Helô <<First name / Enw cyntaf>>,
Croeso i gylchlythyr Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda'r haf. Darllenwch ymlaen i ddysgu am ddigwyddiadau, gweithgareddau a gwybodaeth i'ch helpu chi i gysylltu â phobl eraill, rhoi o'ch amser i rywbeth neu rywun, dysgu rhywbeth newydd, cadw'n heini a sylwi ar y byd o'ch cwmpas.
Mae ymgorffori'r pum ffordd hon o les yn eich bywyd pob dydd wedi ei brofi i'ch helpu chi i fyw'r bywyd gorau y gallwch chi wrth i chi fynd yn hŷn. Onid dyna'r hyn yr ydym i gyd ei eisiau?
Dymunwn i chi fwynhau misoedd diogel, actif ac ysbrydoledig dros yr haf,
Anne a Dominic
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur
- Dydd Mawrth 9 Gorffennaf, 10.00am - 11.30am
Cyfarfod misol Grŵp Cyfeirio Encompass: Cyfarfod â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, Ystafell Ddarganfod, Canolfan Ddinesig
- Dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 10.00am - 1.30pm
Fforum Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda: Cludiant a Theithio, Y Tabernacl yn Nhreforys
- Dydd Iau 26 Medi, 10.00am - 1.30pm
Fforum Byw’n Dda, Heneiddio’n Dda: Cadw’n Ddiogel, i’w gadarnhau
- 1 Hydref
Diwrnod Pobl Hŷn y DU
Sylwer bod yr holl gyfarfodydd a digwyddiadau uchod am ddim ac yn agored i bawb. Os hoffech chi gadw lle yn un o'r fforymau neu'r ddau ohonynt, gofynnwn yn gwrtais i chi ddefnyddio'r system ar-lein.
Rheswm arall i gadw'n heini er mwyn Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda
Dilynodd astudiaeth gan American Cancer Society 140,000 o oedolion hŷn ac adroddodd fod gan y rhai sy’n cerdded am chwe awr yr wythnos risg is o farw o glefydau cardiofasgwlaidd, clefydau anadlol a chanser na'r rhai nad oeddent yn actif. Gallai cerdded cyn lleied â dwy awr yr wythnos ddechrau lleihau'r risg o glefyd a'ch helpu i fyw bywyd hirach ac iachach.
Swyddog Datblygu Cerdded Cyngor Abertawe, John Ashley, yw'r person i gysylltu ag ef am wybodaeth am gerdded yn Abertawe a Gŵyr: john.ashley@abertawe.gov.uk / 01792 635218
Cyfleoedd i chi gael dweud eich dweud
- Mae'r Tîm Cyfnodau Bywyd wedi cynnal y ddwy Sgwrs Fawr Rhwng y Cenedlaethau gyntaf. Dathlwyd Diwrnod Hawliau Dynol yn ystod digwyddiad mis Rhagfyr ac ym mis Ebrill, y thema oedd Cymunedau Cryf. Roeddem yn falch iawn o groesawu'r mynychwyr newydd, ynghyd â chynrychiolwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Os hoffech chi dderbyn copi caled o'r adroddiadau hyn yn lle hynny, cysylltwch ag Anne neu Dominic (manylion cyswllt isod).
- Ydych chi wedi clywed am ein Fforwm Digidol, Gwybodaeth a Chyfathrebu llwyddiannus a gynhaliwyd gennym ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Prifysgol Abertawe ar 26 Mawrth? Cafwyd cyflwyniadau hynod ddiddorol gan y gwasanaeth llyfrgelloedd, Cymunedau Digidol Cymru ac ymchwilwyr Prifysgol Abertawe, a chafwyd nifer o drafodaethau bywiog o ganlyniad iddynt. Siaradodd cynrychiolwyr â siaradwyr, ymarferwyr, cynghorydd lleol a'i gilydd wrth fwyta cinio bwffe a chawsant gyfle i archwilio'r stondinau gwybodaeth. Roedd yr adborth yn galonogol iawn.
Os yw hyn yn swnio'n dda i chi, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiadau rydym yn eu cynnal ym mis Gorffennaf a/neu fis Medi - hoffem eich gweld.
Oes gennych chi unrhyw syniadau am sut gall Abertawe ddathlu ei hanner canmlwyddiant fel dinas? Os hoffech chi rhannu unrhyw atgofion/ffotograffau sydd gennych o gyfnod 1969-2019, anfonwch y rhain (a'ch syniadau) atom.
Oes amser rhydd gennych? Hoffech chi gefnogi pobl yn eich cymuned?
Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn chwilio am bobl â diddordeb mewn sefydlu a chynnal clybiau cinio, siediau cymunedol a gweithgareddau eraill, gyda chefnogaeth lawn y sefydliad. Cysylltwch â'r Swyddog Cymunedol Leanne Jenkins am fwy o wybodaeth: Leanne.Jenkins@royalvoluntaryservice.org.uk / 0330 555 0310.
Ydych chi'n ymwybodol o’r canlynol?
Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) Prifysgol Abertawe yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau ymchwil gwahanol? Mae gan y ganolfan ddiddordeb yn y meysydd y mae pobl hŷn am iddynt gael eu hymchwilio. Os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch ar gyfer ei rhestr bostio: www.cadr.cymru/cy/newsletter-signup.htm
Beth am sicrhau mai 2019 yw'r flwyddyn i fod yn greadigol?
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnal gweithdai amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/GweithdaiDyddMercheriOedolion / 01792 516900.
Mynd o le i le
Mae Trawscymru'n cynnal gwasanaeth bws (T1S) o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o Orsaf Fysus Abertawe neu Cross Hands i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol, yn gadael am ganol dydd ac yn dychwelyd i'r safle am 16:19. Ewch i wefan First Cymru am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 572255.
Cysylltiadau Heneiddio'n Dda
Anne Sennett, Swyddog Datblygu Heneiddio'n Dda: anne.sennett@abertawe.gov.uk / 07833 095483
Dominic Nutt, Swyddog Cyfranogiad Heneiddio'n Dda: dominic.nutt@abertawe.gov.uk / 07813 355615
|