Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Gweithdy cynhwysfawr i ateb eich holl anghenion wrth gydymffurfio â rheolau codi arian a datblygu cynlluniau gweithredu clir i gydymffurfio’n llawn.
Amcanion
- Dealltwriaeth o sut i sicrhau bod gweithgareddau codi arian lleol a chymunedol yn cydymffurfio â gofynion y Rheoleiddiwr Codi Arian
- Canllaw ymarferol ar archwilio'ch gweithgareddau codi arian elusennol
- Gwybodaeth am ofynion Diogelu data wrth godi arian gan roddwyr a rhoddion mawr
- Dealltwriaeth o oblygiadau'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Cynnwys
Sesiynau ymarferol a rhyngweithiol ble byddwn yn trafod goblygiadau canllawiau'r Rheoleiddiwr Codi Arian a sut i'w rhoi ar waith yn gyson yng ngweithgareddau codi arian eich elusen. Bydd y gweithdy yn rhoi i gyfranogwyr set o gynlluniau hwylus i archwilio eu helusen a rhoi cynllun gweithredu ar waith i gydymffurfio'n llawn cyn GDPR yn 2018.
Amcanion dysgu
- Datblygu strategaeth i gydymffurfio â rheolau codi arian
- Cynnal archwiliadau i feincnodi statws presennol
- Datblygu cynlluniau gweithredu i wella cydymffurfiaeth
- Canllawiau ar GDPR a sut i'w rhoi ar waith yn eich model busnes
Bywgraffiad
Mae Amanda Pearson yn un o bedwar yn nhîm codi arian yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru a hi sy'n arwain materion cydymffurfio. Mae Amanda wedi bod yn gweithio mewn swyddi codi arian amrywiol ers dros 20 mlynedd gan arbenigo ar hyn o bryd mewn Apeliadau, codi arian drwy roddion mawr a chymynroddion. Mae gan Amanda radd meistr mewn rheoli treftadaeth a diploma gan y Sefydliad Codi Arian.
|
|