Copy
Ionawr 2017

Croeso

Croeso i rifyn mis Ionawr o gylchlythyr Cyfranogaeth Cymru! Rydym wedi ailddylunio gwedd yr ebost hwn ac fe fyddem wrth ein boddau o glywed eich barn.

Mae ein cylchlythyr misol yn llawn gwybodaeth ynglŷn â chyrsiau hyfforddi, digwyddiadau cyfranogol sydd ar ddod, newyddion, ymgynghoriadau, dulliau a llawer mwy! 

Read this e-mail in English

Diweddaru’r dewisiadau tanysgrifio

 
A wyddoch chi y gallwch ddewis pa mor aml rydych yn cael ebyst gennym? Gallwch hefyd ddiweddaru’ch manylion cyswllt a’ch dewis iaith yma.

Cyfle dysgu y mis

Ymgysylltiad cyhoeddus: damcaniaeth ac ymarfer
Wedi'i achredu gan Agored Cymru

8-9 Mawrth a 16 Ebrill, Y Rhyl

Mae ein cwrs cynhwysfawr, achrededig yn rhoi mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i chi o ymgysylltu.

Ariennir lleoedd ar y cwrs hwn ar gyfer y rheiny sy’n gweithio i Fyrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol (unrhyw adran) a mudiadau iechyd a gofal cymdeithasol trydydd sector. Mae nifer cyfyngedig o lleoedd, felly’r cyntaf i’r felin gaeth falu!

Cael gwybod mwy a chadw lle!

Cyfle i ddweud eich dweud ar ein rhaglen hyfforddi nesaf!


Mae Cyfranogaeth Cymru wrthi’n datblygu ei raglen hyfforddi ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2017 a mis Gorffennaf 2018. Rydym yn cydnabod bod yr heriau ariannol sy’n wynebu pob mudiad yn golygu mai anghenion dysgu a datblygu staff a gwirfoddolwyr sy’n aml yn dioddef. Yn gynyddol, mae mudiadau’n chwilio am ddewisiadau amgen, rhatach, megis dysgu wedi’i deilwra neu ddysgu arlein. Mae’n bwysig ein bod yn ymateb i’ch anghenion, felly, a fyddech cystal â llenwi’r holiadur hwn ar eich anghenion dysgu a datblygu? Dylai gymryd tua 10 -15 munud i’w gwblhau.

Er mwyn i ni wneud y defnydd gorau o’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni, mae’n bwysig i ni wybod i ba fudiad rydych yn perthyn a’r ardaloedd daearyddol rydych ar waith ynddynt, felly, atebwch bob cwestiwn os gwelwch yn dda.

Wrth ateb yr arolwg hwn, rhoddir eich enw yn awtomatig yn yr het i ennill taleb sy’n rhoi lle am ddim i chi ar gwrs hyfforddi undydd o’ch dewis yn y rhaglen hyfforddi bresennol pan fyddwch yn prynu lle mewn cwrs hyfforddi undydd arall.

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2017

Cwblhewch yr arolwg yma

Mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru gyda’n gilydd


Ar 28 Chwefror mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, y corff gwarchod defnyddwyr dŵr statudol, yn cynnal cynhadledd AM DDIM fydd yn dod â chwmnïau cyfleustodau, cynrychiolwyr y Llywodraeth a defnyddwyr, rheoleiddwyr a’r sector ymgynghori yng Nghymru ynghyd. Eu bwriad yw:
  • codi ymwybyddiaeth am gymorth i’r rhai sy’n agored i niwed yn ariannol ac
  • archwilio cyfleoedd i weithio gyda’i gilydd i helpu lleihau tlodi yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau trydydd sector ac aelodau o WCVA i ddysgu am yr hyn y gall cwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru gwneud i helpu eich cleientiaid a buddiolwyr.

Yn ystod y digwyddiad, gallwch hefyd gael mynediad i hyfforddiant a chyfarwyddyd o gwmnïau dŵr AM DDIM i'ch helpu i gefnogi eich cleientiaid trwy gynlluniau cymorth sy'n ymwneud â dŵr. Dewch i gwrdd â'n Cyngor Defnyddwyr Dŵr yng Nghymru a chael gwybod mwy am ein gwasanaethau a gwaith. 

Cofrestrwch os oes diddordeb gennych mewn mynychu ein digwyddiad:
http://www.ccwater.org.uk/aboutus/regions/wales/

Cysylltwch â Jade Painter, jade.painter@ccwater.org.uk, 02920379857 am rhagor o wybodaeth.
 
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i sefydliadau ymgynghori a chefnogi ledled Cymru.

Cyfle olaf i archebwch - Rhwydweithiau cyfranogaeth ranbarthol, Chwefror 2017

Yn aml gall dulliau casglu data ansoddol megis grwpiau ffocws a chyfweliadau un wrth un roi dealltwriaeth well o faterion go iawn na dulliau meintiol megis arolygon neu holiaduron.

Dydd Iau 2 Chwefror 2017 - Machynlleth
Dydd Mawrth 7 Chwefror 2017 - Abertawe
Dydd Iau 9 Chwefror 2017 - Caerdydd

Mae'r rhwydweithiau cyfranogaeth ranbarthol yma yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio ym maes cyfranogaeth ac ymgysylltiad cyhoeddus.

Mae'r rhai sy'n mynychu yn dod o fudiadau amrywiol yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n ffocysu ar sawl mater gwahanol. Mae'r digwyddiadau yn addas ar gyfer unrhyw un o unrhyw lefel o fewn mudiad sydd gyda diddordeb mewn gwaith cyfranogol ymarferol, gan gynnwys swyddogion ymgynghori, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion datblygu a rheolwyr.

Mae'r rhwydweithiau ymarferwyr yma yn weithdai bywiog a chyfranogol sydd yn darparu cyfle i gymheiriaid i rannu, cefnogi ac ymgysylltu â'i gilydd.

Maent yn darparu cyfle amhrisiadwy i:

  • Cwrdd ag ymarferwyr eraill yn eich ardal
  • Rhannu ymarfer da
  • Rhannu syniadau
  • Datrys problemau
  • Datblygu sgiliau cyfranogol
  • Ennill sgiliau newydd
Cael gwybod mwy
Newyddion arall a dolenni
Cael gwybod mwy
Swydd Wag: Cynorthwyydd Prosiect Dros Dro

Mae TPAS Cymru yn chwilio am Gynorthwyydd Prosiect i gynorthwyo ni am oddeutu 2 fis ar rai prosiectau a thasgau pwysig.

Cyflog: £8.04 yr awr

Hyd tebygol o gyflogaeth: hyd at 31 Mawrth 2017

 

 

Cael gwybod mwy

Dull y mis: Dangosyddion datblygu


 
Nod: mewn grwpiau, llunio diffiniad o ‘ddatblygu’ a phenderfynu pa ddangosyddion sy’n dangos a yw ‘datblygu’ wedi digwydd ai peidio
 
Deunyddiau angenrheidiol: Ysgrifbinnau a phapur
 
Cam un: Mewn grwpiau o 4-5 o bobl, gofynnwch i bob cyfranogwr nodi tri gair sy’n dod i’w meddwl pan fyddant yn clywed y gair ‘datblygu’
 
Cam dau: Defnyddiwch bob un o’r geiriau a nodwyd i lunio diffiniad y grŵp o ‘ddatblygu’
 
Cam tri: Gan ddefnyddio’r diffiniad yma, gofynnwch i’r grwpiau feddwl am ddangosyddion y gellir eu mesur i ddangos a yw ‘datblygu’ wedi digwydd
 
Cam pedwar: Rhowch restr o ddangosyddion ar y wal. Hwyluswch drafodaeth ynglŷn â pha ddangosyddion sy’n cael eu cyflawni gan y gymuned/mudiad/prosiect
 
Cam pump: Gellid mynd yn ôl at y dangosyddion hyn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn monitro’r cynnydd o’i gymaru â’r dangosyddion

gofod3 - Digwyddiad trydydd sector newydd sbon i Gymru


Digwyddiad newydd sbon yw gofod3 a drefnir gan WCVA, ar y cyd â'r trydydd sector yng Nghymru.

Yn wahanol i unrhyw ddigwyddiad arall yng Nghymru, ein man ni fydd hwn i ddysgu oddi wrth ein gilydd, i arloesi ac ysbrydoli ein gilydd. Dyma gyfle prin i'r trydydd sector ddod at ei gilydd ac ysgogi newid yng Nghymru.

Bydd gan gofod3 raglen brysur a chyffrous, ac ynddi siaradwyr, dosbarthiadau meistr, paneli trafod a gweithdai. Hefyd bydd man arddangos rhyngweithiol bywiog yn cynnwys mudiadau o'r y trydydd sector a'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

gofod3 yw ein man ni i ddangos ein gwerth i Gymru gyfan. Dewch yn llu i'r digwyddiad arbennig hwn na ddylid ei golli!

Cael gwybod mwy
Hawlfraint © 2017 WCVA, Cedwir pob hawl.
Copyright © 2017 WCVA, All rights reserved.

Rydych yn cael yr ebost hwn fel aelod o rhestr e-bostio Hyfforddiant CGGC / You are receiving this email as a member of WCVA's Training mailing list

Lein Gymorth / WCVA Helpdesk 0800 2888 329
help@wcva.org.uk | www.wcva.org.uk | facebook.com/walescva | twitter.com/walescva 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru | Ty Baltig | Sgwar Mount Stuart | Caerdydd | CF10 5FH
Elusen gofrestredig 218093 | Cwmni cyfyngedig drwy warant 425299 

Wales Council for Voluntary Action | Baltic House | Mount Stuart Square | Cardiff | CF10 5FH
Registered charity 218093 | Company limited by guarantee 425299

Eisiau newid sut rydych yn cael yr ebyst hyn?
Gallwch ddiweddaru’ch dewisiadau neu dynnu’ch enw oddi ar y rhestr hon.

Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list