Coronafeirws – byddwch yn wybodus a chadwch yn ddiogel
Hoffwn ddechrau e-fwletin yr wythnos hon trwy ddiolch i swyddogion a staff heddlu, gweithwyr gofal iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill sy'n gweithio ddydd a nos i reoli'r sefyllfa sy'n datblygu yma yng Ngwent yn sgil Coronafeirws.
Mae fy swyddfa mewn cysylltiad dyddiol gyda Grŵp Rheoli Aur Heddlu Gwent sydd wedi cael ei sefydlu i ymateb i'r argyfwng, a hoffwn sicrhau trigolion bod popeth posibl yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae hwn yn argyfwng rhyngwladol ond mae pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i arafu lledaeniad y feirws ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Daw'r pwysau digynsail hwn ar y gwasanaethau cyhoeddus yn syth ar ôl y llifogydd a welwyd mewn rhannau o Went ychydig wythnosau yn ôl. Profodd y llifogydd hynny ein bod ni'n gryfach pan rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ac mae'r un peth yn wir yn awr.
Mae’r etholiadau comisiynwyr heddlu a throsedd a oedd i fod i ddigwydd ym mis Mai wedi cael eu gohirio yn awr a byddant yn digwydd ym mis Mai 2021.
Byddaf yn parhau yn fy swydd nes bydd yr etholiadau wedi eu hail drefnu'r flwyddyn nesaf ac rwyf wedi ymroi yn llwyr i barhau i weithio gyda Heddlu Gwent i gadw trigolion Gwent yn ddiogel.
Cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd
Yn dilyn cyfarwyddyd y Llywodraeth y dylai gweithwyr weithio gartref ble y bo hynny’n bosibl, mae tîm Swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio o bell ar hyn o bryd.
Os yn bosibl, dylech anfon e-bost uniongyrchol at yr aelod staff rydych am gysylltu ag ef neu hi, neu dylech ei ffonio’n uniongyrchol.
Os nad oes gennych chi fanylion cyswllt uniongyrchol, gallwch e-bostio commissioner@gwent.pnn.police.uk neu, os nad yw e-bost yn bosibl, gallwch ffonio 01633 642200.
Yn ddiweddar rhoddodd fy swyddfa arian i The Sanctuary, elusen yng Nghasnewydd sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc bregus sydd wedi cael eu masnachu i mewn i'r DU, neu sydd wedi dod i chwilio am loches.
Dyma rai o'r plant a phobl ifanc mwyaf bregus yn ein cymuned. Mae llawer ohonyn nhw wedi dianc o wledydd sydd wedi cael eu hollti gan ryfel neu maen nhw wedi cael eu masnachu i mewn i'r DU i weithio i gangiau cyffuriau.
Trwy gynnig amrywiaeth o gymorth ymarferol ac emosiynol iddyn nhw gyda gweithiwr cymorth penodedig, mae The Sanctuary yn eu helpu nhw i osgoi ymwneud â throsedd ac yn eu hintegreiddio nhw gyda thrigolion lleol, gan feithrin cymuned fwy cydlynol yn y ddinas.
Seremoni cwblhau hyfforddiant
Roedd hi'n bleser cael bod yn bresennol yn seremoni cwblhau hyfforddiant 29 o recriwtiaid newydd Heddlu Gwent yr wythnos ddiwethaf.
Mae seremoni cwblhau hyfforddiant yn ddiwrnod pwysig iawn yng ngyrfa swyddogion newydd ac rwy'n teimlo'n freintiedig bob tro i allu ymuno â'r recriwtiaid, a'u teuluoedd a ffrindiau balch, ar gyfer y diwrnod arbennig iawn hwn.
Fforwm Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Gwent
Aeth fy nhîm i Fforwm Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Gwent yr wythnos ddiwethaf.
Roedd yn gyfle da i ymgysylltu â phobl ynghylch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gwaith statudol y mae'n rhaid i ni ei gyflawni i sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud.
Hoffwn ddiolch i'r Fforwm am ein gwahodd ni draw ac edrychaf ymlaen at fod yn bresennol fy hun yn y dyfodol.
Os oes angen cymorth o unrhyw fath arnoch chi, neu sgwrs hyd yn oed, yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae llawer o sefydliadau a all helpu.
Byw Heb Ofn
Cymorth a chyngor ynghylch cam-drin domestig, trais rhywiol a ffurfiau eraill ar drais a cham-drin.
Ffôn: 0808 80 10 800
Meic Cymru
Cymorth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Ar agor o 8am tan hanner nos.
Ffôn: 080880 23456
Neges testun: 84001
Gwefan: www.meiccymru.org
The Silver Line
Cymorth i bobl hŷn sy'n pryderu am unigrwydd ac yn teimlo’n ynysig. Ar agor 24 awr 7 diwrnod yr wythnos.
Ffôn: 0800 470 80 90
Y Samariaid
Ar gael ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffôn (am ddim) 116 123