Helô <<First name / Enw cyntaf>>,
Helô Bawb,
Mae hi wedi bod yn aeaf hir gyda storm ar ôl storm yn ein taro. Mae diwedd y gaeaf ar y gorwel a bydd y gwanwyn yn cyrraedd yn hwyrach y mis hwn - mawr hyderwn y bydd y gwanwyn yn ei anterth cyn bo hir. Fel y dywedodd Mark Twain - 'In the Spring, I have counted 136 different kinds of weather inside of 24 hours'. Dyma'r achos yn Abertawe yn aml.
Yn y rhifyn hwn, rydym yn dathlu edrych ymlaen at wneud yn fawr o'r misoedd goleuach.
Anne and Dominic
Coronafeirws
Dilynwch y ddolen isod i gael y newyddion diweddaraf am y Coronafeirws:
Dosbarthu e-byst Heneiddio'n Dda
Mae ein gwe-dudalennau'n cael eu diweddaru ar hyn o bryd, felly, yn y cyfamser, defnyddiwch y ddolen isod os ydych am gofrestru ar gyfer y cylchlythyr a chael y newyddion diweddaraf am Heneiddio'n Dda yn Abertawe: www.abertawe.gov.uk/ebostheneiddiondda
Rydym yn y broses o anfon e-byst ychwanegol i'ch diweddaru wrth i wasanaethau ar draws yr ardal addasu o ran cyhoeddiadau'r Llywodraeth am Coronafeirws (COVID-19).
Grŵp Encompass - Cyfeiriad e-bost newydd
Os hoffech chi fod yn rhan o grŵp o bobl 50+ oed sy'n cwrdd yn fisol, e-bostiwch Sheila Betts yn - fiftyplusnetworkswansea@gmail,com
Iechyd a lles meddwl
Gofalu amdanom ni'n hunain ac eraill
Mae cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles eich lles chi os ydych yn gofalu am rywun arall) a gwybodaeth amdanynt ar gael ar wefan Dewis Cymru. Mae lles yn ymwneud â'ch iechyd yn ogystal â phethau fel lle rydych yn byw, pa mor ddiogel rydych chi'n teimlo, mynd o le i le a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
https://www.dewis.wales/the-place-for-wellbeing-in-wales
Gan ein bod yn sôn am pwnc hwn, mae Gwasanaeth Datblygu Iechyd Meddwl Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA ) yn cyhoeddi cyfeiriadur defnyddiol yr ymchwiliwyd yn fanwl ar ei gyfer sy'n rhestru'r gwasanaethau lleol a chenedlaethol sydd ar gael i bobl â phroblemau iechyd meddwl yn Abertawe a'r rheini sy'n eu cefnogi. I lawrlwytho copi, neu ei weld ar-lein, ewch i:
https://www.scvs.org.uk/mh-resources
Lyfrgelloedd Abertawe
Wyddech chi eich bod yn gallu defnyddio nifer o'n gwasanaethau llyfrgell ar-lein? Gall aelodau Llyfrgelloedd Abertawe lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau sain ac e-gylchgronau AM DDIM. Gall aelodau Llyfrgelloedd Abertawe gelli ddefnyddio adnoddau ar-lein AM DDIM fel World Book Online, Credo a NewsBank AM DDIM. Gallwch ymaelodi ar-lein i fod yn aelod o'r llyfrgell a dechrau mwynhau mynediad i'n holl adnoddau ar-lein: www.abertawe.gov.uk/ymunoallyfrgell
OpenLearn - Dysgu am ddim o'r Brifysgol Agored
Cynhyrchwyd y cyrsiau gan y Brifysgol Agored, arweinydd byd o ran dysgu agored a dysgu o bell, a gellir astudio'r holl gyrsiau am ddim.
Mae bron i 1000 o gyrsiau ar gael am ddim ar gyfer 8 pwnc gwahanol.
https://www.open.edu/openlearn/free-courses
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur *
- Dydd Sadwrn 26 Medi 2020 10am – 2pm
Fforwm Byw'n Dda Heneiddio'n Dda: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. (Lleoliad: I'w gadarnhau)
- Dydd Gwener 16 Hydref 2020 9.30am – 2.30pm
Digwyddiad rhwng y cenedlaethau: Wythnos Democratiaeth. (Lleoliad: Caban y Sgowtiaid a'r Geidiaid)
- Dydd Gwener 11 Rhagfyr 2020 9.30am – 2.30pm
Digwyddiad rhwng y cenedlaethau: Hawliau dynol. (Lleoliad: Caban y Sgowtiaid a'r Geidiaid)
- Dydd Mercher 20 Ionawr 2021 3pm – 7pm
Fforwm Byw'n Dda Heneiddio'n Dda: Ymgynghoriad ar y Gyllideb. (Lleoliad: I'w gadarnhau)
* Mae ein Digwyddiad rhwng y cenedlaethau yn ar 24 Ebrill, a'r Fforwm Byw'n Dda Heneiddio'n Dda ar 27 Mai a 29 Gorffennaf i gyd wedi bod yn WEDI'I OHIRIO.
Sylwer bod yr holl gyfarfodydd a digwyddiadau uchod am ddim ac yn agored i bawb.
Os hoffech chi gadw lle yn y fforwm, gofynnwn yn gwrtais i chi ddefnyddio'r system cadw lle ar-lein a anfonwyd atoch chi drwy'r system bostio (gweler isod). Mae hyn yn ein helpu ni i amcanu niferoedd yn gywir at ddibenion sefydliadol.
https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding
Cadw'n Actif
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio cleifion disymud ag amrywiaeth o gyflyrau meddygol i raglen byr dymor o weithgarwch corfforol dan oruchwyliaeth mewn lleoliad lleol. Gall unigolion gael eu hatgyfeirio gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol y maent mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys meddygon, nyrsys practis, dietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetig neu therapyddion galwedigaethol. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Jacqueline Morgan, Cydlynydd Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff yn jacqueline.morgan@abertawe.gov.uk neu ffoniwch hi ar 01792 63521.
Cysylltiadau Heneiddio'n Dda
Anne Sennett, Swyddog Datblygu Heneiddio'n Dda:
anne.sennett@abertawe.gov.uk / 07833 095483
Dominic Nutt, Swyddog Cyfranogiad Heneiddio'n Dda:
dominic.nutt@abertawe.gov.uk / 07813 355615
|