Copy
Cylchlythyr Heneiddio’n Dda Gaeaf 2019 - Ageing Well Newsletter Winter 2019
Darllenwch yr e-bost hwn yn Gymraeg  
View this email in your browser

Dear <<First name / Enw cyntaf>>,

Hello Everyone,

We can’t believe we’re in the run-up to Christmas 2019. As John Lennon so wisely said, ‘Life is what happens when you’re making other plans’. In this issue we’re celebrating making the most of the darker months. Please read on to learn about events, activities and information to help you live life to the full in the winter season. Wishing you all a peaceful Christmas and a productive and inspirational New Year.

Anne and Dominic


Dates for your diary 

  • Thursday 12 December      6:00 - 22:00        General Election
     
  • Tuesday 7 January            10:00-11:30          Encompass Group Monthly Meeting, Discovery Room, Civic Centre
     
  • Friday 17 January               09:30-14:00        Intergenerational Big Conversation, Brynmill Scout & Guide HQ (further details below)
     
  • Tuesday 11 February         10:00-11:30         Encompass Group Monthly Meeting, Discovery Room, Civic Centre
     
  • Thursday 27 February        10:00-14:00         Live Well Age Well Forum – Working and Money Matters, venue tbc, check on website
     
  • Tuesday 10 March             10:00-11:30         Encompass Group Monthly Meeting, Discovery Room, Civic Centre

Please note that all the above meetings and events are free and open to all.

If you’d like to book a place at the Forum, we politely ask that you use the online booking system sent out through our mailing system (see below). This helps us to accurately gauge numbers for organisational purposes.
https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding


Opportunities for you to have your say


Keep an eye out on Swansea Council’s website for your chance to comment on the latest Budget proposals.

Our third Intergenerational Big Conversation is taking place on 17 January 2020 at Brynmill Scout & Guide HQ, Bryn Road, the theme being Life, Survival and Development. We will also be discussing common issues relating to the Council’s Budget consultation. Come along to what is always an interesting, fun and sometimes eye-opening event and have your voice heard, alongside pupils from local primary and comprehensive schools and anyone else who wants to join us. Please use the booking system link above.

Hot topics

Renewal of concessionary bus passes
If you’re 60 or older, don’t forget to reapply for your bus pass, as all the current passes in circulation will expire on 31 December 2019. Pop in for help and advice on renewing your bus pass. No appointments necessary.

Civic Centre Contact Centre, every Monday -18 Nov 2019 - 23 Dec 2019, 09:00-12:00
Central Library, Civic Centre, every Wednesday - 20 Nov 2019 - 18 Dec 2019, 13:00-17:00

Looking after ourselves and others
The shorter, darker days of the winter months can have an impact on our mental health and well-being, with Seasonal Affective Disorder (SAD) affecting many. Support and information on mental health and well-being (yours and if you’re caring for others) can be found at the Dewis Cymru website. Well-being is not only about your health but things like where you live, how safe and secure you feel, getting out and about, and keeping in touch with family and friends.
https://www.dewis.wales/the-place-for-wellbeing-in-wales
 
Whilst we’re on the subject, Swansea Council for Voluntary Services (SCVS) Mental Health Development Service publishes an extremely well-researched and useful directory of local and national services and resources available to people with mental health issues in Swansea and those who support them. To download a copy, or view online visit
https://www.scvs.org.uk/mh-resources


Keeping Active

Out and about
Why not blow the cobwebs away with a walk in our lovely local area? How about exploring Penllergare Woods, one of the many Gower footpaths or along the banks of the River Tawe?  There are walking groups in most areas of Swansea and Gower, with many of them offering localities further afield. Or why not start one of your own? Useful information on these groups can be found at: https://www.swansea.gov.uk/walking or contact John Ashley, Walking Development Officer, 01792 635218

The National Exercise Referral Scheme (NERS) allows health professionals to refer inactive patients with a variety of medical conditions to a short- term, supervised programme of physical activity at a local venue. Individuals can be referred by any health professionals that you are in contact with and can include GP's, practice nurses, dieticians, physiotherapists, diabetic nurses or occupational therapists. For more information, please contact Jacqueline Morgan, Exercise Referral Co-ordinator, email: jacqueline.morgan@swansea.gov.uk or tel: 01792 63521.
 
