|
Y DU yn pleidleisio i adael yr UE wrth i Gymru benderfynu dilyn agenda gwrth-ewropeaidd
Ar 23 Mehefin, dewisodd pleidleiswyr adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda'r ymgyrchwyr Gadael yn ennill y bleidlais gyda 52% o’r pleidleisiau, a’r ymgyrchwyr Aros ond yn ennill 48% o’r pleidleisiau.
Profodd Cymru yn fwy gwrth-Ewropeaidd na Lloegr, gyda 52.5% yn pleidleisio dros Adael a 47.5% yn pleidleisio dros Aros.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn derbyn symiau uchel o arian gan UE - elw net tybiedig o £245 miliwn y flwyddyn.
Daw hyn fis ar ôl i aelodau UKIP gael eu hethol i Gynulliad Cymru am y tro cyntaf, a chwymp Tata Steel ym Mhort Talbot, sy'n cael ei ddadlau gan rai pobl ei fod wedi ei wneud yn waeth gan reolau cymorth gwladwriaethol yr UE.
Ar 8 Mehefin, cynhaliwyd dadl ar refferendwm yr UE gyda thri phanel yng Nghaerdydd. gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Trafodwyd cymdeithas a chyfraith, cysylltiadau mewnol a rhyngwladol, ac effeithiau ar swyddi a'r economi.
Mynegodd Dr Jo Hunt, o Ysgol y Gyfraith, Caerdydd, anhyblygrwydd yr UE o ran y cyfyngiadau a roddwyd ar waith, ond tynnodd sylw hefyd at y pwysigrwydd o gyfathrebu gyda’n gwledydd Ewropeaidd cyfagos.
Mynegodd pobl fel Dr Hywel Ceri Jones, y Farwnes Julie Smith a'r Arglwydd Dafydd Wigley eu barn am fanteision yr UE - fel undod, sylfaen ar gyfer gwella, a manteision cyllido i Gymru.
Ar y llaw arall, trafodwyd y manteision o adael yr Undeb Ewropeaidd gan David Rowlands o UKIP ac Alex Moscovici, Cadeirydd Myfyrwyr dros Brydain Caerdydd dros 'Adael', a Berwyn Davies. Roedd cytundebau masnach newydd, atebolrwydd gwleidyddol a sofraniaeth Brydeinig oll yn bynciau trafod.
Er gwaethaf buddugoliaeth yr ymgyrchwyr Gadael, mae'r dyfodol yn dal i fod yn ansicr wrth i ni gamu mewn i dir newydd. Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd sut fydd y penderfyniad hwn yn cyflwyno manteisio neu anfanteision i Gymru.
Meddai Martin Pollard, Prif Weithredwr WCIA, "Fel cenedl, rydym wedi’n rhannu ar y mater hwn, ac mae’r broses o hyn ymlaen yn ansicr. Felly mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ei gilydd i hyrwyddo gwerthoedd WCIA, sef heddwch, goddefgarwch, hawliau dynol a chydweithrediad rhyngwladol.
Dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi digonedd o gyfleoedd i’r cyhoedd yng Nghymru i drafod goblygiadau Brexit a dod o hyd i ffyrdd cyffredin i greu byd tecach, mwy heddychlon. "
I ddarllen mwy, cliciwch yma.
Penygroes yn Dathlu Pen-blwydd Pererindod Heddwch Menywod Gogledd Cymru yn 90 oed
Ymgynullodd mwy na chant o fenywod yn Neuadd Goffa Penygroes ar Fai 27 i ddathlu pen-blwydd Pererindod Heddwch Menywod 1926 yn 90 oed.
Daeth menywod ar draws Cymru, o Flaenau, Caernarfon, Llŷn a Wrecsam ynghyd i gofio a dathlu gorymdaith heddwch Gogledd Cymru a gynhaliwyd ym 1926.
Ar 19 Mehefin 1926, daeth nifer o grwpiau menywod at ei gilydd i drefnu pererindod heddwch i Hyde Park yn Llundain yn dilyn dinistr mawr yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth menywod ar draws Prydain yn ymgyrchwyr dros leihau arfau a setlo anghydfodau rhyngwladol.
Yng Ngogledd Cymru, dan arweinyddiaeth yr ymgyrchwyr heddwch Gladys Thoday a Silyn Roberts, dechreuodd 2000 o fenywod o gwmpas tref Penygroes yn Sir Gaernarfon yr orymdaith heddwch yn y dref farchnad yn cario’r faner las sy’n symboleiddio heddwch. Ar ôl teithio a chynnal 15 o gyfarfodydd dros 5 diwrnod ar draws pentrefi gogledd Cymru, cyrhaeddodd yr orymdaith Gaer cyn ymuno â mwy na 10,000 o fenywod i ymgyrchu dros heddwch yn Hyde Park..
I nodi’r pen-blwydd, dadorchuddiodd Dills O'Brien Owen, oedd yn 103 oed, blac coffa yn y fan ble dechreuodd 2000 o fenywod eu gorymdaith. Daeth cymuned Penygroes at ei gilydd i gofio, gyda phlant lleol yn canu ac yn arddangos gwaith celf wrth i fenywod rannu straeon.
