Copy
Chwefror 2017

Croeso

Croeso i rifyn mis Chwefror o gylchlythyr Cyfranogaeth Cymru! Rydym wedi ailddylunio gwedd yr ebost hwn ac fe fyddem wrth ein boddau o glywed eich barn. 

Mae ein cylchlythyr misol yn llawn gwybodaeth ynglŷn â chyrsiau hyfforddi, digwyddiadau cyfranogol sydd ar ddod, newyddion, ymgynghoriadau, dulliau a llawer mwy! 

Read this e-mail in English

Cyfle dysgu y mis:

Dewch i adnabod eich cynulleidfa arlein a chreu cynnwys arloesol i ateb eu hanghenion


Ymgysylltu arlein, 14 Mawrth, Caerdydd


Os ydych eisoes yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â’r cyhoedd ond am gael gwybod sut i greu cynnwys mwy atyniadol, gwella’ch cyrhaeddiad a darganfod syniadau newydd ac offer am ddim, yna dyma’r sesiwn i chi!

Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn gallu:
  • Adeiladu ar eich sgiliau presennol ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn eu defnyddio’n fwy effeithiol
  • Creu cynnwys diddorol ac atyniadol i ddiwallu anghenion eich cynulleidfa
  • Defnyddio offer arlein am ddim i greu cynnwys arloesol a dynamig
  • Dysgu sut i ymgorffori gweithgareddau arlein yn eich gwaith ymgysylltu bob dydd
Cael gwybod mwy a chadw lle

Hefyd ar y gweill yn fuan...

8-9 Mawrth a 16 Ebrill: Ymgysylltiad cyhoeddus: damcaniaeth ac ymarfer (Wedi'i achredu gan Agored Cymru), Y Rhyl

9 Mawrth: Gweminar: Cynllunio ac ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus am gyllid

5 Ebrill: Cyflwyniad i’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgysylltu, Caerffili

Hyfforddiant mewnol sydd wedi'i deilwra


Rydym yn darparu hyfforddiant pwrpasol sydd yn cynnig dull hyblyg a chost effeithiol i gwrdd ag eich chi anghenion a'ch mudiad.

Gallwn ddarparu ein cyrsiau i unrhyw rif o gyfranogwyr mewn lleoliad sy'n gweithio i chi. Rydym yn codi tâl ar gyfer ffi'r hyfforddwr a chostau teithio, cynhyrchiad taflenni a deunyddiau. Bydd angen i'ch sefydliad darparu'r lleoliad a lluniaeth, os yn berthnasol.

Rydym yn gweithio gyda chi i gynllunio ac addasu'r cwrs. Rydym yn awgrymu llenwi'r cwrs er mwyn lleihau pris y pen. Beth am wahodd mudiadau eraill i fynychu hefyd, gan adeiladupartneriaethau a'i wneud yn rhatach i bawb?

Mae modd teilwra pob cwrs i anghenion dysgu'ch mudiad chi

Gweld y rhestr lawn o gyfleoedd dysgu wedi’u teilwra

Dyddiad i'r dyddiadur: Dydd Iau 29 Mehefin 2017

Yn galw ar bawb sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd! Bwriadwn gynnal ein digwyddiad Rhwydwaith Cyfranogi Cymru Gyfan yn Llandrindod ar y dyddiad hwn.

Mwy o wybodaeth yma yn y man!
Newyddion arall a dolenni
Cael gwybod mwy
Cael gwybod mwy
Gofod 3

Digwyddiad newydd sbon yw gofod3 a drefnir gan WCVA, ar y cyd â’r trydydd sector yng Nghymru.


Yn wahanol i unrhyw ddigwyddiad arall yng Nghymru, ein man ni fydd hwn i ddysgu oddi wrth ein gilydd, i arloesi ac ysbrydoli ein gilydd. Dyma gyfle prin i’r trydydd sector ddod at ei gilydd ac ysgogi newid yng Nghymru.


gofod3 yw ein man ni i ddangos ein gwerth i Gymru gyfan. Dewch yn llu i’r digwyddiad arbennig hwn na ddylid ei golli!
Archebwch nawr!

