Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - Newyddion a Digwyddiadau Medi 2016
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Mwynhewch y Cerdded
Mae 12fed Ŵyl Gerdded Cymoedd Cymru yn cael ei chynnal y mis hwn. Dyma ddyddiadau’r rhai sy’n cael eu cynnal o amgylch Blaenafon:
6 Medi - Blaenafon - Tref Ddiwydiannol i Warchodfa Natur - Hawdd
7 Medi - Gweundir, Cynhyrchu a Chloddio - Cymedrol i Egnïol
5 Medi -Llwybrau Diwydiannol - Taith Gerdded Gylch Llan-ffwyst i Ofilon - Hawdd i Egnïol - Mae’r darn anodd ynopsiynol.
Rhaid bwcio, felly a fyddech cystal â bwcio ymlaen llaw ar eich teithiau cerdded er mwyn osgoi siom.
Mae gwybodaeth bellach am deithiau cerdded yr Ŵyl ym Mlaenafon a Thorfaen i’w gweld drwy glicio yma neu cysylltwch â Chanolfan Croeso Blaenafon i gael manylion ar 01495 74233

Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon
Bydd trenau yn rhedeg bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Medi a bydd sioe rheilffordd fodel yn atyniad ychwanegol ar y 10fed a'r 11eg. Bydd llawer o wahanol  gynlluniau i'w gweld, ac, os byddwch yn prynu tocyn trên, fe gewch fynediad am ddim. Mwy o wybodaeth.

Cyngerdd Cymunedol Treftadaeth Blaenafon

Mae strafagansa o Bopeth Blaenafon yn cael ei gynnal yng Ngwaith Haearn Blaenafon ar ddydd Sadwrn 10 Medi, 2016 - 6.30pm tan 8.30pm (Gatiau’n agor am 5:45pm) Bydd gweld o gerddoriaeth a dawns gan:- Gôr Meibion Blaenafon, Côr Merched Blaenafon, Band Tref Blaenafon, Dawnswyr Blaenafon, The Pashy Pops                                                   

£3 y tocyn - £5 Teulu (2 oedolyn, 3 phlentyn). Gellir prynu tocynnau o Waith Haearn Blaenafon cyn y diwrnod neu o’r safle ar y noson. Bydd yr holl elw yn mynd i Elusennau Apêl y Maer a Changen Blaenafon o’r Lleng Prydeinig Brenhinol. Bydd yr elusennau ar y safle ar y noson.

Marchnad Blaenafon
Mae marchnadoedd misol Blaenafon wedi bod yn llwyddiant mawr ymhlith trigolion lleol. Caiff ei chynnal rhwng 10am a 2pm naill ai ym Methlehem Court neu Gapel (Hope) Moriah gyferbyn, yn dibynnu ar y tywydd. Mae yna fân bethau, crefftau, bara, stondinau cacennau a llawer iawn mwy.
Dyma restr o’r dyddiadau misol:
Dydd Sadwrn: 17 Medi - 15 Hydref - 19 Tachwedd Bydd lluniaeth yn cael ei weini bob amser yng Nghapel
Bethlehem. I gael manylion pellach cysylltwch â Stacey ar: 01495 792878.

Safle Treftadaeth Byd  

Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd
Bydd amryw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon NP4 9AE. Ni chodir tâl. 13-25 oed.
Pwy yw UNESCO?  Dydd Mawrth 13 Medi - 6.30pm – 8.00pm
Ymunwch â ni i fod yn Llysgennad Ieuenctid Treftadaeth Byd ac archwiliwch dreftadaeth Blaenafon a phwy yn union yw UNESCO.
Confensiwn Treftadaeth Byd – Dydd Mawrth 20 Medi - 6.30pm – 8.00pm
Dewch i gael hwyl gyda ni a dod yn Llysgennad Treftadaeth Byd!
Penwythnos Agored – Dydd Sadwrn 24ain – ddydd Sul 25ain o Fedi - 10am – 3.30pm
Ymunwch â ni yn ystod ein penwythnos agored a gweld os hoffech fod yn Llysgennad Treftadaeth Byd ym Mlaenafon!

www.visitblaenavon.co.uk/youthambassadors
Facebook

Newyddion y Gymuned 

Ailddarganfod Portreadau Hanesyddol
Ail-ddarganfuwyd pedwar ar ddeg o bortreadau hanesyddol yn ddiweddar yn seler Neuadd y Gweithwyr Blaenafon. Mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon wedi ariannu'r gwaith o'u hadfer ac erbyn hyn gellir gweld y lluniau ysblennydd yn y neuadd. Maent yn darlunio pwysigion lleol, gan gynnwys aelodau o Gymdeithas Ryddfrydol y dref a Sefydliad y Gweithwyr. Beth am ymweld â hwy a dysgu mwy am y bobl bwysig hyn o orffennol Blaenafon!
 

Hawlfraint © 2016 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS