Copy
Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon – Newyddion a Digwyddiadau’r Gwanwyn 2019
View this email in your browser

NEWYDDION A DIGWYDDIADAU
Facebook
Twitter
Website

Digwyddiadau ac Atyniadau

Camwch i galon haearn a glo
rhith-wirionedd yn cludo ymwelwyr yn ôl mewn amser i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Bydd y rhai hynny sydd â diddordeb mewn hanes diwydiannol a threftadaeth Cymru yn gallu darganfod golygfeydd a synau Blaenafon Fictoraidd y gwanwyn hwn, gyda dadorchuddiad prosiect digidol blaengar ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, sy’n adnabyddus drwy’r byd.
Ddoe (26 Mawrth), mewn partneriaeth â Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen lansio profiad rhith-wirionedd 360° newydd sbon, sy’n galluogi defnyddwyr i gael profiad o fywyd fel yr oedd yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Gan roi sylw arbennig i gymeriadau go iawn o orffennol diwydiannol Blaenafon, mae profiad Teithio yn ôl mewn Amser yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn gwneud defnydd o adrodd stori sain ynghyd â thechnoleg tri dimensiwn er mwyn arddangos hanes diwydiannol cyfoethog y dref drwy dair ffilm rhith-wirionedd – sy’n dangos bywyd yn y Big Pit, ysgol gynradd y dref a chartref teulu lleol yn Nhref Treftadaeth Blaenafon.
Drwy ddefnyddio dyfeisiau clyfar, gellir gweld y cynnwys trochi mewn tri lleoliad eiconig drwy’r rhanbarth a ddethlir yn rhyngwladol, gan gynnwys Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a Thref Dreftadaeth Blaenafon – sydd i gyd yn cael sylw arbennig yn y ffilmiau trochi.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a’i brofiad rhith-wirionedd, ewch i www.visitblaenavon.co.uk/cy/timetravel, dilynwch @VisitBlaenavon ar Trydar neu ewch i Ymweld â Blaenafon ar Facebook .
Canolfan Dreftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon
Gweithgareddau Gwyliau’r Pasg i’r teulu cyfan.
Gweithdai Crefft 16eg a’r 17eg a’r 23ain a’r 24ain Ebrill (£1 fesul crefft)
Stori a Chrefft yn y Llyfrgell ar ddydd Iau 18fed a’r 25ain Ebrill am 2.30pm. Mynediad am ddim (angen trefnu ymlaen llaw). Helfa Wyau Pasg dydd - £1 y tro.

Click here for more details
Factory Girls 1 - 26 Mai
Dewch i Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a gweld arddangosfa ffotograffiaeth‘ Factory Girls ’gan y ffotograffydd enwog o Gymru Walter Waygood. Mae'r arddangosfa hon yn dangos menywod a weithiodd mewn ffatrïoedd lleol Blaenafon a'r ardaloedd cyfagos yn ystod y 1970au a'r 80au.
 
Mae’r ffotograffau yn dangos yr amodau gwaith, y ffasiwn a chyfeillgarwch y merched hyn y mae eu sgiliau crefft fwy neu lai wedi eu disodli gan weithlu o lafur rhad o leoedd megis Tsieina ac India.
Dewch i’r arddangosfa a gweld os medrwch adnabod y merched hyn a rhoi enwau i wynebau.
Bydd yna lyfr newydd hefyd,  'Miners and Factory Girls' yn ymuno dau gorff o waith. 
 
Mynediad am ddim.
Meet the Dinosaurs
Dydd Mercher 29ain Mai  11am-4pm
Dewch i gyfarfod y Deinosoriaid yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon. Cyfle i gyfarfod Ronnie y T-Rex a’i ffrindiau neu fod yn archeolegydd a chael hyd i ffosil ar un o’r byrddau ffosil. Mynediad am ddim.
Amgueddfa Lo'r Pwll Mawr
6 Ebrill, 1.30pm
Darlith Flynyddol gyda siaradwr gwadd Siân James cyn-AS ar gyfer Dwyrain Casnewydd

Fel mam ifanc, dechreuodd Siân James chwarae rhan gyda rhwydweithiau cymorth teuluol o gwmpas Streic y Glowyr 1984/5. Ar ddiwedd y streic, dechreuodd ymgyrchu dros hawliau merched. Etholwyd Siân yn AS ym mis Mai 2005, y ddynes gyntaf i gynrychioli Dwyrain Casnewydd. AM DDIM.
Gweithgareddau’r Pasg

Chwarae Meddal
13 Ebrill - 28 Ebrill, 11am-4pm
AM DDIM – chwarae meddal yn ein labordy chwarae. Addas i ran dan 5 oed yn unig. Rhaid bod oedolyn gyda’r plant drwy’r amser.

Llwybr y Pasg
13 Ebrill - 28 Ebrill, 11am-4pm

Dilynwch ein Llwybr Pasg o gwmpas yr Amgueddfa, cael hyd i’r cliwiau i gyd a chasglu eich gwobr. £1 fesul plentyn.