Cyfle i ddweud eich dweud – Metro De Cymru


Cwmni dielw yw Trafnidiaeth Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ofalu am gaffael y Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau nesaf sy’n cynnwys Metro De Cymru.
 
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgynghori ar Wasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ar ran Llywodraeth Cymru yn yr wythnosau nesaf. Fel rhan o’r ymgynghoriad, maent wedi gofyn i Cyfranogaeth Cymru gynnal 6 grŵp ffocws i ddarganfod sut beth ddylai’r gwasanaeth fod, cyfleusterau yn y trenau, amserlenni, gorsafoedd, gwybodaeth teithio, ac yn y blaen.
 
Mae Trafnidiaeth Cymru eisiau clywed gan bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Cymoedd, ni waeth a ydynt yn defnyddio’r trenau ar hyn o bryd ai peidio, ac wedi crybwyll y grwpiau canlynol o bobl yn benodol: rhieni a theuluoedd ifanc, pobl ddi-waith, myfyrwyr coleg, pobl hŷn, pobl anabl a phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.

Bydd cyfleoedd hefyd i ardaloedd eraill yng Nghymru ddweud eu dweud, yn ogystal ag ymgynghoriad arlein, a agorwyd heddiw


Os ydych yn rhan o grŵp a fydd yn cwrdd ym mis Mawrth neu Ebrill ac â diddordeb mewn dweud eich dweud, cysylltwch i roi gwybod i ni.

Dull y mis: Melys a sur


Nod
Ystyried manteision ac anfanteision dewisiadau posib

Deunyddiau angenrheidiol
Papur siart troi (wedi’i rannu’n ddwy golofn) neu dau liw gwahanol o nodiadau gludiog a phinau marcio

Dull
  1. Gweithio mewn grwpiau bach, tua 6 o bobl ym mhob un
  2. Trafod y mater dan sylw
  3. Gofyn i gyfranogwyr drafod manteision (pethau melys) ac anfanteision (pethau sur) gan ddefnyddio’r ddwy golofn ar y siart troi, neu gyda nodiadau gludiog o wahanol liwiau
  4. Casglu adborth gan y grŵp(iau)
  5. Asesu a yw’r ‘pethau sur’ yn drech na’r ‘pethau melys’

Eich cyfle i fod ar dudalen flaen Network Jobs


Bob wythnos mae WCVA yn tynnu sylw at rywun sy’n gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru ar dudalen flaen ein cylchgrawn swyddi yn y trydydd sector, Network Jobs. Nod yr erthyglau byr iawn hyn yw amlygu’r cyfleoedd a’r buddion amrywiol y gall gyrfa yn y trydydd sector eu cynnig.
 
Os hoffech siarad am eich profiadau o weithio yn y trydydd sector yng Nghymru fe fyddem wrth ein boddau o glywed gennych. Cysylltwch â Simon Dowling drwy ebostio sdowling@wcva.org.uk i gael gwybod mwy.

Diweddaru’r dewisiadau tanysgrifio

 
A wyddoch chi y gallwch ddewis pa mor aml rydych yn cael ebyst gennym? Gallwch hefyd ddiweddaru’ch manylion cyswllt a’ch dewis iaith yma.
Forward
Rhannu
Tweet
+1
Pin
Rhannu
Hawlfraint © 2017 WCVA, Cedwir pob hawl.
Copyright © 2017 WCVA, All rights reserved.

Rydych yn cael yr ebost hwn fel aelod o rhestr e-bostio Hyfforddiant CGGC / You are receiving this email as a member of WCVA's Training mailing list

Lein Gymorth / WCVA Helpdesk 0800 2888 329
help@wcva.org.uk | www.wcva.org.uk | facebook.com/walescva | twitter.com/walescva 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | Ty Baltig | Sgwar Mount Stuart | Caerdydd | CF10 5FH
Elusen gofrestredig 218093 | Cwmni cyfyngedig drwy warant 425299 

Wales Council for Voluntary Action | Baltic House | Mount Stuart Square | Cardiff | CF10 5FH
Registered charity 218093 | Company limited by guarantee 425299

Eisiau newid sut rydych yn cael yr ebyst hyn?
Gallwch ddiweddaru’ch dewisiadau neu dynnu’ch enw oddi ar y rhestr hon.

Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list