Gower Power – Enillwyr cystadleuaeth mentrau cymdeithasol Ignite
Croeso i gylchlythyr Adfywio Cymru ar gyfer mis Mai. Rydym yn cynhyrchu cylchlythyr bob mis, ble’r ydym yn crynhoi datblygiadau diweddaraf Adfywio Cymru a phrosiectau eraill sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Yn ogystal â chrynhoi’r newyddion (isod), byddwn yn rhoi sylw penodol i rai prosiectau sydd wedi mynd â’n bryd, un ai am eu bod yn llwyddiannus iawn eisoes neu fod ganddynt y potensial i lwyddo ac a all fod yn ysbrydoliaeth i grwpiau a mudiadau eraill. Y mis yma, rydym yn canolbwyntio ar y darparwr ynni solar o Abertawe, Gower Power, a ddewiswyd yn ddiweddar fel un o’r deg buddugwr yn y gystadleuaeth Big Energy Idea gan y gronfa buddsoddi cymdeithasol, Ignite. Mae Adfywio Cymru wedi rhoi cymorth i Gower Power yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roeddem wrth ein bodd yn eu gweld yn ennill. Gallwch ddarllen astudiaeth achos lawn o’u rhaglen fuddugol drwy ddilyn y ddolen uchod.
|
|
|