 
Crefftau a Pheintio Wynebau
17, 19, 24 a 26 Ebrill, 11am-4pm

Dewch draw, gwnewch grefftau a chael peintio eich wyneb. £1 fesul plentyn.
Feastival Dydd y Tadau
16 Mehefin 11am-4pm
Ymunwch â ni ar gyfer Dydd y Tadau gwahanol yn Amgueddfa Lo'r Pwll Mawr gyda stondinau bwyd a diod lleol, cerddoriaeth fyw, adloniant am ddim i’r teulu gan gynnwys chwarae meddal, crefftau a pheintio wynebau, ynghyd â’r daith danddaearol fyd-enwog.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: 029 2057 3650 neu ewch i: www.museumwales.ac.uk/bigpit

 
Gwaith Haearn Blaenafon
Dydd Sadwrn 20fed a Dydd Sul 21ain Ebrill 2019 (10:00am – 4:00pm)
Hwyl yn y Gwaith Haearn gyda Llwybr Wyau Pasg y plant.

Click here for more details.
Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon
Dydd Sadwrn 6ed a Dydd Sul 7fed Ebrill. Penwythnos recriwtio gwirfoddolwyr. Penwythnos gyda’r bwriad o roi blas i chi ar y rheilffordd.
Dydd Gwener 19eg – Dydd Sul 22ain Ebrill. Trenau’n rhedeg dros benwythnos y Pasg. Siocled i’r plant.
Dydd Sul 26ain a Dydd Llun 2il Mai. Penwythnos Trenau Glo. Cyfle i weld trenau Teithwyr a Chargo gyda locomotifau stêm a Disel.
Dydd Sadwrn 8fed a Dydd Sul 9fed Mehefin. Penwythnos Rheilffyrdd Model
.

Click here for more details
Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
Dydd Gwener 12 a Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2019
 Theatre AdHoc @ The Workmen yn cyhoeddi bod tocynnau BLOOD BROTHERS THE PLAY nawr ar werth.


Click here for more details.
Teithiau Tywysedig
trefnwyd gan Wirfoddolwyr Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon
Mae’r teithiau tywys hyn oll yn llwybrau cylchol yn cychwyn am 10:00am o Ganolfan Dreftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon.
Dydd Sadwrn 27ain Ebrill “Pyllau Milfraen” – rhyw 10km/6 milltir. Mae’r daith yn cynnwys Llynnoedd Garn, cyn Lofeydd Milfraen a Red Ash a Thomen Coity.
Dydd Sadwrn 25ain Mai “Human Endeavour” – rhyw. 5km/3 milltir. Mae’r daith yn mynd heibio simnai eiconig Hill Pit a Llynnoedd Garn.
Dydd Sadwrn 29ain Mehefin “On the Level(s)” – 7.5km/4.5 milltir. Mae’r daith yn dringo dros hen weithfeydd glo a haearn o gwmpas y Whistle Inn a Forgeside.

https://www.bwheg.wales/
Spring's Out
Dydd Sadwrn Ebrill 6ed.
Mae Tîm Tref Blaenafon yn cyflwyno digwyddiad hwyl-ddydd i’r teulu a marchnad fwyd/crefftau ym maes parcio Market Street a’r Constitutional Club rhwng  10:00 am  a 17:00; i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â john  (townteam@geoclimatica.com)

Newyddion Cymunedol

Mae dau le manwerthu cyffrous newydd yn agor ym Mlaenafon.  “Sprinklez” sy’n gwerthu Anrhegion Unigryw a Dodrefn yn 76-78 Broad Street a “The Flour Girls”, sy’n siop cacennau bach a phopty yn 67 Broad Street.
Ym mis Mai 2019 bydd Gwasanaethau Gofal Cwsmeriaid Torfaen yn symud i Ganolfan Adnoddau Blaenafon, Middle Coed Cae Road.
Yr oriau agor fydd dydd Llun i ddydd Gwener 9am hyd at 4.30pm a bydd y gwasanaeth yn cynnwys ymholiadau ynglŷn â’r Dreth Gyngor, Budd-daliadau, Gwastraff, Ailgylchu a Phriffyrdd.
Bydd cwsmeriaid yn medru talu biliau a chael cymorth gydag ymholiadau i’r Cyngor. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01495 762200
Hawlfraint © 2019 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cedwir pob hawl.
Rydych yn derbyn yr e-fwletin hwn am eich bod wedi dewis bod ar ein rhestr bostio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n eich diweddaru chi ynglŷn â newyddion a digwyddiadau ym Mlaenafon.
Dyma'n cyfeiriad post:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl, Torfaen. 
NP4 0LS






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Torfaen Economy & Enterprise · Torfaen County Borough Council, Ty Blaen Torfaen · Panteg Way, New Inn, Pontypool · Torfaen, Tof NP4 0LS · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp