Prosiect Cyffrous - Dewis Doeth.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Sgiliath yn gweithio ar brosiect arloesol (Dewis Doeth - Be' all y Gymraeg wneud i mi?) gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod y misoedd nesaf, ar lefel meicro er mwyn sicrhau bod y niferoedd o ddisgyblion yn Ysgolion Tryfan a Brynrefail (Arfon - Gwynedd) yn ystyried dewis astudio eu pynciau TGAU / Lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg, ac wedyn ymlaen i astudio eu cwrs gradd yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd Sgiliath yn creu perthynas weithio dda gydag athrawon pwnc, penaethiaid blwyddyn a staff eraill o fewn y ddwy ysgol a gyda chynghorwyr gyrfaoedd. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd ym myd gwaith ac yn enwedig y gallu i gynnig lefel uchel o sgiliau yn Gymraeg a Saesneg.
Rhan fawr o'r prosiect, fydd codi ymwybyddiaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a'i waith, a darbwyllo athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau codi ymwybyddiaeth gyda disgyblion a rhieni.
Exciting new Project - Dewis Doeth.
We are pleased to announce that Sgiliaith will be working on a new project (Dewis Doeth - Be' all y Gymraeg wneud i mi?) with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol during the next few months, on a micro level to make sure that pupils at Ysgol Tryfan and Ysgol Brynrefail (Arfon - Gwynedd) consider studying GCSE and A Level subjects through the medium of Welsh, before going on to study for a degree at the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sgiliaith will be working closely with subject teachers, heads of year and other staff at both schools and with careers advisors. We hope to raise awareness of the benefits of bilingualism in the world of work, especially the advantages of offering a high level of skills in both Welsh and English.
A large part of the project will be to raise awareness about the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, and to persuade teachers and careers officers to take part in events organised with parents and pupils alike.
|