Copy
Cylchlythyr Wythnosol   :   Weekly Newsletter
View this email in your browser
Y Sul Nesaf - Sul Ail o Grawys
Next Sunday - Second Sunday of Lent

 

Annwyl <<First Name>>


Croeso.  

 Dan ni’n parhad ein Taith y Grawys.  Croeso i chi ymuno â ni gan defnyddio y’r adnoddau isod.  Mae’r Llyfr y Grawys yr Eglwys yng Nghymru ar gael yn ein Heglwsi, hefyd ar-lein.

Pan on i’n cyraedd Yr Wythnos Fawr gwahoddiwn i chi ymuno ein taith at y Groes a hefyd y Pasg.  Mae’r rhestr y gwasanaethau ar gael isod.

Dydd Sul 17 Mis Mawrth
Gwasanaethau Dydd Sul
Dydd Sul Ail o Grawys / Dydd Sant Padrig
09.30  Eucharist - Dolgarrog
09.30  Eucharist - Dolwyddelan
11.00  Eucharist - Betws-y-Coed
15.00  Addoli Teulu - Penmachno
18.00  Hwyrol Weddi - Trefriw

Dydd Mawrth 19 Mis Mawrth
09.30  Boreol Weddi - Dolgarrog
 
Dydd Mercher 20 Mis Mawrth
09.00  Boreol Weddi - Penmachno
14.00  Eucharist - Betws-y-Coed
19.30  Lifelines - Glan Aber Hotel
 


Dydd Sul Nesaf 24 Mis Mawrth
Dydd Sul Trydydd o Grawys / Oscar Romero

09.30  Eucharist - Dolgarrog
11.00  Eucharist - Betws-y-Coed
18.00  Hwyrol Weddi - Dolwyddelan
Mewn Gweddi yr Wythnos Hon
Yr Esgobaeth Bangor.
Ein Hesgob Andrew John
Bangor Synod
Parch Lloyd Jones Deon yr Ardal

O’r Llyfr Grawys Eglwys yng Nghymru

Dduw haelioni a chariad,
agor fy llygaid i harddwch y greadigaeth
a chynorthwya fi i weld y difrod rydym yn ei wneud yn ein bywyd beunyddiol.
Agor fy nghalon i anghenion pobl eraill
a gwna fi’n hael mewn cymorth a rhoi i eraill.
Agor fy meddwl i ddeall y newidiadau mae angen i mi eu gwneud yn fy mywyd heddiw er budd y cenedlaethau sydd eto i ddod.
Cynorthwya fi i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd o’m cwmpas
ac felly i fod yn fwy hael ym mhopeth a wnaf ac yn y ffordd rwy’n byw fy mywyd. Gweddïaf hyn yn enw Iesu Grist.
Amen.

Amen.
Y Darlleniaid yr wythnos yma


Eseia 51. 1-8
 ““Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder, sy'n ceisio'r ARGLWYDD. Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni, ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd; edrychwch at Abraham eich tad, ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd; un ydoedd pan elwais ef, ond fe'i bendithiais a'i amlhau. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cân. “Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clywch fi, fy nghenedl; oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf, a bydd fy marn yn goleuo pobloedd. Y mae fy muddugoliaeth gerllaw, a'm hiachawdwriaeth ar ddod; bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd; bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf, ac yn ymddiried yn fy mraich. Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth. “Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder, rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon: Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl, nac arswydo rhag eu gwatwar; oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn, a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwlân; ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth, a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth.””

