Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - Newyddion a Digwyddiadau Mehefin
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Newyddion

Safleoedd Treftadaeth y Byd o Amgylch y Byd
Dewch i ymweld â Thref Treftadaeth Blaenafon ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin o 11am - 4pm am ddiwrnod llawn hwyl o adloniant i’r teulu. Gyda ffair Fictoraidd, rheilffordd stêm fechan, cerddoriaeth fyw, stondinau crefftau ac mae siopau’r dref hefyd yn cymryd rhan gyda chynigion arbennig.
Fel arfer, uchafbwynt y diwrnod yw’r Parêd Gwisgoedd Treftadaeth sy’n cychwyn am 1.00pm o ben Broad Street ac yn mynd yn ei flaen drwy'r dref. Y thema ar gyfer y parêd eleni yw 'Safleoedd Treftadaeth y Byd o Amgylch y Byd', yn dathlu statws Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ei hun ac arwyddocâd diwylliannol a naturiol arbennig safleoedd eraill ar draws y byd.
Peidiwch â cholli’r canwr o Flaenafon, Cai Williams, sydd newydd orffen ymddangos ar The Voice ar BBC, am 2pm ar y prif lwyfan.

Parti Gardd Wych
Ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin, bydd Blaenafon yn dathlu Diwrnod Treftadaeth ac fel rhan o'r dathliadau bydd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn cynnal Parti Gardd o 12 canol dydd – 4pm.
Bydd y tiroedd yn fywiog gyda cherddoriaeth, stondinau a gweithgareddau! Bydd cerddoriaeth ar y patio gyda harmonïau hyfryd o Mello D a'r band Celtic Cafe.
Bydd yr awdur a gwneuthurwr melysion, Adele Nozedar, yn arddangos gwneud melysion traddodiadol, yn ogystal â chynnal sesiynau er mwyn i chi wneud rhai eich hun.
Bydd ffair grefftau yn cael ei gynnal yn Meadow Lane y tu mewn i'r ganolfan gydag amrywiaeth o wneuthurwyr lleol sy'n gwerthu eitemau hardd wedi'u gwneud â llaw, ac ar y tiroedd bydd planhigion yn cael eu gwerthu drwy gydol y prynhawn.

Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon 
Mae trenau yn rhedeg bob penwythnos ym mis Mehefin yn dechrau am 11am. Uchafbwynt y mis yma yw ein noswaith Llofruddiaeth Ddirgel ar 20 Mehefin. Byddwch yn gadael am 7pm am daith hamddenol tra byddwch yn mwynhau diod wedi ei brynu o’n car bwffe. Mae cyfle i weld ein hamgueddfa ym Mlaenafon (Lefel Uchaf) cyn dychwelyd i fwynhau bwffe. Bydd ein hactorion talentog yna yn perfformio cyn i chi ail-ymuno â’ch trên. Gallwch holi’r actorion wrth i chi deithio a cheisio datrys y dirgelwch. Mae tocynnau yn £ 16, gan gynnwys y bwffe - mae llefydd yn brin ac mae bwcio yn hanfodol drwy PBRly.co.uk 

Digwyddiadau

Cynhadledd Ieuenctid y DU Safleoedd y Byd UNESCO
Mae Tirwedd Ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn falch i fod yn cynnal Cynhadledd ar y 20-22 Hydref 2015. Thema'r Gynhadledd yw "Sut gallwn ddefnyddio Treftadaeth y Byd i wella’r lle yr ydym yn byw ynddo?". Bydd yn croesawu hyd at 180 o gynrychiolwyr ifanc o bob rhan o'r DU am 2 ddiwrnod o weithgareddau ymarferol a gweithdai hwyliog i drafod sut y gallwn ddefnyddio Treftadaeth y Byd i newid lle yr ydym yn byw er gwell.
Rydym yn chwilio am grwpiau o 4 o bobl ifanc i fynychu'r Gynhadledd fawreddog. Er mwyn i grŵp fynychu, rydym yn cynnal cystadleuaeth greadigol. Bydd y grŵp buddugol o bob ardal yn derbyn llety am 2 noswaith yn rhad ac am ddim, bwyd, yr holl weithgareddau yn y Gynhadledd, a bag nwyddau a chrys-t. Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i'r gystadleuaeth genedlaethol i ennill aelodaeth Cadw (/English Heritage ) a thabled. Mae'r gystadleuaeth yn agor ar 1 Mehefin ac yn cau ar gyfer ceisiadau ar 24 Gorffennaf, 2015.
I gael manylion llawn ewch i www.visitblaenavon.co.uk/youthsummit

Amgueddfa yn Dweud Stori Blaenafon drwy Facebook
Er bod Amgueddfa Treftadaeth Gymunedol Blaenafon ar gau dros dro er mwyn gallu ei symud i Neuadd y Gweithwyr, mae gwirfoddolwyr yr amgueddfa yn parhau i rannu treftadaeth Blaenafon ar-lein. Mae'r amgueddfa wedi gosod y dasg uchelgeisiol i’w hun o adrodd hanes Blaenafon drwy Facebook. 
Esboniodd Nathan Matthews, un o ymddiriedolwyr Amgueddfa Treftadaeth Gymunedol Blaenafon: 'Nid oed gan bawb yr amser i chwilio trwy lyfrau hanes, mynd i archifdai neu amgueddfeydd i ddysgu am eu treftadaeth. Erbyn hyn mae nifer o gymunedau hanes lleol ardderchog ar gael ar-lein, gyda miloedd o aelodau sydd am wybod mwy am Flaenafon. Drwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol rydym wedi anelu i gyfrannu at y drafodaeth ehangach hon o'n hanes trwy greu a rhannu cynnwys addysgol y bydd pobl yn ei weld yn ddiddorol. Mae croeso i bawb i ymuno â'r drafodaeth!'
I ddarganfod mwy, dilynwch yr amgueddfa ar Facebook – www.facebook.com/blaenavonmuseum.

Tirweddau Angof - Panel Map   
Mae ein panel map hir ddisgwyliedig wedi ei osod yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd. Fel llawer o'n gwaith, cafodd ei ddarlunio gan yr artist lleol Michael Blackmore. Ei ddiben yw galluogi ymwelwyr i ddeall ble mae pethau o fewn 33km sgwâr Safle Treftadaeth y Byd, a'r ardal gyfagos, er mwyn iddynt allu cynllunio eu teithiau i'r llu o nodweddion hanesyddol anhygoel, golygfeydd tirweddau a chynefinoedd pwysig.
Bydd y map yn cael ei gefnogi gan ddwy ffilm newydd - a ddisgwylir yn fuan. Bydd y rhain yn cael eu harddangos ar y sgrin sy’n sefyll o flaen y map a bydd yn canolbwyntio ar 'Etifeddiaeth yn y Dirwedd', ffilm animeiddiedig ysgafn sy’n defnyddio darluniau hanesyddol Michael Blackmore a 'Wedi ei Adfer gan Natur, a’i Rheoli ar gyfer y Dyfodol', ffilm sy'n dangos y dirwedd fel y mae nawr ac yn esbonio sut y mae'n cael ei reoli i warchod y dreftadaeth sy’n bwysig yn fyd-eang, wrth ganiatáu i natur adennill y dirwedd a gafodd ei drawsnewid mor ddramatig gan ddyn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Galwch i mewn i gael golwg. Rydym yn sicr y bydd yn creu argraff. Dilynwch ni ar facebook.

Hawlfraint © 2015 -Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS