Pwy sy’n cael cystadlu?
Mae’r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr 14-18 oed yng Nghymru. Caiff bob ysgol uwchradd/coleg gofrestru un tîm o ddau fyfyriwr, ac un myfyriwr yn y gystadleuaeth i unigolion. Mae croeso i unrhyw fyfyrwyr eraill fynychu a chymryd rhan drwy ofyn cwestiynau (am ddim).
Sut mae’r Bencampwriaeth Ddadlau yn cael ei threfnu?
Cynhelir 8 Rownd Ranbarthol rhwng 7 Hydref ac 14 Tachwedd 2019.
Bydd bob rownd yn cynnwys uchafswm o 10 tîm ac 8 unigolyn; gydag un tîm buddugol ac un unigolyn buddugol yn cael ei ddethol o bob rownd.
Bydd yr 8 o dimau ac unigolion sy’n weddill yna’n cymryd rhan yn ein Rownd Gogynderfynol a gynhelir yng Ngholeg Powys, y Drenewydd ar 3 Rhagfyr 2019.
Bydd 4 o dimau ac unigolion yn symud ymlaen i’n Rownd Gynderfynol a’r Rownd Derfynol Genedlaethol a gynhelir yn y Deml Heddwch, Caerdydd ar 16 Rhagfyr 2019.
|