Ebrill 2019
Helo bawb, cyflwyniad bach i ddechrau…
Fi yw Sadia, intern newydd Warp a llais misol yr e-bwletin. Efallai eich bod wedi fy ngweld o gwmpas; ‘Dwi’n artist a chyhoeddwr celf annibynnol yma yng Nghaerdydd sydd yn golygu bod gweithio yn g39 (a chael bod mor agos at eu llyfrgell!) ychydig mwy cyffrous. Gobeithio gwnaiff yr e-berthynas rhyngom dyfu dros y chwe mis nesaf.
Teimlaf fod yr interniaeth yma wedi dod ar yr adeg gywir. ‘Dwi wastad wedi bod yn awyddus i wybod am y wahanol fodelau sydd yn cael ei arwain gan artistiaid, yn enwedig y ffordd maent yn dod i’r amlwg mewn dinas fel Caerdydd. Ydyn ni’n dilyn modelau Ewropeaidd, ydyn nhw wedi’i seilio ar ddeialog, faint mae’r llefydd hyn cael eu rheoli gan y gymuned? Pethau tebyg. Mae 2019 yn edrych yn debyg bydd yma ailymddangosiad o ofodau sy’n cael ei arwain gan artistiaid. Mae Arcade/Campfa yn parhau i arwain prosiectau preswyl, Mae Shift yn archwilio posibiliadau am ofod seler gwych, a bydd cymdeithas g39, sy’n dechrau yn fuan, yn gwahodd artistiaid i gyfnod preswyl wedi ei wasgaru dros bum mlynedd. Mae pethau’n teimlo’n fwy hyblyg yn ddiweddar – mae’r Gwanwyn ar ddod.
Efallai fe’ch gwelaf o gwmpas yn un o’r nifer ddigwyddiadau yn ystod y Gwanwyn, ac efallai y medrwn drafod y tymhorau ymhellach. ‘Dwi’n gynhyrfus am waith Freya Dooley ( y sesiwn wrando gan Synaptic Island yn benodol) a’r holl ddigwyddiadau Gŵyl Diffusion. Fedrwn ailgynnull dros goffi yn y Clwb Brecwast ym mis Mai.
Braf eich cyfarfod,
Sadia
|
October 2019
Hi everyone, just a little introduction to begin with…
I’m Tess, the new Warp intern and the voice behind your e-bulletins for the next 6 months. I've been rummaging around Cardiff for a good while working in various places. One of which being The Gate; I have been curating and coordinating their exhibitions for the last 2-3 years. However, now I am working at a refugee centre (Oasis Cardiff) and Warp/g39 while working on my own practice as a photographic artist and freelancer. I am hoping to learn as much as I can about the art world in Cardiff as I feel I have only just begun my journey and I am excited to continue it with my relationship with you and Warp/g39.
I feel extremely lucky to have been given this opportunity, especially during a time when Cardiff's art scene seems to be flourishing across many areas. There are so many creative spaces, groups and communities working towards providing opportunities and supporting artists and creatives. It feels very exciting, even if it is that time of year when you're likely to slip over a wet leaf or get a soggy foot from stepping on a loose pavement tile (both have happened to me already, I'm not quite over it yet).
I hope to meet some of you soon maybe during the Made in Roath open exhibition or even at our Soup Group which is every Saturday from 12pm - 2pm, I am vegan and I love cooking, so do expect some tasty vegan soupy treats!
Thats all from me for now, hopefully I will meet some e-bulletin readers soon!
Best,
Tess
|
|
g39 - UNITe 2019
Preview 25th October 2019
|
|
Menter newydd yw Cymrodoriaeth g39 sy'n meithrin, ehangu ac yn cryfhau grŵp cyfoes o artistiaid dros raglen bum mlynedd. Mae'n ffurfio rhan o Raglen Artistiaid Freelands ochr yn ochr â mentrau cyfwerth a drefnir gan PS2 (Paragon Studios/Project Space) ym Melfast, Oriel Site yn Sheffield, ac Oriel Talbot Rice ym Mhrifysgol Caeredin.
Rydym yn falch o gyhoeddi mai'r pum artist cyntaf y byddwn ni'n gweithio gyda nhw ar y rhaglen hon yw: Kelly Best, Ian Watson, Fern Thomas, Neasa Terry, Jennifer Taylor. Dyma'r cyntaf o bedwar Cymrodoriaeth, a byddwn yn gweithio gyda chyfanswm o ugain o artistiaid dros y rhaglen pum mlynedd. Bydd yr artistiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen 12 mis strwythuredig sy’n cynnwys ymarfer mewn stiwdio a chynnal gwaith ymchwil hunangyfeiriedig yn g39 dros gyfnod o ddwy flynedd.
Bydd y Gymrodoriaeth yn cynnwys cyfres ddwys o weithdai a hyfforddiant, amser cyswllt gyda mentoriaid, artistiaid sy'n ymweld, curaduron a staff g39. Byddwn hefyd yn trefnu siaradwyr gwadd a darlithoedd, sesiynau grŵp ar gyfer cael beirniadaeth gan gyfoedion, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, ymweliadau ymchwil, cyfleoedd rhwydweithio o bell a gweithgareddau cymdeithasol. Yn ogystal, bydd Rhaglen Artistiaid Freelands hefyd yn trefnu symposiwm blynyddol ac arddangosfa i bob un a gymerodd ran ar ddiwedd pob carfan ddwy flynedd. Erbyn diwedd y rhaglen, bydd 20 o artistiaid wedi cymryd rhan yng Nghymrodoriaeth g39.
|
Devised by artists for artists, the UNITe 2019 season is an autumn/winter programme of artistic experimentation, research, discussions, film, talks and presentations, and more.
