Copy

 


Community Woodland Newsletter
Cylchlythyr Coetir Cymunedol

 

March / Mawrth2017

About Llais y Goedwig


We are the community woodland network for Wales. We share ideas, practical experience, resources, and inform policy.
 

Cysylltwch â Llais y Goedwig


Ni yw rhwydwaith coetiroedd cymunedol Cymru. Rydym yn rhannu syniadau, profiadau ymarferol, adnoddau a bwydo polisïau.
Website
Email
Facebook
Twitter
Woodland email group
YouTube

Welcome - Croeso


The newsletter for community woodlands in Wales
Y cylchlythyr ar gyfer coetiroedd cymunedol yng Nghymru


It's March already and we hope your woodlands are bristling with life and activity.  A quick reminder to any Group that has yet to complete the Llais y Goedwig survey to get in touch.  It has been wonderful listening to the achievements of our members and how groups envisage the future of Llais y Goedwig. 

This is your newsletter so if you have any events, activities, or courses taking place, or if you want an item mentioned or feel we are not including something please get in touch. The deadline for April newsletter is 7th April.

Don’t forget you can stay in touch with other members by posting on the Facebook Page.  We also have an email group and the website.

Mae hi'n fis Mawrth yn barod ac rydym yn gobeithio bod eich coetiroedd yn frith o fywyd a gweithgarwch. Nodyn sydyn i atgoffa unrhyw Grŵp sydd heb gwblhau arolwg Llais y Goedwig eto i gysylltu â ni. Mae wedi bod yn braf gwrando ar gyflawniadau ein haelodau a sut mae’r grwpiau yn rhagweld dyfodol Llais y Goedwig. 

Eich cylchlythyr chi yw hwn, felly os oes gennych chi unrhyw ddigwyddiadau, gweithgareddau, neu gyrsiau wedi’u trefnu, neu pe baech yn dymuno i ni sôn am eitem neu’n teimlo nad ydym yn cynnwys rhywbeth, cysylltwch â ni ar bob cyfrif. Y dyddiad cau ar gyfer cylchlythyr mis Ebrill yw 7 Ebrill.

Cofiwch fod modd i chi gadw mewn cysylltiad ag aelodau eraill drwy bostio ar y Dudalen Facebook. Mae gennym hefyd grŵp e-bost a'r wefan.







 

Community Woodland Events and Opportunities
Digwyddiadau Coetiroedd Cymunedol


 
Llyn Parc Mawr Skillshare

Join members Llyn Parc Mawr at their Skillshare in April.  There will be a host of demonstrations and activities that members can take part in, and why not join in the Mad Hatters Tea Party whilst you're there!
Travel expenses for members can be claimed on a first come first serve basis.

For information about the event click here

Rhannu Sgiliau Llyn Parc Mawr


Ymunwch ag aelodau yn Llyn Parc Mawr ar gyfer y sesiwn Rhannu Sgiliau ym mis Ebrill. Bydd llu o arddangosiadau a gweithgareddau y gall yr aelodau gymryd rhan ynddynt, a beth am ymuno â The Parti’r Hetiwr Hurt tra byddwch chi yno!
Gellir hawlio costau teithio ar gyfer aelodau ar sail y cyntaf i’r felin.

I gael gwybodaeth am y digwyddiad cliciwch yma


 

Your Woods - starting and running a community woodland. 

25 March 10:00-3:00 Talybont Yn Usk

Are you an Associate Member and want to start your own woodland group?  This free course run by LlyG member Gareth Ellis of Green Valleys CIC will set you in action.  Guaranteed to be a day worth attending.
Full details here.

Eich Coedwigoedd – dechrau a rhedeg coetir cymunedol. 
25 Mawrth 10:00-3:00 Tal-y-bont ar Wysg

A ydych chi’n Aelod Cyswllt ac am ddechrau eich grŵp coetir eich hun? Bydd y cwrs di-dâl hwn sy’n cael ei gynnal gan aelod LlyG Gareth Ellis o Gwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd yn eich rhoi chi ar ben ffordd. Mae’n sicr o fod yn ddiwrnod gwerth chweil.
Manylion llawn yma.



 

Environet Capacity Building Events


These free informative and participatory events, packed full of workshops and presentations, will bring together funders, specialist support bodies, community groups, the Office of the Future Generations Commissioner - and YOU!
Full details here.

Digwyddiadau Meithrin Gallu Environet

Bydd y digwyddiadau cyfranogol a llawn gwybodaeth hyn sy’n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim yn cynnwys gweithdai a chyflwyniadau, ac yn dwyn ynghyd gyllidwyr, cyrff cymorth arbenigol, grwpiau cymunedol, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol – a CHI!
Manylion llawn yma.

 

Woodland Activity Sheets


Continuing our promotion of these sheets developed for Llais y Goedwig, this month we look at making Green Man sculptures and a plant identification guide.
Click to download:
Green Man sculptures. 
Plant Identification

Taflenni Gweithgaredd Coetiroedd

Gan barhau â’n hymdrechion i hyrwyddo'r taflenni hyn a ddatblygwyd ar gyfer Llais y Goedwig, y mis hwn rydym yn edrych ar wneud cerfluniau’r Dyn Gwyrdd a chanllaw adnabod planhigion.
Cliciwch i lwytho i lawr:
Cerfluniau’r Dyn Gwyrdd. 
Adnabod Planhigion

 

Bee Friendly Wales

A brand new scheme, has been launched to protect bees and other pollinators in Wales.

Bee Friendly, or Caru Gwenyn, is a new Wales-wide accreditation scheme where communities, groups, and others can achieve "Bee Friendly" status.

