Copy
Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon– Newyddion a Digwyddiadau Chwefror 2018
View this email in your browser
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Canolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon
Amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft dros wythnos hanner tymor  
  • Dydd Mawrth 20fed Chwefror: dyluniwch a gwnewch deilsen seramig lliwgar ar thema’r gwanwyn. 11am – 4pm (£1 yr un am bob gweithgaredd crefft)
  • Dydd Iau 22ain Chwefror: Sesiwn Stori a Chrefft yn y Llyfrgell am 2.30pm (angen bwcio o flaen llaw), am ddim
Am fanylion pellach ffoniwch 01495 742333,
e-bost: blaenavon.tic@torfaen.gov.uk Website
Big Pit amgueddfa Lofaol Cymru
Ymunwch â ni am hwyl a gweithgareddau i’r teulu yn ystod hanner tymor o ddydd Llun 19 tan ddydd Gwener 23 Chwefror. Mae ein dwy arddangosfa ffotograffig - Teulu Blaenafon a Teulu o Lowyr gan Walter Waygood dal yma, felly os nad ydych chi wedi cael cyfle i weld y lluniau gwych yma o Big Pit a Blaenafon, galwch heibio.(Teulu Blaenafon ar gael dydd Llun - dydd Gwener yn unig).
Sinema Neuadd y Gweithwyr, Blaenafon  
Tosca – y Tŷ Opera Brenhinol yn fyw – Dydd Mercher 7fed Chwefror 2018
Drama, angerdd a cherddoriaeth wych - mae opera gyffrous Puccini yn un o’r profiadau operatig mawr.  Dan Ettinger sy’n arwain cast o sêr. Diniweidrwydd yn lladd.  Serch yn cael dedfryd o farwolaeth
The Winter’s Tale, y Tŷ Opera’n fyw – dydd Mercher 28ain Chwefror 2018
Daw stori Shakespeare o serch a cholled yn ddrama rymus ar ffurf dawns yn addasiad Christopher Whelldon mewn bale, gyda cherddoriaeth gan Jody Talbot.
I archebu ac am fwy o fanylion

Newyddion Treftadaeth

Enwebiad Treftadaeth y Byd y DU
Mae Arsyllfa enwog Jodrell Bank yn cael ei henwebu fel enwebiad Treftadaeth y Byd y DU ar gyfer 2019, ac mae’n gobeithio ymuno â safleoedd fel tirwedd ddiwydiannol Blaenafon fel safle sydd wedi derbyn yr anrhydedd arbennig yma. I wybod mwy am enwebiad Jodrell Bank darllenwch fwy yma...
Cydweithio o Wal i Wal
Mae Safle Treftadaeth y Byd Wal Hadrian yn gweithio gyda wal amddiffynnol enwog arall, Wal Fawr Tsieina, i annog twristiaeth a chynyddu dealltwriaeth ddiwylliannol o’r gwahanol Safleoedd Treftadaeth y Byd.

“Mae Cydweithio Wal i Wal yn enghraifft berffaith o sut gall treftadaeth gael ei defnyddio i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, tyfu twristiaeth ac adeiladu Prydain gwirioneddol fyd-eang” dywedodd John Glen, gweinidog Prydain dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth. Darllenwch fwy yma.

Hawlfraint © 2018 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Torfaen Economy & Enterprise · Torfaen County Borough Council, Ty Blaen Torfaen · Panteg Way, New Inn, Pontypool · Torfaen, Tof NP4 0LS · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp