Copy
Newyddion Digwyddiadau Economi a Mentergarwch Torfaen Ionawr 2017
View this email in your browser

Blwyddyn Newydd Dda!

 Ar ran Tîm Economi a Mentergarwch Torfaen yng Nghyngor Torfaen hoffem ddymuno pob llwyddiant i chi gyda’ch busnes yn 2017.

 
Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi busnesau yn y fwrdeistref, bydd Economi a Mentergarwch Torfaen yn datblygu cyfres o bynciau busnes dan amrywiol themâu drwy gydol 2017 - o Gyllid a Busnes ac AD i Farchnata a Mentergarwch. Byddwn yn darparu prif erthyglau, astudiaethau achos ac awgrymiadau ynghyd â chysylltiadau i adnoddau a chyfleoedd er mwyn helpu busnesau sy'n bodoli, ac unrhyw un sydd am sefydlu busnes.
Ein pwnc cyntaf yn 2017 yw Noddi fel Arf Marchnata, i gael gwybod mwy darllenwch ein prif erthygl sy'n cynnwys adnoddau a chyfleoedd.

Arddangosfa Busnes Torfaen 2017

Gan Lais Busnes Torfaen

Dydd Mercher, 17 Mai 9am - 1pm –
Stadiwm Cwmbrân, Torfaen NP44 3YS

 
• Busnesau lleol mewn lleoliad lleol
• Atgyfnerthu cysylltiadau masnachu a meithrin cyfleoedd
• Cyfle i gwmnïau i arddangos eu busnesau
• Rhaglen lawn o ddigwyddiadau
• Brecwast rhwydweithio am ddim
• Gweithgareddau rhwydweithio ffurfiol ac anffurfiol
• Gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig yn y byd busnes
• Sesiwn galw i mewn gydag arbenigwyr, gan Economi a Mentergarwch Torfaen
 
I drefnu stondin yn yr arddangosfa ac i gadw lle: www.southwalesbusiness.co.uk/TBVExhibition
Cliciwch yma i archebu lle a stondin yn yr arddangosfa

Byddwch yn rhan o’ch clwb busnes lleol yn Nhorfaen yn 2017

Mae Llais Busnes Torfaen yn glwb rhwydweithio ffyniannus a chroesawgar sy'n rhoi cyfle i fusnesau lleol gyfarfod, rhwydweithio a dod i adnabod eu rhwydwaith busnes lleol. Yn denu ystod o sectorau gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol, creadigol a dylunio i TG a hyfforddiant, mae'n bartneriaeth lwyddiannus a ddatblygwyd dros y 15 mlynedd diwethaf rhwng busnesau lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Ar hyn o bryd mae gennym dros 90 o aelodau gydag o leiaf 60 o bobl yn bresennol ym mhob cyfarfod. Nawr, heb os, yw'r amser gorau i fanteisio ar ein blwyddyn aelodaeth newydd.

 

Roedd ein cyfarfod Llais Busnes adeg y Nadolig yn ddigwyddiad hynod o ddifyrrus a phleserus, gydag adloniant gan Lee Byrne a Nigel Meek o fyd rygbi, i Elvis a sialens mannequin.

Felly dewch draw a rhwydweithio'n lleol mewn awyrgylch anffurfiol, cwrdd â chysylltiadau newydd sydd eisoes ar eich stepen drws. Cynhelir pob cyfarfod yng Nghlwb Golff Greenmeadow, Cwmbrân.
 
Digwyddiad Nesaf i Aelodau’r Clwb Busnes: 16 Mawrth 2017 – Rhwydweithio dan ofal hyrwyddwyr – Lleoedd blasu am ddim ar gael ar gais.  Ymunwch nawr i ddod yn aelod yn 2017!
Cliciwch yma i gadw lle
Cliciwch yma i weld ein rhestr aelodaeth bresennol

Digwyddiad yn codi arian i Gymdeithas Alzheimer

Codwyd dros £1,500 ar gyfer Cymdeithas Alzheimer yn nigwyddiad blynyddol Merched Torfaen mewn Busnes.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty’r Parkway yn Nhachwedd a chodwyd £1695.22 trwy bris tocynnau, raffl, a chyfraniad gan Fanc Santander. 
Daeth dros 100 o fenywod busnes ynghyd i ddathlu cyfraniad menywod i gymuned fusnes Gwent.
Dywedodd Cath Thomas, pennaeth economi, mentergarwch ac amgylchedd yng Nghyngor Torfaen: “Mae ein digwyddiad blynyddol i Ferched mewn Busnes wedi tyfu bob blwyddyn ac wedi dod yn un o uchafbwyntiau’r calendr busnes.

“Yn ogystal â rhoi cyfle i fenywod i rwydweithio a chlywed gan siaradwyr ysbrydoledig, rydym hefyd yn hoffi codi arian ar gyfer achosion da ac rydym yn falch o gael cyflwyno’r arian yma i Gymdeithas Alzheimer.”
Dywedodd Rhia Stankovic-Jones, swyddog codi arian cymunedol ar ran Cymdeithas Alzheimer’s: “Mae’r arian yma’n dderbyniol iawn a bydd yn caniatáu i ni barhau i ddarparu gwasanaethau i gefnogi pobl â dementia yn Nhorfaen, ac yn y pen draw buddsoddi mewn ymchwil at wellhad.
“Rhaid i ni ddweud diolch yn fawr iawn i Gyngor Torfaen a’r menywod i gyd a ddaeth i’r digwyddiad.”
I weld digwyddiadau eraill yn Nhorfaen, cliciwch yma

Cyfeiriadur Busnes Torfaen

Mae’r cyfeiriadur yn eich galluogi i chwilio AM DDIM am gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau  yn Nhorfaen, yn annog masnachu’n lleol ac yn ffynhonnell ar-lein ar gyfer ymchwil a gwybodaeth ar weithgaredd economaidd a busnes yn Nhorfaen. Os ydych chi wedi’ch lleoli yn Nhorfaen yna ymunwch â dros 500 o gwmnïau sydd wedi ychwanegu eu manylion eisoes.  Fe fydd yn cymryd ond ychydig funudau i chi i wneud ac mae’n rhad ac am ddim.  Felly ehangwch eich proffil a’ch marchnata HEDDIW! 

           

Cliciwch yma i weld y cyfeiriadur ac i ychwanegu eich busnes

Gwefan Economi a Mentergarwch Torfaen

Ffynhonnell anhepgor ar gyfer masnachu yn Nhorfaen yw hon. Mae yna restr gyfredol o ddigwyddiadau busnes, newyddion a gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael gan dîm Economi a Mentergarwch Torfaen.
Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i ddechrau busnesau newydd trwy brosiect EFFECT project, benthyciadau Busnes, cefnogaeth gyffredinol i fusnesau ynghyd â chymorth arbenigol ac wedi’i addasu’n bwrpasol gydag adleoli busnes yn y Fwrdeistref.  Ewch i’r wefan HEDDIW a chofiwch adael i ni wybod unrhyw newyddion da am eich busnes chi yn Nhorfaen!

Ewch i wefan EMT
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website
Copyright © 2017 Torfaen Economy & Enterprise, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list

Email Marketing Powered by Mailchimp