Mae Cyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru yn cynnwys hwb sylweddol i wariant cyhoeddus datganoledig, yn dilyn gwariant uwch ar y GIG ac ysgolion yn Lloegr gan lywodraeth y DG.
Mae’r gyllideb ddrafft yn cynnwys y twf cyflymaf yng ngwariant y GIG o gyfnod y Cynulliad yma ynghyd â'r cynnydd sylweddol cyntaf i gyllidebau awdurdodau lleol mewn dros ddegawd. Fodd bynnag, wrth i wariant agosáu at lefelau cyn-lymder unwaith eto, bydd gwariant y tu allan i’r GIG yn parhau i fod ymhell islaw lefelau 2010-11.
Mae’r ddogfen friffio hon gan ein tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn archwilio’r newidiadau mewn cyllid, penderfyniadau ar wariant o ddydd-i-ddydd, a’r rhagolwg ansicr i gyllid cyhoeddus Cymru – fydd o ddiddordeb arbennig i’r rheini sydd â diddordeb yn nyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
|