Mae trenau yn rhedeg ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ym mis Ebrill, gyda'r trên cyntaf am 11.00am a'r olaf am 3:45pm. Tocynnau yn £9 i oedolion, £8 i'r henoed, £5 i blant (3-15 oed), Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 o blant) £23.
Ar ddydd Sul 1 Mai a dydd Llun 2 May (penwythnos Gŵyl y Banc) rydym yn gobeithio cyfuno stêm a disel ar amserlen ddwys.
Mae trenau yn rhedeg ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ym mis Ebrill, gyda'r trên cyntaf am 11.00am a'r olaf am 3:45pm. Tocynnau yn £9 i oedolion, £8 i'r henoed, £5 i blant (3-15 oed), Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 o blant) £23.
Ar ddydd Sul 1 Mai a dydd Llun 2 May (penwythnos Gŵyl y Banc) rydym yn gobeithio cyfuno stêm a disel ar amserlen ddwys.
Penwythnos cofrestru i Lysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth Byd
13-25 oed? Eisiau gwirfoddoli, ennill sgiliau, gwneud ffrindiau, cael cymwysterau, cael amser anhygoel gweld a newid y Byd? Gwirfoddolwch gyda ni a dringo mynyddoedd, cerdded yn ôl troed dinosoriaid, ymweld â hen gestyll a henebion, darganfod cryfder a phŵer cenedl ddiwydiannol, yna beth am greu eich argraff eich hun ar y byd o'ch cwmpas. Mynnwch lais a gwnewch wahaniaeth. Dysgwch sut i helpu i reoli Safle Treftadaeth Byd.
Dydd Sadwrn 30 Ebrill – ddydd Sul 1 Mai . 9.30am – 4.30pm bob dydd.
Bydd y brif ffordd i mewn i'r fwrdeistref o Sir Fynwy, drwy Flaenafon a Phont-y-pŵl, ac i mewn i Gaerffili ar gau am y rhan helaeth o'r dydd, ynghyd â nifer o ffyrdd ymyl. Hoffai'r trefnwyr glywed gan unrhyw un os yw'n effeithio ar ddigwyddiad, cynlluniau teithio neu rôl gofalu unrhyw berson ar y dydd.
E-bost: route@velothonwales.co.uk neu ffoniwch 02921 660 790.
COFIWCH Y DYDDIAD: 25 MEHEFIN 2016: Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon
Peidiwch ag anghofio'r orymdaith mewn Hen Wisgoedd sy'n gadael pen uchaf Heol Lydan am 1pm! Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch ar 01633 648319.
Newyddion
Amgueddfa Gymunedol Newydd Blaenafon bellach ar agor
Mae'r amgueddfa, sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Gweithwyr ysblennydd dan ofal tîm o wirfoddolwyr cyfeillgar, yn archwilio treftadaeth ddiwylliannol falch Blaenafon a meysydd glo de Cymru.
Ar agor dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener (10am 4pm) a dydd Sadwrn (10am-1pm) - mynediad £2 (am ddim i blant dan 16 oed).
Arddangosfa Deucanmlwyddiant Ysgol San Pedr
Mae 2016 yn nodi 200 mlwyddiant ers i Sarah Hopkins sefydlu Ysgol San Pedr. O 29 Ebrill, bydd arddangosfa yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell i ddathlu daucanmlwyddiant yr adeilad.