Copy
Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi
Welsh language events in the Cardigan area

Pethe Cylch Teifi

Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi. 
Welsh language events in the Cardigan area.

Llun yr Wythnos - ffram o waith fideo Seán Vicary seiliedig ar The Owl Service, a enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i'r artist o Aberteifi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cewch wylio'r fideo yma ar wefan Literary Atlas.
Pic of the Week - a frame of Seán Vicary's new video work based on The Owl Service, which won the Gold Medal for Fine Art at the National Eisteddfod for the Cardigan-based artist. You can watch the video here on the Literary Atlas website.

Co' ni off 'to!

Croeso yn ôl i'r Pethe, gobeithio bod pawb wedi cael haf braf. 

Bydd y dosbarthiadau yn ail-ddechrau'r wythnos sy'n cychwyn 19 Medi 2022 - a bydd rhai ohonoyn nhw yn ddosbarthiadau "go iawn", mewn stafell ddosbarth, gyda phobl eraill! 

Cofiwch, os dych chi'n gwybod am ddigwyddiad Cymraeg lleol sy ddim yn y cylchlythyr, i roi gwybod i ni trwy ebostio. Neu, os gwelwch chi rywbeth isod sy ddim yn gywir bellach, yn enwedig yn yr adran "Sgwrsio", sy'n debyg i fod tu ôl i'r bethe go iawn. 

Here we go again!

Welcome back to the Pethe, hope everyone had a nice summer.

Welsh classes will be starting again the week of 19 September 2022 - and some of them will be "real" classes, in a classroom, with other people!

Remember, if you know of a local Welsh language event that is not in the newsletter, please let us know by email. Or, if you see something below that is no longer correct, especially in the "Conversation..." section, which is bound to be a bit out-of-date by now. 

(Cofiwch hefyd bod modd tynnu'ch enw oddi ar y rhestr bostio yma gan glicio ar y ddolen yma - datdanysgrifio o'r rhestr - sydd hefyd ar waelod bob cylchlythyr.)
(Also remember that you can remove your details from this mailing list by clicking on this link - unsubscribe from the list - which is also found at the bottom of each newsletter.)

Hysbysebion
Announcements

Dosbarthiadau Cymraeg 2022-23
Welsh Classes 2022-23

Mae dosbarthiadau Ceredigion yn dechrau ddydd Llun 19 Medi 2022, ond mae Ysgol Undydd Adolygu ("Y Rustbuster") ar gael ar ddydd Sadwrn 17 Medi.

Mae manylion i gyd ar wefan y Ganolfan Genedlaethol:
Dosbarthiadau Ceredigion, Powys a Sir Gâr

Os dych chi'n byw tu allan i'r ardal, neu'n methu ffeindio cwrs ar-lein ar amser sy'n eich siwtio chi, dyma fanylion y darparwyr eraill.
Ceredigion classes start on Monday 19 September 2022, but there's also a revision dayshool ("Rustbuster") available on Saturday 17 September.

All the details are on the National Center website:
Ceredigion, Powys and Carmarthenshire classes

If you live outside the area, or cannot find an online course at a time that suits you, here are the details of the other providers.

Cerddwyr Cylch Teifi
Tymor newydd 2022 - 2023

Cerddwyr Cylch Teifi

Bydd tymor newydd Cerddwyr Cylch Teifi yn dechrau ym mis Hydref.

Bydd croeso i bawb i ymuno â ni. Y Gymraeg yw iaith y teithiau ond mae croeso i ddysgwyr o bob safon sy'n barod i beidio troi sgyrsiau'n Saesneg. 

Bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb. ac fel arfer yn gorffen erbyn 12:30 neu 1.00. Weithiau byddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl cerdded i'r rhai sy'n dymuno.

Dyma'r teithiau cyntaf:

  • Hydref 8fed - Ffynone gydag Ali Evans
     
  • Tachwedd 12fed -  Y Preselau gyda Hefin Wyn 
     
  • Rhagfyr 10fed - Llandysul gyda Lesley Parker 
     
  • Ionawr  14eg - Bwlch-y-groes gyda Terwyn Tomos

Bob tro, rydym yn gofyn i’r Cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu Covid, gan

  • sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau sydd ar gael ichi;
  • ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
  • peidio â dod ar daith os ydych chi’n: 
    • hunan-ynysu, neu'n
    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Os hoffech fod ar y rhestr bostio i gael y manylion llawn, cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com 01239 654561 ac anfonir manylion pob taith gerdded atoch wythnos ymlaen llaw.

Cofion gorau,

Philippa 

philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers

The new season of Cerddwyr Cylch Teifi Walkers will start in October.

Everyone is welcome to join us. Welsh is the language of the walks but learners of all standards who are prepared not to turn conversations into English are welcome.

The monthly walks on Saturdays will start at 10.30am. and usually finish by 12:30 or 1.00. Sometimes we’ll arrange a place to socialize after the walk for those who wish.

Here are the first walks:

  • October 8th - Ffynone with Ali Evans
     
  • November 12th - The Preselis with Hefin Wyn
     
  • December 10th - Llandysul with Lesley Parker
     
  • January 14th - Bwlch-y-groes with Terwyn Tomos

Each time, we ask the Walkers to be vigilant in order not to spread Covid, by

  • ensuring you have had the vaccinations available to you;
  • trying to keep some reasonable social distance from walkers from other households;
  • not come on a walk if you are:
    • self-isolating, or
    • showing any symptom associated with the infection.

If you’d like to be on the mailing list to get full details, contact Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com   01239 654561 and you will be sent the details of each walk by email a week in advance.

Best wishes,

Philippa 

philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

Penwythnosau Cymraeg yn Llambed
Welsh Weekends in Lampeter

Mae Garth Newydd yn ganolfan breswyl Gymraeg newydd yn Llanbedr Pont Steffan sy’n darparu llety cyfforddus i ddysgwyr Cymraeg tra byddant yn defnyddio ac yn profi’r Gymraeg. Mae yna nifer o benwythnosau wedi eu trefnu rhwng nawr a'r Nadolig, gyda themâu yn cynnwys "Anifeiliaid" gyda'r Welsh Whisperer, a "Ffotograffiaeth" gyda Marian Delyth.

Mwy o fanylion yn y post Facebook hwn, neu ar Paned.cymru - lle gallwch chi archebu eich lle.

Garth Newydd is a new Welsh Language residential centre in Lampeter which provides comfortable accomodation for Welsh learners whilst they use and experience the Welsh language. There are a number of weekends laid out between now and Christmas, with themes including "Animals" with the Welsh Whisperer, and "Photography" with Marian Delyth.

More details in this Facebook post, or on Paned.cymru - where you can also book a place.

Sgwrsio... a mwy!
Conversation... and more!

Mae sawl grŵp wedi dechrau cwrdd "yn y cnawd" eto. Allwch chi roi gwybod i ni os bydd eich grŵp yn dechrau cwrdd eto? Diolch! nic@dysgu.com

Dydy'r rhan fwya o grwpiau sgwrsio arferol ddim yn cwrdd ar hyn o bryd, ond mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gwrdd â'i gilydd a gyda Chymry Cymraeg a siaradwyr rhugl eraill bob wythnos. Os ydych chi'n gwybod am grwpiau eraill sy ddim yn y rhestr yma, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 
Some groups have started to meet "in the flesh" again. Please let us know if your local group will be starting meeting again. Diolch! nic@dysgu.com

Most of the usual conversation groups aren't meeting at the moment, but there are still lots of online opportunities for Welsh learners to meet each other and with fluent Welsh speakers every week. If you know of other groups not listed here, please let us know.
Dydd Llun
  • Clwb Darllen Sir Gâr - bob yn ail dydd Llun / every other Monday, 3.00pm - 4.00pm. Addas i lefel Mynediad 1 a 2, sesiwn hwyliog ar Zoom / Suitable for Entry 1 & 2 level, an informal Zoom meeting. (Cara Llywelyn-Davies cel19@aber.ac.uk) - (sesiwn nesa 23 Mai 2022) 

Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sul

Digwyddiadau

Nos Iau, 15 Medi 2022
CYD Llandysul

Dyma'r rhaglen am y cyfarfodydd nesa - diolch Lesley!

Nos lau 15fed Medi, 7yh Noson gymdeithasol a helfa drysor.

Gwahoddiad gan Beth Davies i ymweld â hi yn ei chartref "Ty Newydd, Gorrig, SA44 4JP".

Nos Iau, Hydred 20ain, 7.30yh yn Ngwesty'r Porth

"Straeon gwerin a straeon ysbrydion" Oes gennych chi stori i'w dweud wrthym?

Nos Iau, Tachwedd 17eg - Amser, Lle a Phwnc i'w benderfynu.

Nos Iau, Rhagfyr 15fed - Amser, Lle a Phwnc i'w benderfynu.

Manylion pellach gan Lesley Parker, cydllandysul@gmail.com

Here is the program for the next meetings - diolch Lesley!

Thursday 15th September, 7pm:  Social evening and treasure hunt.
Invitation from Beth Davies to visit her at home, "Ty Newydd, Gorrig. SA44 4JP". 

Thursday 20th October, 7.30pm in Y Porth, Llandysul.
"Folk tales and ghosts stories" Do you have a story to tell us?

Thursday 17th November - Time, Place and Subject to be decided.

Thursday 15th December - Time, Place and Subject to be decided. 


Further details from Lesley Parker, cydllandysul@gmail.com

Nos Wener, 16 Medi 2022
Cyngerdd Capel y Wig

Capel y Wig, Pontgarreg, nos Sadwrn 16 Medi 2022 am 7.00yh

Cyngerdd elusennol at Gronfa Adeiladu y Capel, yng nghwmni Dafydd Iwan, Côr Meibion Ar Ôl Tri, a Chôr Ysgol T. Llew Jones. 

Tocynnau: £10 o siop Awen Teifi (plant ysgol am ddim).
Capel y Wig, Pontgarreg, Saturday 16 September 2022 at 7.00pm

A charity concert for the Chapel Building Fund, featuring Dafydd Iwan,  Ar Ôl Tri male voice choir, and the Ysgol T. Llew Jones choir.

Tickets: £10 from Awen Teifi shop (school children free).

Nos Sadwrn, 17 Medi 2022
Noson Codi Hwyl, Ffostrasol

Nos Sadwrn, 17 Medi, 7.30, Neuadd Ffostrasol: Noson o godi hwyl yng nghwmni Dafydd Pantrod a'i Fand

Tocynnau £5 plant am ddim drwy:
Owenna  01239 851402 / 07977593467 
owennadavies@btinternet.com 
Eiris 01239 851 555 / 07944459163 
eiris@btinternet.com

An evening of music and socialising to start the new season of Welsh-language events in Neuadd Ffostrasol.

Nos Lun, 19 Medi 2022
Maes a Môr, Ffostrasol

(Neges gan Eiris)

Ar ôl cyfnod hesb y Cofid rydyn ni nawr yn ail ddechrau gweithgareddau Ffrindiau Ffostrasol a'r Gymdeithas Hanes.  Mae croeso cynnes iawn  i chi ymuno â ni unwaith eto - os yw'n gyfleus. Dyma felly fanylion  ein rhaglen tan y Nadolig.

Nos Lun, 19 Medi, 7.30, Neuadd Ffostrasol:              
Yr Athro Geraint Jenkins - "Hiwmor Tri Chardi Llengar: Moc Rogers, Tegwyn Jones, a Hywel Teifi."

Bore Sadwrn, 1 Hydref, 10.30 Neuadd Ffostrasol:    
Waldothon - Bore cymdeithasol yn darllen cerddi Waldo gyda chyflwyniadau.

Nos Lun, 17 Hydref, 7.30, Neuadd Ffostrasol:
Glyn Parry  -  Trosedd a Chosb.     

Nos Lun, 21 Tachwedd, 7.30, Neuadd Ffostrasol:
Owenna Davies - Gwlân, Gwlân  Dangosiad ffilm Merched y Wawr gyda chefndir.