Taking inspiration from independent art schools, studio groups and other ways that artists get together to support each other, g39’s UNITe season transforms the exhibition venue into a shared artist studio space and communal hub.
UNITe studio community fosters and supports artists at any career stage. It is a space for artistic practice and its associated research, testing ideas, taking wrong turns, sharing ideas, serendipity, and discovery.
During UNITe 2019 we are supporting eight artists through our intense programme. This year the artists are Daniel Clark, Mylo Elliott, Sophie Lindsey, Natasha MacVoy, Amber Mottram, Manon Parry, Radha Patel and Tessa Waite. The artists are encouraged to contribute to the programme supporting each other as a peer group.
The public are welcome to visit and we will be open our usual hours Wednesday - Saturday. There is also a series of free public talks and events (see the calendar below).
We invite the public in to witness the often-unseen studio activity of artistic practice and take part in the conversations that emerge from this.
By bringing audiences and artists together in this way we want to promote an understanding of where visual art comes from. Whatever the context and wherever the situation – the studio, the workshop, the library, the laptop, urban or rural – are all places of production that are usually kept separate from the gallery environment.
UNITe 2019 concludes with an open studio event, led by the artists to see what they have been doing and to celebrate well into the final hours of the residency.
For more information
|
|
Mae Rumblestrip yn dod â gwaith chwe artist ynghyd, sy’n rhoi'r argraff bod rhywbeth yn mynd o chwith, bod arwyddion y dylem fod yn rhoi sylw iddynt. Dônt o hyd i'r gwahaniaethau rhwng canlyniad ac effaith, a gwneir cysylltiad rhwng pethau sydd wedi digwydd, pethau sydd yn digwydd a phethau sydd eto i ddod. Maent yn dod â chynsail a rhagfynegiant at ei gilydd, y gorffennol na ellir ei gyffwrdd a'r dyfodol ansicr, gan dynnu sylw at arwyddion bod pethau ar fin newid, a bod llwybrau amgen i'r rhai yr ydym yn eu troedio ar hyn o bryd.
'Rumble-strip' yw’r llinell o baent trumog ar ymyl traffordd, a’i diben yw rhybuddio gyrwyr o berygl, i ddihuno gyrwyr cysglyd ac i atal damweiniau. Mae'n rhybudd, yn sŵn, yn wahaniaeth sy’n tynnu sylw at wyriad, a newid mewn cyfeiriad.
Mae argoelion a rhagarwyddion yn dibynnu ar batrymau, ar ein tybiaethau ynghylch achos ac effaith, dymuniad i ddod o hyd i drefn a gwneud rhagfynegiadau. Mae'r rhagamcaniad hwn yn rhan o oroesi - ffordd o wneud synnwyr o ansicrwydd y dyfodol. Rydym bob amser yn edrych am y cyswllt rhwng pethau, neu’n eu trefnu yn ôl achos ac effaith, hyd yn oed pan fo'r dystiolaeth yn ein harwain i edrych yn rhywle arall.
Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
Rhagweliad: 6 -9yp; 3 Mai, 2019
Arddangofsa: 4 Mai - 14 Gorffennaf 2019
|
g39 is proud to be hosting this year’s Made in Roath Open exhibition for the 2nd year. The exhibition presents the eclectic talents of amateurs, professionals, hobbyists, students, and any other artist who chooses to submit.
MiR warmly invites you to submit work for this year’s Open Exhibition, which, despite MiR not holding a festival this year, we are delighted that we will be hosting the exhibition at g39 for the second year running.
As always, there is no admission fee, no restrictions on age, ability or experience, and all works that fit the criteria will be shown. This approach, a truly open call, is one MiR have proudly pioneered since 2009. It always results in an interesting and eclectic exhibition and we’re looking forward to seeing new work in this year’s call.
Deadline for submission: 19th October
Preview: 6 -9pm; 25th October, 2019
Exhibition: 25th October - 2nd November 2019
For more information
|
|
g39 - Hanan Issa Book Launch
|
|
Mae Red Route yn daith gerdded flynyddol rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful. Fe’i cychwynnwyd gan yr artist Becca Thomas ac madeinroath yn 2014 ac mae bellach yn ei chweched flwyddyn.
Mae wedi ymffurfio i ymdaith, taith gerdded gyda'r nos a gorymdaith. Mae'n weithred gynulliadol ac yn ffordd o gyfuno cymunedau ar hyd y llwybr ac amlinelliad ffisegol o'r berthynas rhwng hanes a'r presennol, rhwng porthladd Caerdydd a'r trefi cyflenwi diwydiannol a achosodd iddo dyfu. Gan ddechrau yn g39, mae'r daith yn 27 milltir a gall cerddwyr ymuno a chamu allan ar hyd y llwybr. Eleni bydd trip i’r ffynhonnau poeth yn Ffynnon Taf ac egwyl ym Mynwent y Crynwyr. Celf uchod gan Nia Metcalfe.
Gadael: g39 am 6yb; 6 Mai 2019
|
Hanan Issa’s debut pamphlet skips across the fragile boundaries of history, culture, relationships, and language.
‘My Body Can House Two Hearts’ is a celebration of women's redemptive interdependency and the rejection of patriarchal power.
Join Hanan, alongside her fellow Burning Eye pamphlet competition winners Adrian Earle and Caroline Smiling, as she celebrates the launch of her debut publication.
26th October 6pm - 9pm
For more information
|
|
g39 - Soup Group // Grwp Cawl
|
|
Ymnwuch a ni ar fore Sadwrn am frecwast, paned a sgwrs am unrhyw beth a phopeth. Croeso i unrhyw un!
Join us on a Saturday afternoon for a warming soup, a cuppa and a chance to chat about anything and everything with new and old friends! Anyone welcome!
12pm -2pm // 12yp - 2yp
|
|
|
|
|