Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - Newyddion a Digwyddiadau Mehefin 2016
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Dathlu Gorffennol a Phresennol y Dref! Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon
Dewch draw i Dref Treftadaeth Blaenafon ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin o 11am-4pm am ddiwrnod llawn hwyl ac adloniant i'r teulu.
-Ffair o gyfnod Victoria
-Pwnsh a Jwdi
-Cerddoriaeth fyw
-Stondinau crefft
-Bargeinion yn siopau’r dref
-Ffair Grefftau a gweithgareddau i blant yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae'r Orymdaith mewn Hen Wisgoedd yn dechrau am 1.00pm o ben uchaf Heol Lydan ac yn symud ymlaen drwy'r dref. Thema'r orymdaith eleni yw 'Blaenafon Ddoe a Heddiw', sy'n dathlu gorffennol diwydiannol y dref, a hefyd yr hyn sy'n gwneud y dref yn unigryw heddiw. Mae pawb, hen ac ifanc yn mwynhau'r orymdaith, felly dewch draw, mae croeso i bawb! Eleni, anogir gwisgoedd modern yn ogystal â dillad mwy traddodiadol! Mae ein hoff artistiaid yn dychwelyd i weithio gyda'r ysgol leol, i greu gwisgoedd a baneri ar gyfer yr orymdaith.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Treftadaeth y Byd, ewch i 01495 742333 - www.visitblaenavon.co.uk
Beth am fod yn Filwr Bywyd Gwyllt!
Os ydych yn hoffi bywyd gwyllt a mwynhau'r awyr agored yna'r Milwyr Bywyd Gwyllt yw'r clwb i chi. Mae'r clwb yn agored i blant rhwng 7-11 mlwydd oed. Rydym yn cyfarfod unwaith y mis yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau amgylcheddol. Yn ystod 2016 byddwn yn dysgu sgiliau ysgol goedwig, gwylio adar, olrhain a monitro bywyd gwyllt, trochi mewn pwll a llawer mwy!
Byddwn yn cynnal sesiynau blasu ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon am 12pm, 2pm a 3pm. Mae ein sesiynau blasu yn gyfle perffaith i roi cynnig ar rai o'r gweithgareddau sydd ar gael a chael gwybod sut i ddod yn aelod. Mae'r sesiynau blasu am ddim ac nid oes angen bwcio ymlaen llaw. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, ffoniwch 01495 742333. - www.visitblaenavon.co.uk     
  
Dathliad o draddodiadau llafar Cymru, a gynhelir dros sawl safle Cadw. Dewch i ddarganfod mwy fel rhan o Haf o Straeon.
Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn cynnal eu digwyddiad ar 3 Mehefin – 11-4pm – am ddim
Mae Cymru yn enwog yn fyd-eang am ei llenyddiaeth a'i barddoniaeth, a'r haf hwn gallwch brofi'r gorau o gyfoeth traddodiad adrodd straeon Cymru. Ar y cyd â'r Haf o Straeon, mae Cadw yn eich gwahodd i ymuno â chwedleuwr yn un o'r safle ar draws y wlad i ddathlu treftadaeth llafar Cymru.
Gwrandewch ar straeon sy'n seiliedig ar gymeriadau hanesyddol, chwedlau a mythau o bob cwr o Gymru. Galwch mewn i wrando ar stori sy'n seiliedig ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Gall pob stori bara hyd at 30 munud. Nid oes angen archebu.
www.summerofstories.org.uk
Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon ym Mehefin
 Daw Mehefin â dau ddigwyddiad poblogaidd i'r rheilffordd. Ar 18 Mehefin mae ein noson Dirgelwch Llofruddiaeth boblogaidd yn dechrau am 7pm ac yn cynnwys bar ar y trên a bwffe, yn ogystal â'r cyfle i ddatrys y dirgelwch. Rhaid bwcio lle a'r gost yw £20 y pen.
 O'r 24ain i'r 26ain cynhelir ein gala stêm, a bydd trenau gwadd yn ymuno â'n peiriannau ein hunain ar gyfer gorymdaith stêm. Nid oes angen bwcio lle dim ond galw heibio ar y diwrnod.
Ewch i: http://pontypool-and-blaenavon.co.uk/

Community News

Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn Ennill Achrediad Llawn
Mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Gweithwyr ysblennydd dan ofal tîm o wirfoddolwyr cyfeillgar, yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol falch Blaenafon a chymoedd glo de Cymru.
Mae’n bleser gan yr amgueddfa gyhoeddi ei bod wedi derbyn Statws Amgueddfa ag Achrediad Lawn gan Gyngor y Celfyddydau ac Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Mae'r achrediad hwn yn cydnabod cadw at safonau proffesiynol o ran sut y maen nhw’n cael eu rheoli, y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig a sut y maen nhw’n gofalu am eu casgliadau.
Mae'r gwirfoddolwyr yn awr yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy ddatblygu cyfleoedd addysgol a thwristiaeth fel eu harchif teulu a hanes lleol helaeth. Os hoffech chi ymuno â'r amgueddfa, e-bostiwch blaenavonmuseum@outlook.com

Cymuned Blaenafon yn dathlu 200 mlynedd ers agor Ysgol San Pedr
Mae plant o Ysgol WR Treftadaeth Blaenafon, ac aelodau o grwpiau cymunedol lleol, wedi dod at ei gilydd i ddathlu 200 mlynedd ers agor Ysgol San Pedr ym Mlaenafon.
 Mae adeilad yr ysgol, sydd bellach yn rhan o Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell, a sefydlwyd ym 1816 gan Sarah Hopkins er cof am ei brawd, Samuel Hopkins, Haearn Feistr ym Mlaenafon.
Yr oedd yn un o'r ysgolion rhad ac am ddim gyntaf yng Nghymru i gael ei adeiladu gan gyflogwr diwydiannol er lles plant y gweithwyr.
 Mae Arddangosfa Deucanmlwyddiant Ysgol San Pedr ar agor yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell a bydd yn parhau yno tan 10 Mehefin.  Anogir pobl ag atgofion am Ysgol San Pedr i ddod draw a rhannu eu straeon.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ar 01495 742333 neu e-bostiwch blaenavon.tic@torfaen.gov.uk

 

Hawlfraint © 2016 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS