ers iddynt gyrraedd eu targed o £2 filiwn i helpu i ddiogelu ardal o goedwig law o Faint Cymru, ond mae'n bedair blynedd ers iddo gael ei sefydlu yn 2010.

Bydd Maint Cymru'n adeiladu ar ei lwyddiant trwy barhau i uno a chysylltu cymunedau, mudiadau ac ysgolion ar draws Cymru â phrosiectau yn Affrica a De America sy'n cefnogi rheoli adnoddau coedwig yn gynaliadwy. Edrychwch ar ddathliadau Maint Cymru.

Ein digwyddiadau

Ewrop: Beth yw'r pwynt?
14 Mai, 5.00-7.00yh, Prifysgol Bangor
Cofrestrwch yma

Affrica - Cymru Newid yn yr Hinsawydd
Rhwydwaith Affrica Canolbarth Cymru. 4 Ebrill, 9.30-6.00yh, Y Plas, Machynlleth. Cofrestrwch yma
 

CEWC 

Gweithdai datblygiad proffesiynol AM DDIM - 'Connecting Classrooms'

1 Ebrill, 1.00-4.00yr, Temple of Peace, Caerdydd
7 Ebrill, 1.00-4.00yr, Prifysgol Glyndwr, Wrecsam 

Cofrestrwch yma

Dyddiadau eraill ar gyfer eich dyddiadur

Awr Ddaear WWF
29 Mawrth 2014, 8:30-9:30yr

Sgwrs Diwygio’r Cenhedloedd Unedig, CCU Caerdydd a'r Cylch
8 Ebrill , 7:00yh-9:00yh gyda Edwin Egede

Fforwm y Cenhedloedd Unedig
28 Mehefin, Neuadd Ganolog San Steffan
Ar agor i bawb. Gostyngiadau i aelodau UNA. 

Cyfarfod wythnosol yng Nghanolfan Rheolaeth Bangor , Grŵp Trafod LA CORUNA, 3:30yh-6:00yh .
Anfonwch e-bost at Mike am ragor o wybodaeth.

Ymunwch a ni 
Cefnogwch y WCIA - dysgwch fwy.

Ymunwch ag UNA Cymru ac UNA-UK.

DY blogiau diweddaraf

Cydraddoldeb rhywiol
Prydain ac Affrica ar ôl 50

Bwriwch olwg ar yr ymgyrchoedd eraill sy'n digwydd ar draws Cymru

 
Copyright © 2014 Welsh Centre for International Affairs (WCIA), All rights reserved.





 
Email Marketing Powered by Mailchimp