Join their Facebook page here.
Read the Blog entry here.

Caru Gwenyn Cymru

Lansiwyd cynllun newydd sbon i ddiogelu gwenyn a phryfed peillio eraill yng Nghymru.
Mae Caru Gwenyn, neu Bee Friendly, yn gynllun achredu newydd Cymru gyfan lle gall cymunedau, grwpiau, ac eraill sicrhau statws “Caru Gwenyn”.
Ymunwch â’r dudalen Facebook yma.
Darllenwch gofnod y Blog yma.
 

Members Blogs and updates
Blog Rhifau


 
Click here. This short film highlights the successes of Tir Coed VINE project. A 3 year project that created opportunities for people to engage with their local woodlands through training courses, activity days and community events. For more see here

Coed y Bont Success


Chris Harris, a member of Coed Y Bont woodland and a Llais y Goedwig Director was Highly Commended for his entry in the Gordon Miller Award at the CMA conference earlier this year. 
The award acknowledges a person or group for their exceptional contribution to the management of the countryside of the UK.
Congratulations !

Llwyddiant Coed y Bont

Cafodd Chris Harris, aelod o goetir Coed y Bont ac un o Gyfarwyddwr Llais y Goedwig Ganmoliaeth Uchel am ei gofnod yng Ngwobr Gordon Miller yng nghynhadledd CMA yn gynharach eleni. 
Mae'r wobr yn cydnabod unigolyn neu grŵp am eu cyfraniad eithriadol tuag at reoli cefn gwlad y D.U.
Llongyfarchiadau!
 


Community Woodland Funding Opportunities
Cyfleoedd Ariannu i Goetiroedd Cymunedol


 

Greggs Foundation
Environmental Grants

This fund is interested in projects that improve the physical environment in a way that will improve people's lives. This can include equipment, sessional salary costs, purchase of trees/plants, small capital projects and learning activities. 

For how to apply click here

Sefydliad Greggs
Grantiau Amgylcheddol

Mae gan y gronfa hon ddiddordeb mewn prosiectau sy'n gwella'r amgylchedd ffisegol mewn ffordd a fydd yn gwella bywydau pobl. Gall hyn gynnwys cyfarpar, costau cyflog sesiynol, prynu coed / planhigion, prosiectau cyfalaf bach a gweithgareddau dysgu. 

I gael gwybod sut i wneud cais cliciwch yma
 

Active Inclusion Funding

Active Inclusion funding is available now for projects that help those facing barriers to work, training and qualifications. They are actively seeking applications from the community woodland sector that meet the qualifying criteria. 

For more details on this click here

Cyllid Cynhwysiant Gweithredol
Mae cyllid Cynhwysiant Gweithredol ar gael nawr ar gyfer prosiectau sy'n helpu'r rhai sy'n wynebu rhwystrau i waith, hyfforddiant a chymwysterau. Maent yn annog ceisiadau gan y sector coetiroedd cymunedol sy'n bodloni’r meini prawf cymhwyso. 
Am fwy o fanylion am hyn cliciwch yma


Community Woodland Policy Developments
Datblygiad Polisi Coetiroedd Cymunedol


 

Forestry and Woodland Inquiry

The National Assembly for Wales has launched an inquiry on forestry and woodland policy. This will include looking at the Welsh Government’s delivery of its Woodlands for Wales strategy.  They are seeking responses til 7th April.  

Read about it and submit here

Ymchwiliad Coedwigaeth a Choetiroedd
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei strategaeth Coetiroedd i Gymru.  Gallwch ymateb tan 7 Ebrill.  

Darllenwch amdano a’i gyflwyno yma


Llais y Goedwig Developments
Datblygiad Llais y Goedwig


 

Llais y Goedwig Annual Gathering 2017

Our Annual Gathering will have an open family day on Sunday (18th June). If you would like a free stall to sell items from your woodland to fund raise, or just to showcase what you do, please get in touch with Maria, or Liz. 
01654 700061

Cynulliad Blynyddol Llais y Goedwig 2017
Bydd ein Cynulliad Blynyddol yn cynnwys diwrnod agored i'r teulu ddydd Sul (18 Mehefin). Petaech yn dymuno cael stondin yn rhad ac am ddim i werthu eitemau o'ch coetir i godi arian, neu i arddangos yr hyn yr ydych yn ei wneud, cysylltwch â Maria, neu Liz. 
01654 700061

 

Llais y Goedwig Survey

If you only do one survey this year - let it be this one! Have your input into how the Llais y Goedwig network develops and how your Group uses the resources currently offered.  Get in touch and book a slot. Your responses will be the foundation to a discussion at the Annual Gathering in June. 
Liz: 01654 700061 or info@llaisygoedwig.org.uk

Arolwg Llais y Goedwig
Os ydych chi ond yn gwneud un arolwg eleni – gadewch iddo fod yr un yma! Dyma gyfle i chi gyfrannu at y ffordd y mae rhwydwaith Llais y Goedwig yn datblygu a sut mae eich Grŵp yn defnyddio'r adnoddau a gynigir ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni ac archebwch eich lle. Eich ymatebion fydd sail y trafodaethau yn y Cynulliad Blynyddol ym mis Mehefin. 
Liz: 01654 700061 neu info@llaisygoedwig.org.uk
 



Copyright © 2016Llais y Goedwig, All rights reserved.

Our mailing address is: info@llaisygoedwig.org.uk

unsubscribe from this list    update subscription preferences 

 






This email was sent to <<Email Address / Ebost>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Llais y Goedwig · Unit 1, Dyfi Eco Park · Machynlleth, Powys SY208AX · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp