Torf-gyllido hyfforddiant
Y cwrs cywir ond yn y lleoliad neu iaith anghywir? Os gwelwch gwrs sy’n ennyn eich diddordeb yn y rhaglen hyfforddi hon neu rywle ar ein gwefan ond nid yw’n cael ei gynnal mewn lleoliad cyfleus neu byddai’n well gennych wneud y cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yna mae croeso i chi gysylltu â ni. Os gallwch ddod o hyd i ddiddordeb yn y cwrs yn eich ardal yna gallwn ni ddod atoch chi a’ch helpu i’w hyrwyddo hefyd.
Hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi’u teilwra
Gallwn ni ddod atoch chi! Mae modd cynnal pob un o’n cyrsiau yn arbennig i chi yn eich mudiad. Mae hyn yn aml yn rhatach gan ddibynnu ar y niferoedd. Mae cyrsiau Cymraeg a dwyieithog hefyd ar gael. Gallwn weithio gyda mudiadau ledled Cymru a Lloegr.
|