Roedd y pen-blwydd yn nodi dathliad o dreftadaeth heddwch Cymru a rôl menywod Cymru mewn heddwch rhyngwladol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y pen-blwydd yn 90 oed, cliciwch yma. I ddarllen mwy am orymdaith heddwch 1926 Menywod Gogledd Cymru, cliciwch yma.
|
|
|
Gŵyl Durga Puja yn Olrhain Treftadaeth De Asia yng Nghymru
Mae Pwyllgor Puja Cymru, sef sefydliad elusennol, wedi dechrau prosiect i "ddathlu'r gymuned Bengali mawr sydd wedi ymsefydlu yn Ne Cymru, ac i olrhain hanes Gŵyl Durga Puja - traddodiad o ddathlu statws y Dduwies Durga. "
Gydag ymglymiad y gymuned a’r nod o gadw treftadaeth, bydd ‘Preserving the Heritage of Durga Puja Festival and Clay Image Making in Wales’ yn cynnwys archifo gwybodaeth a gasglwyd am yr ŵyl, ei harwyddocâd, a'i threftadaeth yng Nghymru sydd yn mynd yn ôl i'r 1970au cynnar.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd tan 5 Gorffennaf, lle bydd delweddau clai maint llawn yn cael eu gwneud gan ddau artist clai traddodiadol o Kolkata, ochr yn ochr â digwyddiadau diwylliannol amrywiol a fforymau trafod.
Mae'r prosiect hwn yn gam arwyddocaol o ran dathlu'r diwylliannau amrywiol yn Ne Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect a manylion am yr arddangosfa, ewch i wefan Pwyllgor Puja Cymru.
|
Sesiwn Holi ac Ateb: Pam mae Assad Mewn Pŵer o Hyd Er Gwaethaf Nifer o Ymyriadau?
Bum mlynedd ar ôl y protestiadau ‘Gwanwyn Arabaidd’ ar draws y Dwyrain Canol a dymchwel cyfundrefnau wedi hynny, mae amheuaeth o hyd ynghylch pam mae Assad yn dal i fod mewn grym yn Syria er gwaethaf ymyriadau niferus gan yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a Saudi Arabia - fel y gofynnodd aelod o’r gynulleidfa.
Ar 28 Ebrill yn y sgwrs "ISIL, Syria a'r Dwyrain Canol: Persbectif yr Unol Daleithiau",dywedodd y siaradwr gwadd Thomas Williams, y Gweinidog-Gwnselydd dros Faterion Gwleidyddol yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, bod esblygiad y safbwyntiau ar gyfeiriad Syria yn adlewyrchiad o'r sefyllfa tir sy'n newid yn barhaus.
"Y farn yn yr Unol Daleithiau yw bod angen proses o newid y cytunir arni dros lywodraeth newydd a dilys heb Assad. Mae safbwyntiau gwahanol ar y cyfeiriad y dylai Syria ei chymryd. Mae’n anodd dadlau yn erbyn y ffaith nad yw Rwsia wedi cryfhau Assad yn filwrol."
"Camau cadarnhaol fyddai cymryd y pŵer i ffwrdd oddi wrth y llywodraeth yn Syria drwy orchymyn y Cenhedloedd Unedig. Barn yr Unol Daleithiau yw mai trefn ddiplomyddol fydd yr arf gorau i'w ddefnyddio i ddod i gasgliad dros yr argyfwng. Rhaid i'r newid gael ei drafod yn fyd-eang. "
Mae'r gwrthdaro yn Syria yn ei chweched flwyddyn, ac mae llawer o ffoaduriaid o Syria yn awr yn byw mewn cymunedau lletyol ac mewn pebyll ffoaduriaid yn yr Iorddonen ac yn Libanus (UNHCR).
I ddarllen mwy, cliciwch yma.
|
|
Caerdydd yn Sefyll mewn Undod Dros yr AS Jo Cox
Daeth mwy na chant o bobl at ei gilydd yng Nghaerdydd ar 22 Mehefin i dalu teyrnged i Jo Cox ar y diwrnod a fyddai wedi bod yn ddiwrnod ei phen-blwydd yn 42 oed.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar y cyd â Cymru dros Heddwch, Hub Cymru Africa ac Oxfam Cymru, a threfnwyd y digwyddiad gan Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth. Roedd Caerdydd yn un o'r nifer o lefydd ar draws y DU a gynhaliodd ddigwyddiadau 'More in Common' mewn undod ac i ddathlu bywyd Jo Cox.
Meddai Stephen Doughty wrth Wales Online: "Mae wedi bod yn ddigwyddiad hynod o bwerus, yn llawn positifrwydd a’r gobaith y dangosodd Jo yn ei bywyd.
"Bu pobl yn sefyll mewn undod, ond hefyd, adeiladont berthnasau newydd a dysgont am rai o’r achosion oedd yn bwysig i Jo."
Roedd sefydliadau megis Hope Not Hate, Cymorth i Fenywod Cymru ac Oxfam hefyd yn bresennol.
Darllenwch fwy neu edrychwch ar luniau o'r digwyddiad.
|
Arddangosfa Cofio dros Heddwch i Nodi Canmlwyddiant Brwydr y Somme
Bydd yr Arddangosfa Cofio dros Heddwch yn rhedeg drwy gydol yr haf i nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme - atgof o sut arweiniodd arwahanu, gwrthdaro a chasineb at golli cenhedlaeth.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn y Deml Heddwch, Caerdydd, a adeiladwyd gan yr Arglwydd David Davies, goroeswr y Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n ymgorffori gobaith, heddwch ac undod.
Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 29 Mehefin tan 24 Medi, a bydd yn dweud hanes Llyfr Coffa Cenedlaethol Cymru, sy'n cynnwys enwau 35,000 o ddynion a menywod a aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch .
I gael gwybod mwy am hanes y Deml Heddwch, cliciwch yma. Os hoffech weld mwy o wybodaeth am yr Arddangosfa Cofio dros Heddwch, cliciwch yma.
|
|
|
|
|
|
|