Croeso
Helo a chroeso i gylchlythyr Mehefin!
Mis yma, rydym yn cynnal ein digwyddiad am ddim, Rhwydwaith Cyfranogi Cymru Gyfan yn Llandrindod, a gefnogir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Bydd gan y digwyddiad ddewis o weithdai, astudiaethau achos a digonedd o gyfleoedd rhwydweithio. Dyma’ch cyfle olaf i gadw lle – peidiwch â’i golli!
Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth, y diweddaraf am ein rhaglen hyfforddi, ein blog a llawer mwy!
Os ydych yn mwynhau’r cylchlythyr – cofiwch ei rannu drwy’r botymau isod!
Read this e-mail in English
|
|
|
Digwyddiad Rhwydwaith Cyfranogi Cymru Gyfan 2017
29 Mehefin, Llandrindod
Rhaglen ddrafft nawr ar gael
Dan ofal Cyfranogaeth Cymru gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Cost: am ddim
Yn gynyddol rydym yn ein cael ein hunain yn mynd neu’n perthyn i beth wmbreth o rwydweithiau, mae rhai wedi bod mewn bodolaeth ers cyn cof tra mae eraill yn codi mewn ymateb i syniad neu ddatblygiad newydd. Diben rhwydweithiau yw creu amgylchedd, un gwirioneddol neu un rhithwir, i bobl ddod at ei gilydd i rannu syniadau, cydweithio a chreu rhywbeth newydd.
Dywed llawer o bobl wrthym eu bod yn cael eu llethu a’u drysu gan nifer y rhwydweithiau sy’n bodoli ac mai’r un bobl yn aml sy’n ymddangos ym mhob un. Mae pethau wedi mynd braidd yn hurt!!
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i lawer o gyrff cyhoeddus fabwysiadu’r 5 Ffordd o Weithio. Dwy o’r rhain yw Cynnwys a Chydweithio, sydd ill dwy wrth wraidd yr hyn rydym ni gyd yn ei wneud fel ymarferwyr ymgysylltu.
FELLY…mae’r Rhwydwaith Cymru Gyfan eleni yn canolbwyntio ar Rwydweithiau. Pa rwydweithiau sydd ar gael? A ydynt yn addas i’r diben? A oes cyfle i gydweithio ymhellach neu i uno? Os ydych yng nghanol y cwlwm Rhwydweithio yna dyma’r digwyddiad i chi!
Bydd yna hefyd amrywiaeth o astudiaethau achos, cyfleoedd rhwydweithio a chyfle i edrych ar ddulliau cyfranogol.
Darllenwch y rhaglen ddrafft yma
|
|
|
Cyfle dysgu y mis
Yn rhoi hwb i’ch cyfathrebu arlein
11 Gorffennaf 2017, Caerffili
A yw’ch gwefan yn gweithio i’ch mudiad, neu a oes angen ailfeddwl eich strategaeth ddigidol? A ydych yn gwybod am beth mae ymwelwyr â’ch gwefan yn chwilio – a sut i’w ddarparu?
A yw’ch tudalennau’n ymddangos yn uchel yng nghanlyniadau chwilio Google, ac a ydych yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i anfon traffig i’ch gwefan?
Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi hwb i’ch cyfathrebu arlein, ac yn sicrhau eich bod chi, eich ymwelwyr a’ch mudiad yn cael y gorau o’ch gwefan
|
|
|
Ar y gweill...
Rhaglen Hyfforddi Newydd!
Mewn ychydig wythnosau yn unig, bydd rhaglen hyfforddi newydd sbon WCVA yn fyw!
Rydym wedi gwrando ar eich dymuniadau; mae canlyniadau ein harolwg dysgwyr wedi helpu i lywio’r rhaglen newydd.
Mae rhaglen hyfforddi WCVA yn cynnwys cyrsiau ar lywodraethu, cyfathrebu, ymgysylltu â’r cyhoedd, dod o hyd i gyllid a llawer mwy! Fel cyrsiau Cyfranogaeth Cymru, gall y rhain i gyd gael eu cynnal yn fewnol hefyd ar gyfer eich mudiad.
Bod y cyntaf i wybod
Diweddarwch eich dewisiadau tanysgrifio ebost yma i sicrhau’ch bod wedi tanysgrifio i brif raglen hyfforddi WCVA a bod y cyntaf i wybod pryd y bydd y rhaglen yn fyw!
|
|
|
|
|
|
O’n Blog
Sut i hwyluso trafodaeth arlein yn ystod ffrwd fyw
Mae ffrydiau byw yn bwnc llosg mawr ar hyn o bryd. Mae pobl eisiau cynnwys sydd ar gael ar unwaith. Mae gwasanaethau megis Periscope, Facebook Live, YouTube Live Streams a Twitch yn hynod o boblogaidd ac mae’r nifer sy’n eu defnyddio yn tyfu’n gyflym.
Mae llwyfannau neu apiau cymdeithasol eraill gan gynnwys Instagram, Snapchat a Messenger hefyd yn canolbwyntio’n fawr ar ddarllediadau byw.
|
|
5 awgrym hwylus i hwyluswyr
Croeso i #HwylusoHwyluswyr! Dyma bum awgrym a fydd yn arbed amser i hwyluswyr. Ysgrifennwyd yr awgrymiadau gan griw Cyfranogaeth Cymru i helpu hwyluswyr o bob lefel profiad i gael awgrymiadau hwylus.
Mae’r awgrymiadau hyn yn cynnwys technegau newydd, pethau rydym wedi’u dysgu, cynllunio a chyngor defnyddiol cyffredinol i unrhyw hwylusydd eu mwynhau.
|
|
|
Arolwg Tadau Cymru 2017
Mae FNF Both Parents Matter Cymru yn gofyn i bob tad, ffigwr tadol a thad-cu neu daid yng Nghymru i gymryd rhan yn arolwg Tadau Cymru eleni.
Mae'r arolwg yn holi dynion ynglŷn â'r ffordd maent yn cael eu trin fel rhieni a gofalwyr plant gan wasanaethau statudol ee iechyd, addysg, cymorth rhianta ayyb.
Mae'r elusen yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a fydd eleni yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Dadau a Thadolaeth.
|
|
Beth sydd bwysicaf i chi neu’ch mudiad ar hyn o bryd?
Rydym yn gyson yn gwella ein ffordd o wneud pethau a byddem wrth ein boddau o wybod beth sydd bwysicaf i chi.
Fe fyddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi munud neu ddau o’ch amser i ateb yr arolwg hwn am eich arferion arlein a pha faterion sydd bwysicaf i chi o ran ymgysylltu a chyfranogi cyhoeddus.
|
|
|
|
|