Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - Newyddion a Digwyddiadau Awst 2016
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Gweithgareddau Haf yn Llyfrgell a Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Dydd Iau 28 Gorffennaf – 25 Awst 2.30-3.30pm
Sesiynau Stori a Chrefft ‘The Big Friendly Read’ Gweithgareddau Stori a Chrefft i blant pum mlwydd oed ac uwch. Am ddim. Cynghorir archebu lle. Blaenavon.tic@torfaen.gov.uk – 01495 742333
Dydd Sul 7 Awst 2-4pm Suliau’r Haf
Dewch â'ch hoff dedi i Bicnic y Tedis. Adloniant, gweithgareddau a gemau hwyl gyda Mad Mel. Bydd y tedi â’r wisg orau yn ennill gwobr. Mynediad am ddim. Bydd Picnics a the hufen yn cael eu gwasanaethu yn y Caffi Treftadaeth.
Dydd Sul 14 Awst 2-4pm Suliau’r Haf
Bydd Band Arian Oakdale yn adlonni ymwelwyr ar safle’r Ganolfan. Bydd te hufen yn cael eu gwasanaethu yn y Caffi Treftadaeth.
Dydd Sul 21 Awst 2-4pm Suliau’r Haf
Prynhawn o gerddoriaeth gan Fand y Celtic Café, a dawnsio traddodiadol gan yr Isca Morris Dancers.
Cysylltwch â ni – blaenavon.tic@torfaen.gov.uk – 01495 742333
Yr Haf yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Pythefnos y Glowyr, Llun–Gwener, tan 5 Awst, 12pm–4pm
Pythefnos y glowyr oedd uchafbwynt haf y cymunedau glofaol, felly galwch draw i fwynhau gweithgareddau i’r teulu cyfan – teithiau, lle chwarae meddal, gwisg ffansi a gemau.
Penwythnos Hanes Byw, 6 a 7 Awst, 12pm–4pm
Camwch nôl mewn amser i ddysgu am fywydau anhygoel arwyr ac arwresau’r maes glo yn ystod yr Ail Ryfel Byd: y ‘Bevin Boys’ dreuliodd y rhyfel dan y ddaear gan cynnwys Warwick Taylor, Bevin boy go iawn a menywod y ffrynt cartref. Cysylltwch â ni
Amddiffyn Blaenafon
Cyfle arall i fwynhau'r digwyddiad llwyddiannus ar thema'r Ail Ryfel Byd sy'n canolbwyntio ar Waith Haearn Blaenafon.Mwynhewch arddangosfeydd hanes byw, arddangosfeydd arfau a cherddoriaeth, a fydd yn rhoi darlun byw o fywyd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn.
Bydd cyfle i wrando ar straeon go iawn am fywyd gartref wedi'u hadrodd wrth y tân yn Stack Square.

- 06 Aws – 07 Aws - 10.30am – 4.00pm – Mynediad am Ddim - Cysylltwch â ni
Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon – Sioe Cerbydau Clasurol
Yn ychwanegol at ein dyddiau arferol ar y penwythnos, bydd trenau'n rhedeg bob dydd Mercher rhwng 11.00 a 3.45. Ar 28 a 29 Awst bydd arddangosfa hen geir, bysiau a thrafnidiaeth arall yn ategu at ein trên clasurol. ’Ewch i’n gwefan i weld manylion pellach…
Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru
Mae 12fed Gŵyl Gerdded Flynyddol Cymoedd Cymru yn cael ei chynnal o'r 3-18 Medi 2016. Mae'r ŵyl yn cynnig teithiau cerdded i bawb, ar draws Cymoedd De Cymru. Darpara ar gyfer pob gallu, o lwybrau heriol sy'n parhau drwy'r dydd i lwybrau hamddenol a theithiau cerdded o ddiddordeb arbennig.
6 Medi -  Blaenafon – Tref Ddiwydiannol i Warchodfa Natur – Hawdd
7 Medi - Gweundiroedd, Cynhyrchu a Chloddio - Cymedrol i Egnïol
15 Medi - Llwybrau Diwydiannol - Taith Gylch Llan-ffwyst i Ofilon - Hawdd i Egnïol - Mae’r darn egnïol yn opsiynolRhaid bwcio, felly, bwciwch ymlaen llaw ar eich teithiau cerdded, er mwyn osgoi siom.
Mae mwy o wybodaeth am deithiau cerdded yr ŵyl ym Mlaenafon a Thorfaen ar gael drwy roi clic yma neu drwy gysylltu â Chanolfan Groeso Blaenafon ar 01495 742333.

