Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - Newyddion a Digwyddiadau Gorffennhaf 2016
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website
Digwyddiadau ac Atyniadau
Suliau’r Haf yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Drwy gydol yr haf, bydd tiroedd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn fyw gyda sŵn cerddoriaeth, dawns a chelf wrth i ni gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn yr awyr agored.
Dydd Sul 17 Gorffennaf 2-4pm Band Tref Blaenafon
Dydd Sul 24 Gorffennaf 2-4pm Band Cyngerdd Blaenafon
Dydd Sul 31 Gorffennaf 2-4pm Paisley Bird - Celf a Chrefft Greadigol
Dydd Sul 7 August 2-4pm - Picnic Tedi Bêrs

Felly p'un a ydych yma ar gyfer y gerddoriaeth neu'r hwyl i'r teulu, gwnewch y gorau o'ch Suliau Haf gyda chinio neu de hufen yn yr Ystafell De Treftadaeth a mwynhewch yr olygfa! Am fwy o wybodaeth ewch i www.visitblaenavon.co.uk

   
Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon
Mae'r trenau yn parhau i redeg ar benwythnosau trwy gydol mis Gorffennaf. Uchafbwynt y mis yw'r Penwythnos Adeg Rhyfel ar 9 a 10 Gorffennaf. Dewch i weld sut oedd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd – bydd llawer o filwyr a sifiliaid mewn gwisgoedd. Beth am wisgo yn steil y cyfnod eich hun?
Bydd y trenau yn dechrau rhedeg ar ddydd Mercher 27 Gorffennaf. ’Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion…  
Dewch i fwynhau ein penwythnos Steampunk yng Ngwaith Haearn Blaenafon!
Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn thema Steampunk ac yn edrych ar ddylanwad arddull yr oes Fictoria ar y byd modern. Bydd technoleg heddiw yn adrodd hanes diwydiant yn arddull yr Oes Fictoria drwy hwyl a gemau, cerddoriaeth a ffasiwn, celf, comedi a moesau da Fictoraidd. Mwynhewch ornest de a Gemau Olympaidd Steampunk, yn ogystal â sgyrsiau, rapio, arddangosiadau a stondinau crefftau ar ddydd Sadwrn 2 a Dydd Sul 3 Gorffennaf. 10am -5pm. Mynediad am ddim. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion.

Newyddion Treftadaeth y Byd

Llysgenhadon Ieuenctid yn ennill prif wobr!
Mae'r Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd yn falch iawn i fod wedi ennill Grŵp Gwirfoddolwyr Cenedlaethol y flwyddyn WCVA! Cafodd y grŵp eu henwebu gan Gyngor Tref Blaenafon am y gwaith y maent wedi'i wneud o fewn y safle, a thrwy gydol Uwchgynhadledd Ieuenctid Treftadaeth y Byd UNESCO UK a gynhaliwyd ym mis Hydref 2015.
Mae Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd yn helpu pobl ifanc 13-25 oed i gael llais a rôl weithredol yn y gwaith o reoli Safle Treftadaeth y Byd, wrth gael llawer o hwyl!
Os hoffech ymuno â’r grŵp buddugol hon, cysylltwch â dan.oliver@torfaen.gov.ukneu ewch i'n gwefan www.visitblaenavon.co.uk/youthambassadors

Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon
Daeth miloedd o bobl i fwynhau diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon mis diwethaf. Mae diwrnod Treftadaeth y Byd yn uchafbwynt blynyddol yn y calendr digwyddiadau ac mae’n cynnwys perfformiadau cerddorol a dawns, adloniant stryd, stondinau a reidiau i blant.
Band lleol poblogaidd, the ReVamps, oedd y prif berfformwyr mewn ystod amrywiol o berfformiadau cerddorol, a chafodd torfeydd y pleser o weld cymysgedd o berfformiadau gwerin draddodiadol, perfformiadau cyfoes a pherfformiadau stryd ar y llwyfan dawns.
Uchafbwynt y diwrnod oedd yr Orymdaith Gwisg Treftadaeth, gyda phlant o Ysgol Treftadaeth Blaenafon, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol lleol yn gorymdeithio drwy'r dref.

Newyddion Cymunedol
Vive La Danse!
Daeth y wefan Blaenavonlife yn well na’r disgwyl yn ddiweddar pan roedd cwmni (Diwylliant a Theithio Ewropeaidd) sy’n dod â myfyrwyr o Ffrainc i'r DU heb ddim i’w wneud ac yn chwilio am ryw weithgaredd un prynhawn. Daethant o hyd i dîm dawnsio Cymreig lleol, Dawnswyr Blaenafon, ar wefan Blaenavonlife. Fe wnaeth galwad ffôn i Ysgrifennydd Dawnswyr Blaenafon, Jac Denley - Jones, arwain at 54 o fyfyrwyr 14 - 16 oed o Ffrainc ynghyd â chwe athro yn dysgu dawnsiau traddodiadol Cymreig yn awditoriwm Neuadd y Gweithwyr Blaenafon.

Roedd y myfyrwyr yn dod o Cambrai yng ngogledd Ffrainc, ardal lofaol a hefyd maes ymladd yn y Rhyfel Byd 1. Rhoddwyd bag Blaenafon i bob myfyriwr ac athro i gofio eu hymweliad.
Mwynhaodd y myfyrwyr eu hunain gymaint fel y bydd y cwmni yn cynnwys dawnsio gyda Dawnswyr Blaenafon yn Neuadd y Gweithwyr, Blaenafon, yn eu teithlen ar gyfer 2017.

Bwrdd Gwybodaeth yn Efail Garnddyrys o’r diwedd!
Mae'r grŵp gwirfoddol archeoleg Treftadaeth y Byd Blaenafon yn helpu i gadw, cynnal, gwella a hyrwyddo tirwedd naturiol a threftadaeth adeiledig o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Mae bwrdd gwybodaeth newydd wedi cael ei osod yn Efail Garnddyrys ar gyfer yr holl ymwelwyr hynny sy'n oedi ar y safle treftadaeth ddiwydiannol hudol hwn ac eisiau cipolwg o’r hyn y mae'r lympiau a bympiau yn y ddaear yn golygu. Gweler mwy o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar: Facebook 

 

Hawlfraint © 2016 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS