Tîm Cymru yn mynd i Wlad Thai
Mae tîm o bedwar o fyfyrwyr o Gymru yn paratoi ar gyfer Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd yng Ngwlad Thai ym mis Awst.
Bydd Euan McGivern (Coleg Cambria, Wrecsam), Dafydd Foster - Davies (Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Maesteg), Rhys Steele (Ysgol Uwchradd yr Esgob yng Nghymru Llandaf, Caerdydd) a Ciara Berry (Ysgol Gyfun Radur, Caerdydd) yn hedfan i Bangkok i gystadlu yn erbyn y dadleuwyr gorau o bob cwr o’r byd.
I gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth, cymerodd myfyrwyr ran ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru, ac yna, mewn penwythnos ddethol, cyn cael eu dewis ar gyfer carfan Tîm Cymru .
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer y Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru nesaf, a fydd yn cael eu cynnal yn yr hydref. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma.
Mae WCIA yn monitro’r sefyllfa sy’n datblygu yng Ngwlad Thai, ac yn gweithio gyda rhieni a threfnwyr i sicrhau diogelwch y myfyrwyr.
|
|
|
Ymunwch ag UNA
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, gallwch ymuno ag UNA mewn sawl ffordd.
21 Mai yw Diwrnod y Byd ar gyfer Amrywiaeth Ddiwylliannol a Datblygiad, a 29 Mai yw Diwrnod Rhyngwladol Heddychwyr y Cenhedloedd Unedig. Rydym yn bwriadu rhoi rhywfaint o negeseuon ar Twitter a Facebook i hybu ymwybyddiaeth o’r dyddiau hyn ac UNA, ond byddem wrth ein boddau’n cael syniadau gennych chi ynghylch sut y gall cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio i ledaenu'r gair. Anfonwch eich syniadau drwy e-bost.
Mae ymgyrch UNA - UK i Atal Erchyllter, yn ogystal ag ymgyrchoedd eraill ar draws Cymru, yn cael eu rhestru ar ein gwefan i'w gwneud yn haws i chi gymryd rhan yn y materion sy'n bwysig i chi.
Mewn newyddion arall, mae digwyddiad Rhad ac am Ddim UNA Cymru sydd wedi’i gynllunio ar gyfer mis Tachwedd gyda Peter Tatchell a Stonewall Cymru yn mynd rhagddo, a bydd dyddiadau yn cael eu cadarnhau cyn bo hir.
Yn union cyn Wythnos y Ffoaduriaid (16-22 Mehefin), mae Cangen UNA Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar y sefyllfa bresennol yn Syria. Meddai Intern UNA Cymru, Hazel McDonald: "Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn gyfle da i bobl a sefydliadau yng Nghymru i drefnu rhywbeth yn eu hardaloedd nhw i godi ymwybyddiaeth, yn enwedig gan fod sefyllfa ffoaduriaid Syria yn cael gymaint o sylw ar hyn o bryd.”
|
WCIA bellach yn sefydliad elusennol corfforedig
Trosglwyddwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru i statws sefydliad corfforedig elusennol (SCE) ar 1 Mai, 2014.
Endidau cyfreithiol newydd yw SCEau a grëwyd gan y Comisiwn Elusennau, sy’n debyg i gwmni cyfyngedig, ond sydd ond ar gael i elusennau. Y rhif elusen newydd ar gyfer CMRhC yw 1156822 (259,701 gynt). Gellir cael manylion am y SCE ar wefan y Comisiwn Elusennau.
Penderfynodd yr ymddiriedolwyr newid pethau gan fod y SCE yn endid cyfreithiol mwy addas ar gyfer yr elusen sy'n tyfu.
|
|
Ymuno â CEWC
Gallwch ddod yn aelod o CEWC am lai na 10c fesul myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Pa un ai Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru, hyfforddiant Athroniaeth i Blant i athrawon ynteu Model y Cenhedloedd Unedig, mae gweithgareddau CEWC yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin hyder, sgiliau beirniadol a sgiliau meddwl creadigol a chyfathrebu ac ar yr un pryd, yn galluogi athrawon i gyflwyno sgiliau allweddol yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Sgiliau, a themâu craidd ADCDF, Bagloriaeth Cymru ac ABCh.
Os ydych yn aelod, gallwch gael gostyngiad ar gyfer bob un o’r gweithgareddau hyn. Darganfyddwch fwy ac ymunwch
|
Goleuadau i ffwrdd fel rhan o ymgyrch awr ddaear
Ymunodd Cymru â 162 o wledydd i ddiffodd eu goleuadau fel rhan o ymgyrch awr ddaear WWF y mis diwethaf.
Ymunodd y Senedd, Castell Caernarfon a 235 o ysgolion yng Nghymru â thirnodau fel Adeilad yr Empire State a Phont Harbwr Sydney, a diffodd eu goleuadau.
Mae Awr Ddaear yn ddathliad symbolaidd o’r blaned, ac yn gyfle i bobl fyfyrio ar y pethau y gallant eu gwneud i greu dyfodol mwy disglair.
|
|
|
|