Cyrsiau Cyfranogaeth Cymru yn Rhaglen Hyfforddi newydd WCVA
Mae Cyfranogaeth Cymru yn parhau i ddarparu hyfforddiant i’r rheini yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus sydd am ymgysylltu’n effeithiol. Gall ein cyrsiau roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymgysylltu â hyder.
Eleni, fel y llynedd, rydym wedi cadw costau i lawr drwy beidio â chynhyrchu ein rhaglen hyfforddi ein hunain ond gan barhau i gynnwys ein cyrsiau yn rhaglen hyfforddi ehangach WCVA.
Mae ein cyrsiau yn hwyl, yn gyfranogol ac yn cael eu cynnal mewn amgylchedd dysgu hamddenol, gallant roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi a’ch mudiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol.
Cydnabyddwn fod pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol; yn ein rhaglen hyfforddi newydd fe welwch amrywiaeth o gyrsiau byr, gweithdai, dysgu wedi’i achredu, gweminarau a chyfleoedd dysgu arlein eraill.
Arweinir ein hyfforddiant i gyd gan arbenigwyr yn eu maes sydd wedi ymrwymo i arfer gorau wrth gyfranogi ac ymgysylltu.
Yn gynharach eleni, gofynnon ni i chi am eich barn ar ddyfodol ein rhaglen hyfforddi a pha bynciau yr hoffech i ni eu cynnwys.
Cawsom 82 o ymatebion, a rhoddwyd pob un o’r rhain yn yr het i ennill tocyn PRYNU UN CAEL UN AM DDIM yn y Rhaglen Hyfforddi newydd.
Datgelwyd yr enillydd yn y fideo diweddaraf hwn ar ein Sianel YouTube.
Dyma rai o ganlyniadau’r arolwg:
- byddai’n well gan 64% o ymatebwyr i ni roi’r gorau i ddarparu cinio yn hytrach na chynyddu ffioedd ein cyrsiau
- hoffai 17% o ymatebwyr gael mynediad at hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
- mae’n well gan 94% o ymatebwyr ddysgu mewn ystafell ddosbarth, serch hynny mae dulliau eraill hefyd yn bwysig i eraill.
Gallwch weld canlyniadau llawn yr arolwg yma.
|