Copy
Yn cefnogi addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn y sector ôl-14 
 
Supporting Welsh-medium and bilingual education in the post-14 sector
DIGWYDDIADUR SGILIAITH
SGILIAITH'S CALENDAR


22.06.15 - Modiwl MA Diwrnod 5 / MA Module Day 5 - Coleg Ceredigion

30.06.15 - Hyfforddiant Mewnosod y Gymraeg - Embedding the Welsh language - Coleg Sir Gar - Llanelli

01.07.15 - Twlcit Dwyieithrwydd i Aseswyr - Assessors' Bilingualism Toolkit - Coleg Gwent Campws Ponypŵl - Pontypool Campus

02.07.15 - Gweithdy Dylunio Adnoddau Dwyieithog / Designing Bilingual Resources Workshop - Coleg Menai Bangor.

08.07.15 - Cynllunio Dwyieithrwydd i Reolwyr / Planning Bilingualism for Managers - Gogledd Cymru / North Wales

14/15.07.15 - Cwrs Cyflwyniad i Addysgu Dwyieithog / Introduction to Bilingual Teaching - Hyfforddiant Rathbone Training Caerfyrddin / Carmarthen.

24.07.15 - Gweithdy Mewnosod y Gymraeg - Embedding the Welsh Language Workshop - ITEC Caerdydd / Cardiff
Cliciwch Yma! Dolen Ddefnyddiol / Click Here! Useful Link
ADNODDAU DIWEDDAR
 

 
Dolen Manteision Dwyieithrwydd! Benefits of Bilingualism Link!
CYNGHORION BUDDIOL

Tip #1Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg



Tip #2Gwnewch y cynnig rhagweithiol i ddysgwyr dwyieithog
 
.
Tip #3Dysgwch dermau Ewropeaidd newydd wrth fynd ar eich gwyliau yr haf hwn


 
TOP TIPS


Tip #1Coleg Cymraeg Cenedlaethol have fantastic scholarships for future Welsh medium students


.
Tip #2Make the active offer to bilingual learners


 

Tip #3Learn European phrases this summer while on holiday


 
 
HYFFORDDIANT SGILIAITH

Cliciwch ar y teitl am fwy o wybodaeth:
SGILIAITH TRAINING

Click on the title for more information:
Facebook Sgiliaith
Twitter Sgiliaith
Gwefan Sgiliaith Website
E-bost / Email
YouTube Sgiliaith
Pinterest
Instagram Sgiliaith
Cliciwch yma i Danysgrifio i Gylchlythyrau Sgiliaith
Click here to subscribe to Sgiliaith Newsletters
Annwyl Danysgrifiwr,
Mae'r Haf wedi dod (o'r diwedd)!

Croeso i rifyn Mehefin 2015 o e-gylchlythyr Sgiliaith. Datblygiad newydd a diddorol y mis hwn, fydd "Dod i Adnabod Staff Sgiliaith", heb sôn am, newyddion Sgiliaith, Golwg ar Gwrs, Adnoddau Diweddaraf Sgiliaith, Cynghorion Arferion Da, yn ogystal â'r cynnwys arferol am ddigwyddiadau Sgiliaith a dolenni defnyddiol. Mwynhewch y cylchlythyr, a chofiwch gysylltu os hoffech wybodaeth bellach am unrhyw agwedd o'n gwaith, neu os oes gennych adborth am y cylchlythyr hwn.

"Marw i fyw mae'r haf o hyd" Yr Haf gan R.Williams Parry

 
Dear Subscriber,
Summer is with us (at last)!

Welcome to the June 2015 edition of Sgiliaith's e-newsletter. A new and exciting development we have in our newsletter is “Getting to Know the Sgilaith Staff” and this is in addition to
 Sgiliaith News, Course Capture, Sgiliaith's Latest Resources, Good Practice Tips, as well as the regular features about Sgiliaith's events and useful links. Enjoy the newsletter, and remember to get in touch if you'd like further information about any aspect of our work, or if you have feedback about this newsletter.


"The Summer is always dying so it may live"
 Yr Haf by R.Williams Parry.
 
Yr Iaith Gymraeg - Dyna Ddewis Doeth.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr ymgyrch “Dewis Doeth” yn ysgolion Brynrefail a Thryfan yn dechrau dwyn ffrwyth.
Mae staff Sgiliaith wedi bod yn brysur yn creu ffilmiau am rhai o gyn ddisgyblion y ddwy ysgol, ac yn creu adnoddau a phartneriaethau.
Bydd manylion am ddigwyddiad cyffrous yr ymgyrch “Dewis Doeth” yn rhifyn nesaf ein cylchlythyr.
Byddwn hefyd yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn y ddwy ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

The Welsh Language - That's a Wise Choice
We are pleased to let you know, that the work with the campaign “Dewis Doeth” campaign is well on its way at Brynrefail and Tryfan schools.
Sgiliaith staff have been busy working on short films about the working life of some ex-pupils, and creating resources and discussing with partners.
More information will be forthcoming in our next newsletter regarding the big event of the campaign.
We will also be organizing a program of events in both schools during the next academic year.





 
 
DOD I ADNABOD STAFF SGILIAITH
Mary Griffiths
Cynorthwy-ydd Gweinyddol Sgiliaith


Dweud ychydig am dy hun Mary -
Rwyf yn 53 mlwydd oed ac wedi byw ym Mhen Llŷn ar hyd fy oes ac ni allaf ddychmygu byw yn unman gwell.  Rwyf yn fam i dair o ferched a nhw yw’r pethau gorau a ddigwyddodd i mi erioed ac rwyf yn hynod o falch o lwyddiant y tair.  Mae’r ddwy ferch hynaf yn efeilliaid, ac mae’r tair bellach wedi tyfu i fyny a symud o adref i fyw.  Mae gennyf gi a chath i gadw cwmni i mi a byddaf wrth fy modd yn mynd a hi am dro, gellir dod o hyd i mi yn llyfrgell y coleg yn darllen fy Kindle yn ystod fy amser cinio.

Elli di sôn ychydig am dy gyfrifoldebau?
Fi sy’n gyfrifol am waith gweinyddol y swyddfa i gyd.  Byddaf yn rhoi cefnogaeth i aelodau eraill y tîm fel y bo angen i’w cynorthwyo gyda’r holl brosiectau y mae Sgiliaith yn ymwneud â nhw.  Byddaf yn darparu adnoddau ar gyfer y sesiynau hyfforddi, gofalu fod gwesty wedi ei archebu pan fyddwn yn teithio yn bell o gartref i gyflwyno’r sesiynau a gofalu fod yr adnoddau angenrheidiol yn yr ystafelloedd hyfforddi gan gynnwys lluniaeth ysgafn i’r mynychwyr.  Byddaf yn gwneud gwaith arferol swyddfa hefyd fel ateb y ffôn, post ac archebu nwyddau i bawb.

Pa mor bwysig ydi'r Gymraeg i ti Mary?
Mae’r Gymraeg yn hynod o bwysig i mi, gan mai hon yw fy mamiaith.  Credaf ei bod yn fraint i allu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy mywyd o ddydd i ddydd. Mae’n hynod o bwysig ein bod yn cadw’r iaith yn fyw, ddim yn unig mewn gwersi ond fel ffordd o fyw.  Rydym fel cenedl mor lwcus i gael iaith ein hunain, dylai pawb ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gallu siarad yr iaith.  Mae gennym ddiwylliant ac iaith werthfawr yn ein gwlad a dylem wneud yn fawr ohonynt.

Oes gen ti ddiddordebau gwahanol/diddorol?
Ryw ddeufis yn ôl, penderfynais ddechrau  hobi newydd o gadw pysgod trofannol. Prynais danc pysgod 200 litr ac rwyf bellach wedi dechrau ar y casgliad o bysgod sy’n ymddangos yn ymgartrefu’n hapus yn eu cartref newydd.  Mae gwylio’r pysgod yn nofio’n hapus a hamddenol yn eu tanc yn fy helpu i ymlacio yn dilyn diwrnod prysur yn y swyddfa ac yn aml rwyf yn mwynhau eu gwylio lawer gwell na’r sothach sydd ar y teledu yn ddiddiwedd. Rwyf yn gobeithio ehangu fy nghasgliad o bysgod yn y dyfodol.

Sut le ydi swyddfa Sgiliaith i weithio ynddo?
Mae swyddfa Sgiliaith yn le hapus iawn i weithio ynddi.  Rwyf yn gweithio i Sgiliaith ers mis Tachwedd 2005 ac wedi mwynhau yn fawr iawn.  Yn ystod y blynyddoedd mae llawer iawn o newidiadau wedi digwydd ac aelodau o’r tîm wedi newid.  Ar hyn o bryd rydym yn dîm o bedwar yn gweithio yma ym Mhwllheli ac rydym fel teulu mawr ac mae’n bleser cael fy nghyfrif yn aelod o’r tîm hapus yma.

Oes gen ti drefniadau ar gyfer gwyliau haf eleni?
Yn ystod mis Gorffennaf rwyf yn mynd ar fy ngwyliau i wlad Twrci!!  Hwn fydd yr ail dro i mi hedfan a chael gwyliau dramor yn fy mywyd.  Y tro olaf i mi hedfan oedd naw mlynedd yn ôl pan es i Bortiwgal gyda fy nhair merch.  Rwyf wedi cynhyrfu’n lân ac yn edrych ymlaen yn ofnadwy i gael mynd.
 

Getting to know the Sgiliaith Staff
Mary Griffiths
Administration Assistant

Tell us a bit about yourself Mary

I’m 53 years old, and I have lived on the Llŷn Peninsula all my life, and I can't imagine a better place to be. I have three daughters, they are the best things that ever happened to me. The eldest two are twins, the three have grown up and have moved away to live and work. I have a cat and a dog to keep me company, I love taking Molly (the dog) on long walks. I also love reading, and you will always find me in the college library, reading my Kindle during lunch time.

What are your responsibilities with Sgiliaith?
I’m responsible for all the administrative work in the office. I support the team when needed. I also provide all the resources for the training sessions, making sure that hotels are booked when staff travel far from home to conduct the sessions. I also make sure that the essential resources are ready in the training room, including light refreshments. I also do normal office work, such as answering the phone, the post and any ordering that’s needed.

How important is the Welsh language to you?

Welsh is very important to me, it is my mother tongue. I believe it to be a privilage to be able to  communicate in Welsh in my day to day life. It is vitally important that we keep the language alive, not only in lessons but also as a way of life. We are so lucky as a nation to have our own language and culture.

Do you have any interesting / different hobbies?

About two months ago, I started a hobby of keeping tropical fish. I bought a 200 lt tank, and bought a collection of fish. The fish seem to have settled in their new home by now. Watching the fish swimming about is so relaxing after a hard day at the office, and I enjoy watching them much more than watching the rubbish that’s constanlty on the television. I hope to expand my collection in the future.

What kind of place is the Sgiliaith office?

It’s a very happy place to work. I’ve been here since November 2005 and have enjoyed it immensely. During the years I have seen a lot of changes. At the moment we are a team of four working in Pwllheli. We are a happy team and it’s a pleasure to work here.

Have you any plans for a holiday this summer?

During July I will be going on holiday to Turkey. This will be the second time for me to fly and have a holiday abroad. The last time was nine years ago, when I went to Portugal with my three daughters. I am so excited, I just can't wait.



 


 

 

 

 


 

 

 

 

 

 


 
 
 

 

 

 


 

 

 

 

 

 




 
 

 

 

 

 

 
Sgiliaith yn Arwain Bencampwr Dysgu digidol fel rhan o brosiect newydd.

Mae Sgiliaith, Grŵp Llandrillo Menai wedi cael eu comisiynu i reoli, gweinyddu a dylunio a chreu adnoddau dysgu digidol heriol a dwyieithog i'r sector ôl-16 yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Nod y prosiect yw creu adnoddau sy'n gyfwerth ag awr bob pythefnos o e-ddysgu ar gyfer cyrsiau lefel 3 (yn bennaf, lefel A) i'w defnyddio gan ddysgwyr dan arweiniad athrawon a thiwtoriaid ar draws siroedd Gwynedd a Môn. Mae'r meysydd pwnc i'w cytuno yn dilyn penodiad Pencampwyr Dysgu Digidol ym mhob sefydliad partner y Consortiwm, fydd yn greiddiol i lywio gwaith y prosiect.

Sgiliaith will Lead Digital Learning Champions as part of a new project.

Sgiliaith, Grŵp Llandrillo Menai has been commissioned to manage, administer and design and create challenging and bilingual digital learning resources to the post-16 sector in Gwynedd and Anglesey. The project aims to create resources equivalent to an hour per fortnight of e-learning for level 3 courses (mainly, A level) for use by learners led by teachers and tutors across Gwynedd and Anglesey. The subject areas are to be agreed following the appointment of Digital Learning Champion in each partner organisation within the consortium, who will be crucial to steering the work of the project.

 
 
 
 
GOLWG AR GWRS!
Yn y rhifyn hwn, dyma ganolbwyntio ar :


Ymwybyddiaeth iaith yng nghyd-destun addysg yng Nghymru.

Mae'r hyfforddiant yn gyfle i wella dealltwriaeth unigolion o'r agweddau sy'n gysylltiedig ag iaith a diwylliant. Mae'n rhoi'r cyfle i gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth iaith ac archwilio eu hymateb eu hunain i faterion. Mae'n bosib hefyd i unigolion godi eu hymwybyddiaeth a dealltwriaeth o stereoteipio, rhagfarn a gwahaniaethau, gyda sylw arbennig i wahaniaethu ar sail iaith. Gellir hefyd darparu diweddariad o sefyllfa'r Gymraeg o ran polisiau a threfniadau ansawdd addysg cyfredol ar lefel leol a chenedlaethol. Mwy o wybodaeth yma

Language Awareness: Context of Education in Wales.

The training is an opportunity to improve individuals' understanding of the wider aspects linked with language and culture. It gives the opportunity to gather information about language awareness and to investigate personal reaction to language matters. It is also possible for individuals to raise their language awareness and understanding of stereotyping, prejudice and discrimination, with special attention to discrimination on the basis of language. It is also possible to provide an update on the context of Welsh language in relation to policies and current educational quality arrangements on a local as well as a national level.


 
Hawlfraint / Copyright © 2013 Sgiliaith. Cedwir pob hawl. All rights reserved.

dad-danysgrifio / unsubscribe