Newyddion y Gymuned     

Dawns ar y Mynydd
Ar ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf, 2016 fe ddaeth dros 150 o ddawnswyr i Neuadd y Gweithwyr a Chanolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Byd Blaenafon ar gyfer ail achlysur Dawns ar y Mynydd (Dathlu dawns ym Mlaenafon). Trefnwyd yr achlysur gan Ddawnswyr Blaenafon a grŵp ymroddedig o gynorthwywyr. Roedd y neuadd a'r ardal o'i amgylch dan ei sang, gyda dawnswyr yn arddangos gwahanol arddulliau: bu dawnswyr bol yn dawnsio ochr yn ochr â Dawnswyr Morris, dawnswyr Llinell yn gymysg â dawnswyr Cha Cha a Jive. Roedd y diwrnod yn hynod o lwyddiannus i'r gynulleidfa a'r cyfranogwyr, ac mae'r adborth hyd yn hyn i gyd wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Amrywia'r dawnswyr o ran oedran o 2 oed i dros 70. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i fwynhau arddangosfeydd yr amrywiol ddawnswyr ac roedd cyfle i'r gynulleidfa ymuno â'r dawnswyr, gyda'r llawr yn orlawn ar gyfer y gweithdai dawnsio Bol a dawnsio Llinell.
Trefnodd y Ganolfan Dreftadaeth lwyfan awyr agored am y tro cyntaf eleni.
Meddai’r trefnydd Jac Denley-Jones “Cafodd pawb a ddaeth yma, boed fel dawnsiwr neu aelod o’r gynulleidfa, amser gwych. Rydym eisoes wedi mynd ati i drefnu’r dyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef 22 Gorffennaf 2017. Gobeithiwn y daw pobl yn llu y flwyddyn nesaf a chael diwrnod arall i’r brenin.”

 

Blaenavon Community Garden Project
Mae grŵp o wirfoddolwyr ym Mlaenafon wedi dechrau gwaith ar wella ardaloedd cyhoeddus yn y dref. Yn rhan o'r fenter Tîm y Dref, a gefnogir gan y Cyngor Tref a Thai Cymunedol Bron Afon, maent yn cwrdd bob prynhawn dydd Gwener gydag amserlen a gynlluniwyd fis ymlaen llaw. Efallai eich bod wedi sylwi ar welliannau yng Ngardd Gobaith a maes parcio Broad Street yn barod?
Mae croeso i holl wirfoddolwyr newydd. Os hoffech chi alw draw i gwrdd â phawb, dyma yw ein hamserlen haf.
- 05 Awst – Maes Parcio Broad Street
- 12 Awst – Gardd Gobaith
- 16 Awst - Maes Parcio Broad Street
- 19 Awst - Maes Parcio Broad Street

Mae'r amserlen hon yn amodol i newid. Os hoffech gael gwybod y newyddion diweddaraf, ewch draw at ein tudalen Facebook “BlaenavonCommunityGardenProject” neu fe allech chi anfon e -bost atom ar: group@bcgp.co.uk

Cefnogwch eich Amgueddfa Leol
Agorodd Amgueddfa Gymunedol Blaenafon sydd newydd ei achredu yn swyddogol ym mis Mehefin gan Nick Thomas-Symonds AS a Mr David Risk Kennard mewn digwyddiad a fynychwyd yn dda. Mae'r amgueddfa, sy'n cael ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, yn adrodd hanes treftadaeth ddiwylliannol Blaenafon a Chymoedd De Cymru. Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi'r amgueddfa - drwy ddod yn aelod o Grŵp Treftadaeth Blaenafon (rhif elusen gofrestredig 1079437) am £10 y flwyddyn, drwy wirfoddoli, ymweld â hi, neu'n syml, drwy ledaenu'r gair! Cysylltwch â ni
Hawlfraint © 2016 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS