Canlyniad Ewrop
Mis diwethaf, ffafriodd lawer o’r 28 o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd bleidiau adain dde eithafol yn ystod etholiadau Senedd Ewrop.
Dadleuodd digwyddiad WCIA, Europe: What’s the Point? y materion cyn yr etholiadau.
Yn ystod y digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 14 Mai, bu tri siaradwr blaenllaw yn dadlau'r achos o blaid ac yn erbyn bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd a’i ddiwygio.
Roedd yn fformat newydd ar gyfer digwyddiad, a oedd yn cynnwys trafodaethau bwrdd crwn cyn ac ar ôl pob siaradwr, gyda digon o amser ar gyfer cwestiynau ac atebion.
"Cafodd y digwyddiad gymaint o ganmoliaeth gan y rhai hynny a gymerodd ran, ac roedd llawer mwy o ryngweithio rhwng siaradwyr a'r gynulleidfa" meddai Chris Thompson, a drefnodd y digwyddiad ar ran y WCIA.
Diolch yn fawr i Brifysgol Bangor, partneriaid y digwyddiad a'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru am gefnogi’r digwyddiad.
Cliciwch ar y dolenni i weld lluniau o’r digwyddiad a’r sylw a gafodd yn y cyfryngau cymdeithasol.
|
|
|
Cyrsiau am ddim ar gyfer athrawon
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer cyrsiau ‘Connecting Classrooms’ rhad ac am ddim sydd yn cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Gorffennaf.
Bydd y cyrsiau diwrnod a hanner yn archwilio cyfleoedd a manteision dinasyddiaeth fyd-eang, ac yn darparu ffynonellau i gefnogi integreiddio dinasyddiaeth fyd-eang a gwaith rhyngwladol yn eu hysgolion.
I ddysgu mwy am y cyfle hwn ac i gofrestru, cliciwch yma.
Pencampwriaeth Dadlau 2014 yn agor
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer Pencampwriaeth Dadlau Ysgolion Cymru drwy wefan CEWC.
|
Llongyfarchiadau Caerdydd
Mae Caerdydd wedi cael ei chydnabod yn swyddogol fel dinas noddfa, ac yn ymuno ag Abertawe fel yr 2il Ddinas yng Nghymru i wneud hynny.
Mudiad cenedlaethol o bobl leol, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau yw Dinas Noddfa sydd wedi dod at ei gilydd oherwydd dymuniad cyffredin i wneud eu dinas yn lle croesawgar i bobl sy'n ceisio lloches rhag rhyfel neu erledigaeth. Mae taith gydnabyddiaeth Caerdydd wedi cymryd dwy flynedd.
"Mae'r penderfyniad hanesyddol yn anfon neges o obaith ac optimistiaeth, croeso a chynhwysiant ar adeg pan mae pobl ei angen fwyaf," meddai Jim Stewart o dîm noddfa Dinas Caerdydd.
Ddydd Sadwrn 21 Mehefin am 11:00am, yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid, bydd digwyddiad cydnabod yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays.
|
|
Miliynau ar goll
Cafodd ein hymgyrch #Bring back our girls sylw gan y wasg ryngwladol ym mis Ebrill, pan gafodd mwy na 200 o ferched eu cipio o’u hysgol yn Nigeria.
Mae'r stori newyddion hon yn un enghraifft o'r gwahaniaethu ar sail rhyw sy'n dal i effeithio miliynau o bobl ar draws y byd, y dywedir sydd oherwydd mynediad i gyfleusterau iechyd a diwylliant sydd fwy ar gyfer bechgyn, sydd i’w cael mewn sawl rhan o'r byd. Mae rhai yn amcangyfrif bod nifer y menywod sydd ar goll yn hafal â maint poblogaeth Ynysoedd y Philippines.
Mae un o'n gwirfoddolwyr wedi ysgrifennu blog i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â'r anghysondebau rhwng y rhywiau.
|
Digwyddiadau Lu!
Wrth i rai arafu ar gyfer tymor poeth yr haf (gobeithio), mae'r calendr digwyddiadau yng Nghymru’n llawn dop.
Ddydd Mercher 13 Awst, i ddathlu Blwyddyn Ffermio Teuluol y Cenhedloedd Unedig, bydd UNA Cymru yn Sioe Bro Morgannwg yn lledaenu'r gair a gobeithio, casglu aelodau newydd. Cofiwch alw heibio i ddweud helo os ydych yn mynd i fod yno a phrofwch eich gwybodaeth am y Cenhedloedd Unedig drwy gymryd rhan yn ein cwis ar thema’r Cenhedloedd Unedig. Bydd yr enillydd yn cael losin.
Bydd nofel wleidyddol Gymraeg, A Welsh Dawn (Y Lolfa) yn cael ei lansio'n ffurfiol ym mis Gorffennaf, ac mae gan y deml heddwch brif rôl! Mae'n edrych ar y tirwedd gwleidyddol yn y 50au ac yn olrhain gwreiddiau datganoli cyfansoddiadol yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Gweler y bar ar yr ochr i weld digwyddiadau diddorol eraill sydd yn cael eu cynnal ar draws y wlad.
|
|
|
|