Looking for something to keep you occupied during the winter months? Did you know that West Glamorgan’s Archive Service can help you explore your family tree? The Family History Centre (found on the Ground Floor at the Civic Centre) is a specially designated room with a variety of genealogical sources on offer, the use of 10 computers, with access to the internet, and a free subscription to the Ancestry and FindMyPast websites. You can also book a one-to-one service with a family history expert (£10 fee for one hour). To find out more and book a session, telephone them on 01792 636589 or email westglam.archives@swansea.gov.uk. Just the thing for the winter months.


Ageing Well contacts

Anne Sennett, Ageing Well Development Officer: anne.sennett@swansea.gov.uk / 07833 095483 
Dominic Nutt, Ageing Well Participation Officer: dominic.nutt@swansea.gov.uk / 07813 355615

Website
Facebook

Helô <<First name / Enw cyntaf>>,

Helô Bawb,

Mae'n anodd credu bod Nadolig 2019 ar y gorwel. Fel y dywedodd John Lennon ‘Life is what happens when you’re making other plans’. Yn y rhifyn hwn, rydym yn dathlu gwneud yn fawr o fisoedd tywyll y gaeaf. Darllenwch ymlaen i ddysgu am ddigwyddiadau, gweithgareddau a gwybodaeth i'ch helpu i fyw bywyd i'r eithaf yn ystod misoedd y gaeaf. Dymunwn Nadolig heddychlon i chi a Blwyddyn Newydd cynhyrchiol llawn ysbrydoliaeth.

Anne and Dominic


Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur 

  • Dydd Iau, 12 Rhagfyr         06:00-22:00         Etholiad Cyffredinol
     
  • Dydd Mawrth 7 Ionawr       10:00-11:30         Cyfarfod misol Grŵp Encompass, Ystafell Ddarganfod, y Ganolfan Ddinesig
     
  • Dydd Gwener 17 Ionawr      09:30-14:00       Y Sgwrs Fawr Rhwng y Cenedlaethau, Pencadlys Sgowtiaid a Geidiau Brynmill (rhagor o fanylion isod)
     
  • Dydd Mawrth 11 Chwefror         10:00-11:30        Cyfarfod misol Grŵp Encompass, Ystafell Ddarganfod, y Ganolfan Ddinesig
     
  • Dydd Iau 27 Chwefror          10:00-14:00       Fforwm Byw'n Dda Heneiddio'n Dda –  Gweithio a Materion Ariannol, I'w gadarnhau – gwiriwch y wefan
     
  • Dydd Mawrth 10 Mawrth   10:00-11:30         Cyfarfod misol Grŵp Encompass, Ystafell Ddarganfod, y Ganolfan Ddinesig

Sylwer bod yr holl gyfarfodydd a digwyddiadau uchod am ddim ac yn agored i bawb.

Os hoffech chi gadw lle yn y fforwm, gofynnwn yn gwrtais i chi ddefnyddio'r system cadw lle ar-lein a anfonwyd atoch chi drwy'r system bostio (gweler isod). Mae hyn yn ein helpu ni i amcanu niferoedd yn gywir at ddibenion sefydliadol.
https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding


Cyfleoedd i chi gael dweud eich dweud


Cadwch lygad ar wefan Cyngor Abertawe am eich cyfle i wneud sylwadau ar y cynigion cyllidebol diweddaraf.
 
Cynhelir ein trydedd Sgwrs Fawr Rhwng y Cenedlaethau ar 17 Ionawr 2020 ym Mhencadlys y Sgowtiaid a'r Geidiaid yn Brynmill, Heol Bryn a'r thema fydd Bywyd, Goroesiad a Datblygiad. Byddwn hefyd yn trafod materion cyffredin sy'n ymwneud â'r ymgynghoriad ar gyllideb y cyngor. Dewch i'r digwyddiad sydd bob amser yn un diddorol a difyr, ac yn agoriad llygad o bryd i’w gilydd, i leisio'ch barn, ochr yn ochr â disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol ac unrhyw un arall sydd am ymuno. Defnyddiwch y ddolen uchod y system cadw lle.

Pynciau Llosg

Adnewyddu Tocynnau Bws Consesiynol
Os ydych yn 60 oed neu'n hŷn, cofiwch ailymgeisio am eich cerdyn bws, gan fod yr holl gardiau bws presennol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2019. Galwch heibio am help a chyngor ar adnewyddu'ch cerdyn bws. Does dim angen trefnu apwyntiad.

Canolfan Gyswllt y Ganolfan Ddinesig, bob dydd Llun - 18 Tach 2019 - 23 Rhag 2019, 09:00-12:00
Llyfrgell Ganolog, y Ganolfan ddinesig, bob dydd Mercher - 20 Tach 2019 - 18 Rhag 2019, 13:00-17:00

Gofalu amdanom ni'n hunain ac eraill
Gall dyddiau byrrach a thywyllach misoedd y gaeaf gael effaith ar ein hiechyd meddwl a'n lles ac mae Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD) yn effeithio ar lawer. Mae cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles eich lles chi os ydych yn gofalu am rywun arall) a gwybodaeth amdanynt ar gael ar wefan Dewis Cymru. Mae lles yn ymwneud â'ch iechyd yn ogystal â phethau fel lle rydych yn byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd o le i le a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
https://www.dewis.wales/the-place-for-wellbeing-in-wales
 
Gan ein bod yn sôn am pwnc hwn, mae Gwasanaeth Datblygu Iechyd Meddwl Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA ) yn cyhoeddi cyfeiriadur defnyddiol yr ymchwiliwyd yn fanwl ar ei gyfer sy'n rhestru'r gwasanaethau lleol a chenedlaethol sydd ar gael i bobl â phroblemau iechyd meddwl yn Abertawe a'r rheini sy'n eu cefnogi. I lawrlwytho copi, neu ei weld ar-lein, ewch i:
https://www.scvs.org.uk/mh-resources


Cadw'n Actif

Mynd o le i le
Beth am gael ychydig o awyr iach trwy fynd am dro yn ein hardal leol brydferth? Beth am archwilio Coed Penllergaer, un o lwybrau cerdded penrhyn Gŵyr neu ar hyd glannau afon Tawe? Mae grwpiau cerdded wedi'u sefydlu yn y rhan fwyaf o ardaloedd Abertawe a Phenrhyn Gŵyr, ac mae nifer ohonynt yn teithio i ardaloedd eraill hefyd. Neu beth am ddechrau eich clwb eich hun? Gellir dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am y grwpiau hyn yn www.abertawe.gov.uk/cerdded neu drwy ffonio John Ashley, ein Cydlynydd Teithiau Cerdded ar 01792 635218

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio cleifion disymud ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol i raglen byr dymor o weithgarwch corfforol dan oruchwyliaeth mewn lleoliad lleol.  Gall unigolion gael eu hatgyfeirio gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol y maent mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys meddygon, nyrsys practis, dietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig neu therapyddion galwedigaethol. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Jacqueline Morgan, Cydlynydd Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff yn jacqueline.morgan@abertawe.gov.uk neu ffoniwch hi ar 01792 63521.
 
Ydych chi'n chwilio am rywbeth i'ch difyrru yn ystod misoedd y gaeaf? Wyddech chi y gall Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg eich helpu i archwilio'ch achres? Mae'r Ganolfan Hanes Teulu (ar y llawr gwaelod yn y Ganolfan Ddinesig) yn ystafell benodedig arbennig lle mae amrywiaeth o ffynonellau achyddol ar gynnig. Mae 10 cyfrifiadur yno y gellir eu defnyddio, gyda mynediad at y rhyngrwyd a thanysgrifiad am ddim i wefannau Ancestry a FindMyPast. Gallwch hefyd drefnu gwasanaeth un i un gydag arbenigwr hanes teulu (ffi o £10 am un awr). I gael gwybod mwy a threfnu sesiwn, ffoniwch ni ar 01792 636589 neu e-bostiwch archifau@abertawe.gov.uk. Yr union beth ar gyfer misoedd y gaeaf.


Ageing Well contacts

Anne Sennett, Ageing Well Development Officer: anne.sennett@swansea.gov.uk / 07833 095483 
Dominic Nutt, Ageing Well Participation Officer: dominic.nutt@swansea.gov.uk / 07813 355615

Copyright © 2019 Swansea Council, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.