Copy
Economi a Mentergarwch Torfaen – Newyddion a Digwyddiadau Ebrill 2018
View this email in your browser
Economi a Mentergarwch Torfaen – Newyddion a Digwyddiadau Ebrill 2018

Gyllid ar gyfer Busnes

Trwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill rydym yn canolbwyntio ar Gyllid ar gyfer Busnes fel ein pwnc busnes. Darllenwch yr Erthygl Allweddol annibynnol a llawn gwybodaeth sy’n amlinellu’r hyn i’w ystyried mewn perthynas ag ochr ariannol busnes.

Os ydych yn ystyried benthyciad busnes, edrychwch ar beth sydd gan Fanc Datblygu Cymru i’w gynnig. Os ydych yn gwybod am rywun sydd eisiau cychwyn busnes, gadewch iddyn nhw wybod am fenthyciad Cychwyn Busnes Torfaen.

Gwyliwch ein fideo diweddar mewn partneriaeth â Green & Co ar Ostyngiad Trethi Ymchwil a Datblygu i fusnesau  

Mae amrywiaeth o bynciau busnes eraill i gefnogi eich busnes ’ar gael i’w gweld.

Brecwast Busnes Torfaen yn trafod
Seibr-droseddu
Cyfarfu mwy na 50 o bobl busnes Torfaen yng Nghlwb Golff Greenmeadow i drafod seibr-droseddu a diogelu data.
Rhoddodd arbenigwyr yn y diwydiant John Hurst a Luke Hodge o b2b IT Services awgrymiadau ymarferol a chyngor i fusnesau ar amddiffyn eu hunain yn erbyn bygythiadau seibr newydd.
Cafwyd hefyd gyflwyniad i’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) ac esbonio sut gall busnesau sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd.
Trefnwyd y digwyddiad gan Dîm Economi a Mentergarwch Cyngor Torfaen. 
Ffilm fer ar Seibr-droseddu
Cyfraith Diogelu Data Newydd i Fusnesau – Byddwch yn Barod!
Lle bynnag rydych chi yn y broses o ddatblygu eich busnes – boed yn cychwyn, yn ehangu neu’n masnachu’n gyfforddus – medrwch fod yn sicr y byddwch yn trin gwybodaeth am eich cwsmeriaid a’ch partneriaid.  
Daw’r ddeddfwriaeth newydd, a elwir yn ffurfiol yn Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), i rym yn llawn ar 25ain Mai 2018.
Mae’r RhDDC yn pennu’r rheolau ar gyfer prosesu data person gyda golwg ar amddiffyn eu hawliau a’u rhyddid, ynghyd â phennu’r gofynion ar gyfer symudiad y data hwn. Caiff RhDDC eu goruchwylio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n cynnig llinell gymorth am ddim os oes gennych unrhyw gwestiynau - ffoniwch 0303 123 1113.
 
Rhagor o wybodaeth yma.
Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Llysgennad yr UD yn picio draw i ffatri beiciau Torfaen
Mae Woody Johnson, Llysgennad yr UD i’r DU, wedi ymweld â ffatri Frog Bikes Gwent ar Stad Parc Mamhiliad, ger Pont-y-pŵl, i weld sut mae’n gwneud y beiciau ysgafn i blant y mae’n eu gwerthu yn yr Unol Daleithiau a ledled y byd.
Gan ddathlu ei bumed pen-blwydd y mis diwethaf, mae Frog Bikes yn arbenigwr yn y maes beiciau i blant, gan wneud gwaith ymchwil manwl i greu beic ysgafnach sy’n ei gwneud yn haws i blant ddysgu a mwynhau reidio beic.
Mae Frog Bikes yn allforiwr llwyddiannus o Brydain, gan ennill gwobrau am allforio a gweithgynhyrchu.
Meddai Shelley Lawson, cyd-sylfaenydd Frog Bikes: "Fel cwmni cymharol ifanc, roedd yn eitha’ brawychus ystyried mynd i farchnad mor fawr â’r UD, ond rhoddodd Gwasanaeth Masnachol yr UD gymorth amhrisiadwy i ni, yn enwedig yn y misoedd cynnar."
Hoffech chi hyrwyddo eich busnes?
Mae Cyngor Torfaen yn cyflwyno cynllun manteision staff i’w weithwyr. Mae’r cynllun yn hyrwyddo busnesau trwy gynnig cymhelliad i bobl ddefnyddio eu gwasanaethau neu brynu eu nwyddau. Gall cymhellion amrywio, er enghraifft, disgownt canrannol, gwario swm penodol a chael disgownt penodol, neu hyd yn oed baned am ddim pan fyddwch yn prynu pryd bwyd.
Bydd eich busnes yn elwa o hyrwyddiad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r holl waith hyrwyddo a chyfathrebu yn cael ei wneud, yn cynnwys cyfleoedd marchnata a chyfathrebu drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth am ddim. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar wefan Vectis Card http://www.vectiscard.co.uk.   Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Tina Hulme ar tina.hulme@torfaen.gov.uk
Cadeirydd newydd i Glwb Busnes Torfaen ar gyfer 2018
Cyfarfu mwy na 60 o aelodau cymuned fusnes Torfaen yng Nghlwb Golff Greenmeadow yng Nghwmbrân ar gyfer cyfarfod cyntaf Llais Busnes Torfaen ar gyfer 2018.
Ynghyd â chael cyfle i rwydweithio, clywodd y sawl a fynychodd gan Fanc Datblygu Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn haws i fusnesau gael mynediad at gyllid a chyfleoedd ariannu.
Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf i’r cadeirydd newydd Ashley Harkus o Everett, Tomlin, Lloyd & Pratt sy’n dilyn Dennis Rickets yn y swydd.

Am y tro cyntaf, cafodd y cyfarfod ei noddi, gyda Thai Cymunedol Bron Afon yn noddi’r noson.
Dylai unrhyw sydd eisiau gwybod mwy am y clwb busnes, neu noddi digwyddiadau yn y dyfodol, gysylltu â info@southwalesbusiness.co.uk neu www.southwalesbusiness.co.uk

Mae ein cyfarfod nesaf ar ddydd Iau 21ain Mehefin, 5pm, Clwb Golff Greenmeadow, Cwmbrân.
Cliciwch yma i ymuno neu i gael rhagor o wybodaeth
Edrychwch ar yr eiddo busnes yn Nhorfaen sydd ar gael i’w rentu neu ei brynu 
Mae Cyfeirlyfr Eiddo Torfaen wedi ei ddylunio i fusnesau presennol a newydd fedru chwilio am eiddo masnachol a chyfleoedd datblygu er mwyn cynorthwyo gydag ehangu neu adleoli cwmni i Dorfaen. Mae’n hysbysebu amrywiol eiddo masnachol gan gynnwys swyddfeydd, warysau, eiddo manwerthu a diwydiannol.
Rydym yn cynnig amrywiol eiddo ar gyfer pob math o fusnes - o stondinau hyblyg ym Marchnad hanesyddol Pont-y-pŵl i gyfleusterau cyffrous i fusnesau newydd yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru sydd wedi eu creu i gynnig lle i fusnesau gwyddoniaeth a thechnoleg ifanc, sy’n prysur dyfu.
Cliciwch yma ar gyfer Cyfeiriadur Busnes Torfaen

Gwneud Busnes yn Lleol

Gall busnesau Torfaen ychwanegu eu manylion am ddim  yng Nghyfeirlyfr Busnes Torfaen a manteisio ar y cyfle ychwanegol hwn i hyrwyddo eich busnes. Mae mwy na 500 o fusnesau wedi eu cofrestru - felly pam nad ewch i’r Cyfeirlyfr i chwilio am nwyddau a gwasanaethau yn Nhorfaen a gwneud busnes yn lleol!
Cliciwch yma ar gyfer Cyfeiriadur Busnes Torfaen
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website
YouTube
YouTube
Copyright © 2018 Torfaen Economy & Enterprise, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list

Email Marketing Powered by Mailchimp