Copy
Newyddion a Digwyddiadau Adran Economi a Mentergarwch Torfaen Ebrill 2019
View this email in your browser
Newyddion a Digwyddiadau Adran Economi a Mentergarwch Torfaen Ebrill 2019
Cyllid

A Fydd Troi Treth yn Ddigidol yn ei Wneud yn Anodd?

Fel busnes, dylech fod yn awr yn cofnodi eich materion arian ar system ddigidol sy'n gydnaws â'r hyn sydd angen ei lwytho i fyny gan GaThEM.
Y nod yw darparu system fwy effeithiol ac effeithlon i fusnesau sy'n haws i'w defnyddio ac sy'n darparu gwybodaeth mewn amser real, gan ganiatáu penderfyniadau mwy cywir.
Darllenwch ymlaen am adroddiad llawn o'r newidiadau.

Ysgol Fusnes Sbonc Lwyddiannus Torfaen

Ym mis Chwefror fe wnaeth entrepreneuriaid a phobl fusnes newydd sydd eisoes wedi dechrau yn y byd busnes, fanteisio ar y cyfle i ddysgu dull gwahanol o adeiladu busnes mewn amgylchedd difyr ac ymarferol.
Roedd 25% o'r rhai a oedd yn bresennol yn masnachu erbyn diwedd y tri diwrnod, gyda'r 75% oedd yn weddill, bron yn barod i ddechrau, neu i'w roi mewn ffordd arall - cawsom gyfradd lwyddo o 100%!
Os wnaethoch chi fethu'r digwyddiad, peidiwch â phoeni, gallwch fynychu un o'r sesiynau galw heibio a nodir isod.

Sesiynau Galw Heibio Misol yn Nhorfaen yn mynd rhagddynt
Mae nifer o sesiynau galw heibio 'rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n dechrau busnes newydd neu sydd eisoes mewn busnes yn cael eu cynnal gan dîm Economi a Menter Torfaen i'w helpu a'u cefnogi.

Cynhelir sesiynau galw heibio rhwng 10am a 2pm yn:
 
Llyfrgell Cwmbrân, Sgwâr Gwent, Canolfan Siopa Cwmbrân, Cwmbrân
14 Mai + 11 Mehefin + 9 Gorffennaf


Cynhelir sesiynau galw heibio rhwng 11am a 2pm yn:

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Church Road, Blaenafon
21 Mai 
 
Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Neuadd y Farchnad, Market Street, Pont-y-pŵl  
11 Medi
 

Beth am alw heibio a gadael i ni wneud gwahaniaeth i’ch busnes.

                                                           
Cyhoeddi cyllid ychwanegol o £121 miliwn i helpu busnesau yng Nghymru gyda Brexit
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi  £121m o gyllid ychwanegol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu busnesau o bob maint ddatblygu a buddsoddi ar gyfer y dyfodol wrth iddynt lywio drwy heriau Brexit.
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru
 

£16.2m ar gyfer micro fenthyciadau o rhwng £1,000 a £50,000 i fusnesau sefydledig a busnesau newydd
£50m ar gyfer cronfa Dwristiaeth benodol
£55m ar gyfer eiddo masnachol i annog datblygwyr busnesau bach a chanolig i fuddsoddi yng Nghymru a'r farchnad fasnachol.
A oes gan eich busnes gynllun ar gyfer Brexit?
Er bod yr ansicrwydd ynghylch cynlluniau Brexit y genedl yn parhau, gallwch baratoi eich busnes ar gyfer pob posibilrwydd gydag ychydig o gyngor defnyddiol o'r ddwy wefan ganlynol.
 
Ewch i borth Brexit Busnes Cymru
(https://businesswales.gov.wales/brexit/)
 
Ewch i Brexit Siambr Fasnach Prydain https://www.britishchambers.org.uk/page/brexit-hub
Datblygwyr ap yn Nhorfaen yn ceisio cysylltu gwasanaethau a chyflenwyr lleol â thrigolion
Wedi’i sefydlu ym mis Tachwedd 2018, datblygwyd uddr gan dri gŵr o Bont-y-pŵl a welodd gyfle i gysylltu busnesau a gwasanaethau lleol i drigolion lleol a all archebu neu archebu a thalu'n ddiogel am wasanaethau lleol (felly'n arbed amser a lleihau lefelau siomedigaeth) drwy lwyfan e-fasnach symudol sy'n gost effeithiol, yn ddiogel a hawdd ei ddefnyddio
Darllenwch y stori lawn yma
Llais Busnes Torfaen
Mae Llais Busnes Torfaen (TBV), un o glybiau rhwydweithio busnes mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd yr ardal, wedi cynnal ei ddigwyddiad chwarterol cyntaf i aelodau yn 2019 gyda dros 50 o bobl fusnes yn mynychu. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff a Gwledig Greenmeadow, Cwmbrân ar 21 Mawrth a'i noddi gan gwmni Cyfrifwyr ac Ymgynghorwyr Treth Green & Co, yn cynnig fforwm i aelodau a'u gwesteion wneud cysylltiadau newydd drwy weithgaredd rhwydweithio hwylus, a hynod lwyddiannus y clwb.
Mae’r clwb wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr aelodau newydd a ymaelododd ers Ionawr.
Bydd ein cyfarfod nesaf ddydd Iau 20 Mehefin yn cael ei noddi gan Fanc Natwest. 
Mae’r prisiau’n dechrau o £48.00 i aelod newydd o’r clwb. Beth am ymuno a gweld y manteision drosoch chi’ch hun?

Dim ffioedd ychwanegol
4 cyfarfod y flwyddyn
2 le ymhob cyfarfod
Cofrestrwch i ddod yn Aelod yn 2019
Am dderbyn y newyddlen hon yn syth i’ch mewnflwch? 
Cliciwch isod i gofrestru os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Ymuno
Facebook
Facebook
Twitter
Twitter
Website
Website
YouTube
YouTube
Copyright © 2019 Torfaen Economy & Enterprise, All rights reserved.


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list

Email Marketing Powered by Mailchimp