Copy
View this email in your browser

Croeso gan y Comisiynydd i'r ymgeiswyr etholiadol llwyddiannus


Hoffwn ddechrau cylchlythyr yr wythnos hon trwy longyfarch pob un o'r ymgeiswyr llwyddiannus yn yr etholiad cyffredinol ddoe.

Beth bynnag yw eich barn wleidyddol, mae'n amser i ni fod yn oddefgar ac amyneddgar. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i feithrin gwell cydlyniant rhwng ein cymunedau.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag aelodau seneddol Gwent yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod wrth i ni gydweithio er budd pob un o'n cymunedau.

Lleisiwch eich barn ynghylch cyllid yr heddlu


Fy nghyfrifoldeb i fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd yw pennu'r praesept treth y cyngor blynyddol.

Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng 40 y cant mewn termau real ers 2010 ac mae'r llu wedi gorfod arbed bron i £50 miliwn ers 2008.

Rwy'n credu y byddai cynnydd o tua £2 y mis (yn seiliedig ar eiddo band D) yn galluogi Heddlu Gwent i gadw'r nifer presennol o 1,325 o swyddogion heddlu, a chynnal yr arian a fuddsoddir i fynd i'r afael â meysydd sy'n cael blaenoriaeth gan gynnwys plismona cymdogaeth, amddiffyn plant, cam-drin domestig, treisio, ymosodiadau rhywiol, troseddau casineb a throseddau difrifol a chyfundrefnol.

Cliciwch yma i leisio barn

Sesiynau synhwyraidd yn Trinity Fields


Ymunodd fy nhîm â swyddogion cymorth cymunedol lleol yn Ystrad Mynach yr wythnos ddiwethaf i ymweld â'r cynllun Cadetiaid Heddlu newydd yn Ysgol Gynradd Trinity Fields.

Trinity Fields yw'r ysgol anghenion addysgol arbennig arbenigol gyntaf yng Ngwent i ymuno â'r Cynllun Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol.

Arweiniodd y swyddogion cymorth cymunedol y disgyblion mewn sesiwn synhwyraidd, gan eu gwneud nhw'n gyfarwydd â sut mae iwnifformau swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yn edrych ac yn teimlo.

Mae sesiynau fel y rhain yn chwalu rhwystrau a helpu i leihau ofn a gwella dealltwriaeth rhwng yr heddlu a rhai o'r plant mwyaf bregus yn ein cymuned.

Ymgysylltu â Goroeswyr


Mae Trefnydd Ymgysylltu â Goroeswyr wedi dechrau gweithio i Heddlu Gwent.

Mae'r swydd, y cyntaf o'i math yng Nghymru, wedi cael ei chreu gan Heddlu Gwent yn dilyn argymhellion gan Swyddfa'r Comisiynydd i sefydlu fframwaith cynaliadwy i ymgysylltu â goroeswyr, y gall goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol ei ddefnyddio i rannu eu profiadau.

Bydd y trefnydd yn gweithredu fel dolen hanfodol rhwng goroeswyr camdriniaeth a phartneriaid strategol, gan roi cyfle iddyn nhw ddylanwadu'n gadarnhaol ar bolisïau a gweithdrefnau.

Swyddog diogelu newydd yn gweithio yn ystafell reoli'r llu


Mae ymarferydd diogelu newydd wedi dechrau gweithio yn ystafell reoli Heddlu Gwent.

Mae'r penodiad yn rhan o brosiect peilot i helpu swyddogion i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon diogelu sy'n ymwneud â phlant.

Mae'n brosiect blwyddyn a bydd yn cael ei werthuso i fesur y gwahaniaeth sy'n cael ei wneud i blant bregus a'u teuluoedd, partneriaid ac i swyddogion rheng flaen. Edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau.

Diwrnod Siwmper Siriol yn codi arian i Sefydliad Dewi Sant


Mae'r tîm wedi gwisgo'u siwmperi siriol heddiw i godi arian ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant.

Mae'r Sefydliad yn darparu gwasanaethau gofal lliniarol cynhwysfawr am ddim yn ardaloedd Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, ac yn ne a chanol Powys i bobl sy'n wynebu salwch cynyddol, sy'n bygwth bywyd ac na ellir ei drin mwyach.

Am ragor o fanylion ewch i wefan Sefydliad Dewi Sant

Cyfle am Swydd: Dirprwy Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol


Mae Heddlu Gwent chwilio am unigolyn galluog a phrofiadol i reoli'r tîm cyfathrebu o ddydd i ddydd.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Gwent

Cyfle am Swydd: Dirprwy Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol


Mae Heddlu Gwent chwilio am unigolyn galluog a phrofiadol i reoli'r tîm cyfathrebu o ddydd i ddydd.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Gwent
Angen siarad â rhywun? / Need to speak with someone? 0300 123 21 33
Website
Twitter
Facebook
YouTube
Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list.






This email was sent to <<E-bost>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Office of the Police and Crime Commissioner for Gwent · Turnpike Road · Cwmbran, Torfaen NP44 2XJ · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp