Sgwrs ar y blaenoriaethau Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae angen i ni ddeall mwy am ein cymunedau, profiadau pobl a’r ffordd y maent yn byw eu bywydau os ydym am ddiogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.
Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru cyntaf; yr wyf am wrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud a deall yr hyn a gredwch yw’r materion pwysicaf sy’n wynebu Cymru yn y dyfodol.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn siarad â phobl a gofyn i chi gwblhau arolwg byr i’n helpu i ganolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, a phenderfynu sut y gallwn gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn genedl fach sy’n wynebu rhai heriau mawr, felly nid yw ‘busnes fel arfer’ yn opsiwn ar gyfer y ffordd yr ydym yn gweithio yng Nghymru. Fy rôl yw bod yn warcheidwad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, gan hyrwyddo datblygu cynaliadwy (ein llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol) ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu gwaith.
Yr wyf wedi cael sgyrsiau gyda llawer o bobl yn barod am yr heriau y mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i’w datrys. Rhoddais y rhain gyda’i gilydd mewn adroddiad."
|