CEWC yn cefnogi Bagloriaeth Cymru
O fis Medi, bydd CEWC yn cynnig cymorth i ysgolion ac athrawon i gyflwyno’r Her Fyd-eang sy’n rhan o’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd.
Mae Martin Pollard, Prif Weithredwr WCIA yn pwysleisio: "Mae’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd yn cynnig cyfle gwych i ysgolion a cholegau ledled Cymru i godi proffil addysg fyd-eang. Ond gan ei fod yn gymhwyster newydd, rydym yn ymwybodol y bydd llawer o ysgolion a cholegau yn chwilio am gefnogaeth, a gyda'n profiad o ddarparu prosiectau addysg fyd-eang o ansawdd uchel a hyfforddi athrawon, rydym mewn sefyllfa dda i gynnig y cymorth hwn. "
Darganfyddwch fwy am y math o gymorth y gallwn ei gynnig.
Darganfyddwch fwy am Fagloriaeth Cymru ar Wefan Bagloriaeth Cymru.
|
|
|
Digwyddiadau WCIA yr hydref hwn
Mae gennym lawer o ddigwyddiadau ar y gweill yr hydref hwn. Mae’r cyntaf yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag UNA Caerdydd a'r Cylch -’ A ddylai’r DU barhau yn rhan o NATO? ddiwedd mis Medi.
Ym mis Hydref, bydd y digwyddiad cyntaf yn ein cyfres #CelebratingHumanRights- Fighting for Human Rights, yn cael ei gynnal ar 17 Hydref.
Yna, ym mis Tachwedd, cadwch lygad am ein digwyddiadau a fydd yn arwain at yr Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd (COP21), a byddwn yn dathlu #CelebratingHumanRights eto ar y Diwrnod Rhyngwladol i Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd.
Meddai Susie Ventris-Field, Dirprwy Brif Weithredwr WCIA: "Rydym yn cadarnhau rhywfaint o ddyddiadau ac amseroedd ar hyn o bryd ac yna, bydd y cofrestriadau ar agor ar gyfer ein holl ddigwyddiadau. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad A ddylai’r DU barhau yn rhan o NATO?‘ a ' Fighting for Human Rights‘ yn barod.
Cymerwch gip hefyd ar ddigwyddiadau ein prosiectau Cymru dros Heddwch a Hub Cymru Affrica.
|
Dewch i gwrdd â ni ar facebook!
Bob dydd Llun am ddeufis, rydym wedi bod yn cyflwyno un o aelodau a phartneriaid tîm WCIA ar facebook
Rhag ofn eich bod chi wedi methu rhai o’n negeseuon ar facebook, jyst teipiwch yr hashtag #MeetTheWCIATeamMonday ar facebook.
Rydym yn gobeithio eich ysbrydoli drwy ein cyfrif facebook gyda'n swyddi materion rhyngwladol, a’ch diweddaru am ein gwaith ac am ddigwyddiadau sydd i ddod.
Dewch o hyd i ni ar facebook.
|
Wynebau newydd yn WCIA!
Y mis hwn, rydym yn falch o gyhoeddi dau aelod newydd o staff i’n tîm!
Rydym yn croesawu Shaela, sydd wedi cael ei phenodi fel Swyddog Cyllid a Gweinyddu a Philip Kitchen, sydd wedi cael ei benodi fel Cyfarwyddwr Cyllid.
|
Diwrnod Gwyrdd Dydd Gwener
Mae Maint Cymru yn dathlu Diwrnod Gwyrdd eto eleni gan wisgo dillad gwyrdd, pobi cacennau gwyrdd a chynnal digwyddiadau gwyrdd.
Ymunwch a ni a darganfyddwch mwy yma.
|
|
Cynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2015
O 30 Tachwedd tan 11 Rhagfyr 2015, bydd Ffrainc yn cynnal ac yn llywyddu 21ain Sesiwn Cynhadledd y Partïon i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP21), a elwir hefyd yn "Paris 2015".
Bydd COP21 yn gynhadledd hollbwysig, gan y bydd rhaid iddi geisio cyflawni cytundeb rhyngwladol newydd ar yr hinsawdd, sy'n berthnasol i bob gwlad, gyda'r nod o gadw cynhesu byd-eang islaw 2 ° C.
Amcan y gynhadledd hefyd, yw ceisio sicrhau cytundeb cyfreithiol rhwymo l a chyffredinol ar yr hinsawdd gan holl genhedloedd y byd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd yma ac yma.
|
Gŵyl Ffilm yn dod â blas o Affrica i Gymru
Gan ddechrau ar Ddydd Gwener 3 Hydref, 2015, bydd Watch Africa 2015 yn sgrinio cyfres o ffilmiau Affricanaidd poblogaidd ar draws Cymru.
Heblaw am yr 14 o ffilmiau, bydd nifer o sesiynau cwestiwn ac ateb gyda ein partneriaid ac arbenigwyr yn y maes yn cael ei gynnal.
Gallwch ddod o hyd i'r rhaglen yma.
Nodir Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr yr wyl: "Rydw i'n gyffrous iawn am y ffilmiau a'r themâu yr ydym yn dangos eleni”.
"Mae Affrica yn gyfandir hynod amrywiol ac yr wyf yn gobeithio y bydd pobl sy'n dod i weld y ffilmiau yn gadael gyda’r teimlad eu bod wedi cael blas bach o'r heriau mae pobl yn eu hwynebu."
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar y dudalen we.
|
A ddylai’r DU barhau yn rhan o NATO?
Flwyddyn ar ôl Uwchgynhadledd NATO yng Nghaerdydd, ar 30 o Fedi o 7-9pm yn y Deml Heddwch, bydd Cangen UNA Caerdydd a’r Cylch a WCIA yn cyflwyno digwyddiad i drafod y cwestiwn: A ddylai'r DU barhau yn rhan o NATO?
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau ein prif siaradwyr fydd yn arwain y drafodaeth:
Bruce Kent a Wayne David.
|
|
|
|