Uwchgynhadledd Lwyddiannus
Areithiau allweddol ysbrydoledig a phwerus oedd trefn y dydd yn yr Uwchgynhadledd Ryngwladol, a gynhaliwyd ar ddiwrnod braf ym mis Mawrth yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
"Roedd yn ddigwyddiad bywiog a diddorol "meddai Prif Weithredwr Cynorthwyol WCIA, Susie Ventris-Field, a fynychodd y digwyddiad : “Gyda thua 330 o gynrychiolwyr, rhoddodd gyfle i nifer o sefydliadau ddod at ei gilydd i drafod sefyllfa unigryw datblygu rhyngwladol yng Nghymru, sydd wrthi’n datblygu".
Siaradodd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn angerddol am gyfraniad Cymru i Affrica . Fe wnaeth hefyd gefnogi materion LHDT a hawliau dynol. Pŵer oedd y thema allweddol yn neges Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Datblygu Menywod Affrica, Theo Sowa. Dadleuodd bod pŵer wedi’i wreiddio ym mhob un ohonom, ac ychwanegodd na ddylai tlodi fod yn gyfystyr â diffyg pŵer. Cefnogodd y Farwnes Glenys Kinnock hawliau gweithwyr a sut i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb yn y gwaith.
Gallwch gael mynediad i adnoddau o’r pedwar ar ddeg o weithdai gwahanol a gynhaliwyd yn y digwyddiad drwy dudalen Adnoddau Uwchgynhadledd yr Hub . Ail-fywiwch y dadleuon ar twitter # W4A2014.
|
|
|
Digwyddiad newid yn yr hinsawdd
Y mis hwn, cyhoeddwyd adroddiad pwysig gan y Cenhedloedd Unedig ar effeithiau Newid yn yr Hinsawdd, y mae'n eu disgrifio fel newidiadau "trychinebus” i hinsawdd y byd. Ychwanegodd: "Rhai o'r cymunedau tlotaf yn y gwledydd tlotaf yn y byd sy’n mynd i gael eu heffeithio fwyaf.” Mae Oxfam yn esbonio uchafbwyntiau'r adroddiad mewn blog.
Gyda bygythiad newid yn yr hinsawdd, mae'n amser pwysig i drafod y materion hyn ar gyfer Cymru ac Affrica. Cynhaliwyd Cynhadledd Newid yn yr Hinsawdd Affrica - Cymru ym Machynlleth ar 4 Ebrill. Esboniodd siaradwyr y wyddoniaeth y tu ôl i Newid yn yr Hinsawdd ac edrychont ar y potensial ar gyfer mesurau lliniaru. Roedd WCIA yn bartner yn y digwyddiad, oedd yn dangos newid yn yr hinsawdd drwy theatr a phypedau. Darganfyddwch fwy.
|
'Free & Equal Campaign'
'Free and Equal Campaign' yw ymgyrch addysg gyhoeddus fyd-eang y Cenhedloedd Unedig i godi ymwybyddiaeth a pharch tuag at gydraddoldeb pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT). Bydd UNA Cymru yn hyrwyddo’r ymgyrch hon dros y misoedd nesaf .
Mae cydraddoldeb LHDT wedi bod i fyny ac i lawr dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gyda chamau mawr ymlaen fel cydraddoldeb priodas yn Seland Newydd yn cyferbynnu â newyddion drwg megis ymosodiadau ar orymdaith gay pride ym Montenegro .
I ddysgu mwy am yr ymgyrch hon, ewch i dudalen ymgyrchoedd y wefan ac i’n blog. Bydd digwyddiad ymgyrchu yn cael ei gynnal yn hwyrach yn y flwyddyn.
|
|
Byth Eto
Roedd 7 Ebrill yn nodi 20 mlynedd ers yr Hil-laddiad yn Rwanda, pan ddechreuodd ymosodiad ffyrnig ar y grŵp ethnig lleiafrifol Tutsi dan glawr rhyfel. Mewn mater o wythnosau, cafodd 800,000 o ddynion, menywod a phlant eu lladd yn yr hil-laddiad yn Rwanda - hyd at dri chwarter y boblogaeth Tutsi gyfan.
Sefydlwyd y Cyfrifoldeb i Warchod (R2P) o ganlyniad i ddigwyddiadau fel Hil-laddiad Rwanda, gyda’r nod o roi terfyn ar erchyllterau o'r fath drwy sicrhau gallu’r wladwriaeth a’r gymuned ryngwladol i warchod poblogaethau sifiliaid rhag troseddau enbyd yn erbyn hawliau dynol .
Mae UNA - UK yn ymgyrchu i lywodraeth y DU gyflawni ei chyfrifoldebau Cyfrifoldeb i Warchod, gweithredu egwyddorion Cyfrifoldeb i Warchod yn gadarn, ac atal troseddau erchylltra mas ar raddfa fawr fel Hil-laddiad Rwanda rhag digwydd yn y dyfodol. Gallwch gyfrannu at yr ymgyrch hon trwy lofnodi'r llythyr wedi ei gyfeirio at Mark Simmonds AS , y Gweinidog dros Faterion Gwrthdaro yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad .
|
Cyffro Etholiadau Ewrop
Wrth i Etholiadau Ewrop agosáu, mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru.
Ym mis Mawrth, cynhaliwyd trafodaethau yn Abertawe "Wales’ cultural life has been enriched by European immigrants" a “European Parliament Elections”
Bydd trafodaethau'n parhau ym mis Ebrill a mis Mai - “What has the European Commission ever done for us?” ym Mhrifysgol Caerdydd, a “Ewrop:Beth yw’r Pwynt?” ym Mhrifysgol Bangor. Dysgwch bopeth ynghylch Etholiadau Ewrop neu lleisiwch eich barn a chwiliwch am ddigwyddiadau yn agos atoch chi gyda’n calendr digwyddiadau.
|
|
|
|