Ers dechrau’r flwyddyn buom yn adolygu rhai o'n prosiectau a gwneud cynlluniau ar gyfer y misoedd i ddod. Gallwch gael gwybod mwy am ein gwaith ar Fannau Brycheiniog isod a hefyd yn dal i fyny ar sut mae prentisiaid cen CENNAD yn dod ymlaen. Rydym hefyd newydd lansio ein gwefan newydd sbon danlli. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy...
|
|
Gwneud lle i blanhigion alpaidd ym Mannau Brycheiniog
|
|
Darren Fawr, Bannau Brycheiniog © Colin Cheesman
|
|
Mae Bannau Brycheiniog yn enwog am eu copaon mawreddog, ond wyddech chi fod y llethrau ysgubol yn gynefinoedd pwysig i blanhigion prin? Mae casgliad o 29 o glogwyni a llethrau sgri wedi eu nodi fel Ardal Planhigion Pwysig (IPA) ac yn gartref i heboglys prin, cerddin gwynion a gemau alpaidd eraill fel y tormaen porffor.
Gall llawer o’r clogwyni a’r llethrau sgri hyn hefyd gynnwys planhigion anfrodorol ymledol a all gadw’r fflora cynhenid draw, drwy leihau'r golau a lle. Mae rhywogaethau fel cotoneaster, coed llawrgeirios a’r dderwen fythwyrdd wedi eu cofnodi yn yr ardal ac wedi dechrau effeithio ar fioamrywiaeth.
Diolch i arian gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog a Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu cynnal arolwg ar 22 o safleoedd yn yr IPA yn 2016 ac mae'r canlyniadau newydd gyrraedd. Diolch byth dim ond mewn pum safle y gwelwyd rhywogaethau anfrodorol ac roedd y rhan fwyaf o'r rhain yn blanhigion unigol y gellir eu rheoli’n hawdd. Fodd bynnag, mae un safle yn y Darren Fawr, i'r gogledd o Ferthyr Tudful, gyda nifer sylweddol o cotoneaster. Mae’r Darren Fawr hefyd yn safle anodd am mai sgri ansefydlog yw cymaint ohono a chwareli bach sy'n anodd mynd atynt.
Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn gwneud cais am gyllid i gael gwared â’r planhigion ymledol ar bob un o'r pum safle lle cawsant eu darganfod. Gallai’r gwaith sydd ei angen ar y Darren Fawr gymryd rhwng 3 a 5 mlynedd i'w gwblhau ond mae dechrau nawr yn golygu y dylai planhigion brodorol ddechrau cael troedle cryfach.
Gallwch ddarllen mwy am yr Ardal Planhigion Pwysig hon drwy glicio ar y botwm isod.
|
|
Gaeaf prysur i brentisiaid CENNAD
Ar ôl ei lansio 10 mis yn ôl mae Cynllun Prentisiaeth Cen CENNAD wedi cyflwyno rhaglen sy’n llawn heriau a phrofiadau newydd. Mae prentisiaid wedi cymryd rhan mewn diwrnodau hyfforddi, ymweliadau maes a sesiynau cofnodi, ac mae’r rhain i gyd wedi datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am yr organebau rhyfeddol yma a’u cynefinoedd.
Mae Tracey Lovering, Swyddog Is-blanhigion a Ffyngau Plantlife Cymru sy’n cydlynu’r cynllun yn dweud mwy am yr hyn fu’r prentisiaid yn ei wneud yn ddiweddar yn ei blog newydd.
|
|
Efallai fod ymwelwyr rheolaidd â’n gwefan www.plantlife.org.uk wedi sylwi ein bod wedi bod yn ailaddurno. Ac nid llyfiad o baent ffres yn unig: mae gan ein rhestrau o rywogaethau a chyhoeddiadau faes chwilio sydd yn arddull Google ac mae’r tudalennau nawr yn gwbl gydnaws â’r ffonau clyfar mwyaf poblogaidd. Pam na wnewch chi bori?
|
|
Gwerth ochrau’r ffyrdd
Mae’n deiseb ochrau’r ffyrdd nawr wedi cyrraedd 18,000 o lofnodion diolch i gefnogwyr fel chi, ac rydym wedi bod yn defnyddio’r ffigur hwn i gynyddu pwysau ar y cynghorau i wella’r ffyrdd maent yn gofalu am y llochesau hanfodol hyn ar gyfer blodau gwyllt a bywyd gwyllt arall.
Mae naw cyngor bellach wedi ymrwymo i ddiogelu bron i 15,600km (dros 9,000 milltir) o ochrau ffyrdd glaswelltog sy’n gyfoethog mewn blodau – ardal sy’n cyfateb i chwarter o ddolydd iseldir sydd ar ôl yn y Deyrnas Unedig...
|
|
|
Carn yr ebol (Tussilago farfara) © Beth Halski/Plantlife
|
|
Eleni, wrth i ni nesáu at y tymor tyfu, rydym yn anelu at gael mwy o gynghorau i ymuno. Mae llawer yn ymwybodol o werth ochrau’r ffyrdd ac wedi cyflwyno cyfundrefnau torri gwair i annog blodau gwyllt, ond mewn ardaloedd cymharol fach yn unig maent yn gwneud hyn. Rydym yn ymgyrchu ar i gynghorau nid yn unig gydnabod pwysigrwydd ochrau’r ffyrdd ond hefyd i’w gwarchod a’u hadfer ar eu holl ffyrdd.
Felly mae’n hanfodol ein bod yn dal i bwyso ac yn lledaenu’r gair. Gallwch lofnodi’r ddeiseb a’i rhannu gyda’ch cyfeillion ar ein gwefan.
|
|
Tegeirian llydanwyrdd (Platanthera chlorantha, chwith) a gludlys Sbaen (Silene otites, dde)
|
|
Rhowch rodd o flodau gwyllt ar Sul y Mamau
Mae blodau yn anrheg gwych ar gyfer Sul y Mamau, felly pam na wnewch chi fabwysiadu blodau gwyllt hardd ar gyfer eich mam, neu rywun arbennig, a helpu i warchod blodau gwyllt ar yr un pryd. Mae gennym amrywiaeth hyfryd o flodau gwyllt i fabwysiadu a bydd y derbynnydd yn derbyn cerdyn post trawiadol, llyfryn gwybodaeth a thystysgrif am y blodyn a ddewiswyd gennych. Ac i wneud pethau hyd yn oed yn well, os ydych yn dyfynnu 'Sul y Mamau' yn y blwch 'cyfarwyddiadau arbennig ar gyfer gwerthwr' pan fyddwch yn talu yn ein siop ar-lein, byddwn hefyd yn cynnwys, yn rhad ac am ddim, hufen dwylo Neal’s Yard Remedies Bee Lovely, gwerth £10.
Gellir gweld ein dewis o flodau gwyllt ar gyfer eu mabwysiadu yma.
|
|
|
|
Contact us / Cysylltu a ni
Plantlife Cymru,
13 St. Andrews Crescent,
Cardiff/Caerdydd CF10 3DB
email/ebost cymru@plantlife.org.uk
phone/ffon 02920 376193
|
|
|
Plantlife International - The Wild Plant Conservation charity
is a charitable company limited by guarantee.
Registered in England and Wales, Charity Number: 1059559
Registered in Scotland, Charity Number: SC038951
Registered Company Number: 3166339.
Registered in England and Wales.
|
Registered Office
14 Rollestone Street,
Salisbury,
Wiltshire,
SP1 1DX, UK
Tel: +44 (0) 1722 342730
Fax: +44 (0) 1722 329035
enquiries@plantlife.org.uk
www.plantlife.org.uk
|
|
|
|