Actau 16. 6-15
“Aethant trwy ranbarth Phrygia a Galatia, ar ôl i'r Ysbryd Glân eu rhwystro rhag llefaru'r gair yn Asia. Wedi iddynt ddod hyd at Mysia, yr oeddent yn ceisio mynd i Bithynia, ond ni chaniataodd ysbryd Iesu iddynt. Ac aethant heibio i Mysia, a dod i lawr i Troas. Ymddangosodd gweledigaeth i Paul un noson—gŵr o Facedonia yn sefyll ac yn ymbil arno a dweud, “Tyrd drosodd i Facedonia, a chymorth ni.” Pan gafodd ef y weledigaeth, rhoesom gynnig ar fynd i Facedonia ar ein hunion, gan gasglu mai Duw oedd wedi ein galw i gyhoeddi'r newydd da iddynt hwy. Ac wedi hwylio o Troas, aethom ar union hynt i Samothrace, a thrannoeth i Neapolis, ac oddi yno i Philipi; dinas yw hon yn rhanbarth gyntaf Macedonia, ac y mae'n drefedigaeth Rufeinig. Buom yn treulio rhai dyddiau yn y ddinas hon. Ar y dydd Saboth aethom y tu allan i'r porth at lan afon, gan dybio fod yno le gweddi. Wedi eistedd, dechreusom lefaru wrth y gwragedd oedd wedi dod ynghyd. Ac yn gwrando yr oedd gwraig o'r enw Lydia, un oedd yn gwerthu porffor, o ddinas Thyatira, ac un oedd yn addoli Duw. Agorodd yr Arglwydd ei chalon hi i ddal ar y pethau yr oedd Paul yn eu dweud. Fe'i bedyddiwyd hi a'i theulu, ac yna deisyfodd arnom, gan ddweud, “Os ydych yn barnu fy mod yn credu yn yr Arglwydd, dewch i mewn ac arhoswch yn fy nhŷ.” A mynnodd ein cael yno.”
 

Luc 10. 1-12
“Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. Dywedodd wrthynt, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel ŵyn i blith bleiddiaid. Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd. Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i'r teulu hwn.’ Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ. Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’ Pa dref bynnag yr ewch iddi a chael eich gwrthod, ewch allan i'w strydoedd a dywedwch, ‘Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.’ Rwy'n dweud wrthych y caiff Sodom ar y Dydd hwnnw lai i'w ddioddef na'r dref honno.”
 


Darlleniaid yr wythnos nesa:
Eseia 58. 6-11
1 Ioan 3. 14-18
Mathew 25. 31-46

Dear <<First Name>>


Welcome.

We continue our Lenten journey this week.  There are many ways to be involved, do follow the links to the resources below or pick up a copy of the Church in Wales Lent book available in each of our churches and on-line.

When we come to Holy Week you are invited to join us as we journey towards the Cross and towards Easter.  The pattern of services for this year is below.
 

Sunday 17 March

Sunday Services  
2nd Sunday of Lent / St Patrick's Day
09.30  Eucharist - Dolgarrog
09.30  Eucharist - Dolwyddelan
11.00  Eucharist - Betws-y-Coed
15.00  Family Worship - Penmachno
18.00  Evening Service - Trefriw

Tuesday 19 March
09.30  Morning Prayer - Dolgarrog

Wednesday 20 March
09.00  Morning Prayer - Penmachno
14.00  Eucharist - Betws-y-Coed
19.30  Lifelines - Glan Aber Hotel

 

Next Sunday 24 March
Third Sunday of Lent / Oscar Romero

09.30  Eucharist - Dolgarrog
11.00  Eucharist - Betws-y-Coed
18.00  Evensong - Dolwyddelan
This Week In our Prayers
The Diocese of Bangor.  
Bishop Andrew John
Bangor Synod
Area Dean Rev’d Lloyd Jones

From the Church in Wales Lent book

God of generosity and love,
open my eyes to the beauty of creation
and help me see the devastation caused by our daily living.
Open my heart to the needs of others
and to be generous in my support and giving to others.
Open my mind to understand the changes I need to make in my life now for the benefit of the generations still to come.
Help me to become more aware of the environment around me
and so more generous in all I do and in the way I live my life.
This I pray in the name of Jesus Christ.
Amen.

The Readings this week


Isaiah 51. 1-8
Listen to me, you that pursue righteousness, you that seek the Lord. Look to the rock from which you were hewn, and to the quarry from which you were dug. Look to Abraham your father and to Sarah who bore you; for he was but one when I called him, but I blessed him and made him many. For the Lord will comfort Zion; he will comfort all her waste places, and will make her wilderness like Eden, her desert like the garden of the Lord; joy and gladness will be found in her, thanksgiving and the voice of song. Listen to me, my people, and give heed to me, my nation; for a teaching will go out from me, and my justice for a light to the peoples. I will bring near my deliverance swiftly, my salvation has gone out and my arms will rule the peoples; the coastlands wait for me, and for my arm they hope. Lift up your eyes to the heavens, and look at the earth beneath; for the heavens will vanish like smoke, the earth will wear out like a garment, and those who live on it will die like gnats; but my salvation will be forever, and my deliverance will never be ended. Listen to me, you who know righteousness, you people who have my teaching in your hearts; do not fear the reproach of others, and do not be dismayed when they revile you. For the moth will eat them up like a garment, and the worm will eat them like wool; but my deliverance will be forever, and my salvation to all generations.
 

Acts 16. 6-15
They went through the region of Phrygia and Galatia, having been forbidden by the Holy Spirit to speak the word in Asia. When they had come opposite Mysia, they attempted to go into Bithynia, but the Spirit of Jesus did not allow them; so, passing by Mysia, they went down to Troas. During the night Paul had a vision: there stood a man of Macedonia pleading with him and saying, “Come over to Macedonia and help us.” When he had seen the vision, we immediately tried to cross over to Macedonia, being convinced that God had called us to proclaim the good news to them. We set sail from Troas and took a straight course to Samothrace, the following day to Neapolis, and from there to Philippi, which is a leading city of the district of Macedonia and a Roman colony. We remained in this city for some days. On the sabbath day we went outside the gate by the river, where we supposed there was a place of prayer; and we sat down and spoke to the women who had gathered there. A certain woman named Lydia, a worshiper of God, was listening to us; she was from the city of Thyatira and a dealer in purple cloth. The Lord opened her heart to listen eagerly to what was said by Paul. When she and her household were baptized, she urged us, saying, “If you have judged me to be faithful to the Lord, come and stay at my home.” And she prevailed upon us.
 

Luke 10. 1-12
After this the Lord appointed seventy others and sent them on ahead of him in pairs to every town and place where he himself intended to go. He said to them, “The harvest is plentiful, but the laborers are few; therefore ask the Lord of the harvest to send out laborers into his harvest. Go on your way. See, I am sending you out like lambs into the midst of wolves. Carry no purse, no bag, no sandals; and greet no one on the road. Whatever house you enter, first say, ‘Peace to this house!’ And if anyone is there who shares in peace, your peace will rest on that person; but if not, it will return to you. Remain in the same house, eating and drinking whatever they provide, for the laborer deserves to be paid. Do not move about from house to house. Whenever you enter a town and its people welcome you, eat what is set before you; cure the sick who are there, and say to them, ‘The kingdom of God has come near to you.’ But whenever you enter a town and they do not welcome you, go out into its streets and say, ‘Even the dust of your town that clings to our feet, we wipe off in protest against you. Yet know this: the kingdom of God has come near.’
 


Readings Next Week:

Isaiah 58. 6-11
1 John 3. 14-18
Matthew 25. 31-46

Nos Mercher 20 Mawrth 7.30yh
Wednesday 20 March 7.30pm

Gwesty Glan Aber Hotel   

“ Let the music take you ”

Life is beautiful but baffling! 
Where do we find inspiration for living a good life? 
How do I make a good decision? 
Will this darkness pass?
How can I be fair?
Do I say something or keep quiet? 
Can I make a difference?

All Welcome - bring friends  - Croeso i Bawb - dewch â ffrindiau


All are Welcome for tea and coffee after the services
Croeso i Bawb am banad ar ôl ein gwasanaethau



SAVE THE DATE!

Friday 26 July will be one of our
Fundraising Events for the Bro Gwydyr Ministry Area.
We are holding a Ceilidh in St Mary’s Church, Betws-y-Coed.

More details to follow.

Have you considered using GIFT DIRECT for your weekly donation towards the work of the church?  It's easy, and simple to manage.
More convenient for you and for the church!  Find out more below...


Caru'r Byd  ~  Tyfu'r Eglwys  ~  Addoli Duw
Loving the World  ~  Growing the Church  ~  Worshipping God
Share
Tweet
Forward
Diocese of Bangor
Bro Gwydyr Facebook Page
Bro Gwydyr Website
Copyright © 2019 Eglwysi Bro Gwydyr Churches Serving The Communities Of Betws-y-coed, Capel Curig, Dolgarrog, Dolwydd, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list

Email Marketing Powered by Mailchimp