Nos Lun, 19 Rhagfyr, 7.39, Neuadd Ffostrasol            
Carol Davies & Emyr Llywelyn - Caneuon Digrif Idwal Jones.


A programme of Welsh-language events in Ffostrasol Village Hall, organised by the local "Ffrindiau Ffostrasol" group.

Adnoddau Ar-lein
Online Resources

Wedi mynd!

Dw i wedi symud y rhestr hon o’r cylchlythyr i GoogleDocs, gan nad yw hi'n newid yn aml ac yn cymryd llawer o le. Bydd dolen i’r ddogfen Google ar waelod bob cylchlythyr, o dan adnoddau ar-lein eraill / other online resouces
It's gone and went!

I've moved this list from the newsletter onto GoogleDocs as it doesn't change very often and takes up a lot of room. There'll be a link to the Google Doc at the bottom of each newsletter, under adnoddau ar-lein eraill / other online resouces.

Gwaith Cartre

Eisteddfodau wedi dechrau eto ar ôl cau oherwydd Covid-19 ac isod mae manylion am Eisteddfod fyw leol gyda chystadlaethau i ddysgwyr. Mae rhestr o Eisteddfodau eraill yma:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285

Os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Eisteddfodau have started again after closing because of Covid-19 and below are details of a local live Eisteddfod with competitions for learners. There is a list of other Eisteddfodau here:
http://smala.net/steddfota/?page_id=285

If you would like more details, please contact Philippa Gibson  philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

EISTEDDFOD LLANDUDOCH

Dydd Sadwrn, Mai 21ain, 2022

yng Nghanolfan Goffa Llandudoch

a hefyd

Talwrn y Beirdd a Beirniadaethau Llên

Nos Fercher, Mai 18fed am 7.30 p.m. yn Neuadd Ysgol Llandudoch Meuryn – Y Prifardd Ceri Wyn Jones, Aberteifi

Mae rhaglen yr Eisteddfod yma:

https://smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2022/03/Rhaglen-Llandudoch-2022_.pdf

Cystadlaethau llenyddol i Ddysgwyr (Noddwyd gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro)

88. Lefel Mynediad (hyd at 100 o eiriau): Sgwrs rhwng dau berson mewn ciw.

1af : £15.00 2il: £10; 3ydd: £5

89. Lefel Sylfaen (hyd at 150 o eiriau): Fy hoff ran o Gymru,

1af : £15.00 2il: £10; 3ydd: £5

90. Lefel Canolradd (hyd at 200 o eiriau): Fy swydd gyntaf.

1af : £15.00 2il: £10; 3ydd: £5

91. Lefel Uwch/ Profiadol (350 gair neu fwy): Diwrnod allan. 1af : £15.00 2il:

£10; 3ydd: £5

92. Limrig yn cynnwys y llinell : “Fe es i un diwrnod i’r mynydd.” 1af : £10

93. Tlws Llenyddol y Dysgwyr. Cystadleuaeth sy’n agored i unrhyw un sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Dau ddarn o lenyddiaeth mewn gwahanol ffurfiau. Gwobr: Tlws Coffa Rhin Palmer (rhoddedig gan ei theulu, i’w gadw am flwyddyn) a £50 (rhodd Teulu Dychwelfa).

 

Anfonwch eich gwaith at yr ysgrifennydd Llên erbyn Ebrill 23ain, 2022 – Mrs Melrose Thomas, Dychwelfa, Heol Finch, Llandudoch, Sir Benfro, SA43 3EA . Derbynnir cynnyrch trwy e-bost o’i anfon at llandudoch@steddfota.org 

Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt (ffôn neu gyfeiriad), os gwelwch yn dda, neu chewch chi ddim cystadlu.

Dyfernir Tlws Llenyddol y Dysgwyr nos Sadwrn, Mai 21ain, 2022 yng Nghanolfan Goffa Llandudoch


Dyfernir y gwobrau llenyddol eraill mewn NOSON BEIRNIADAETHAU A THALWRN Y BEIRDD am 7.30 pm, Nos Fercher, Mai 18fed 2022 yn Neuadd Ysgol Llandudoch yng nghwmni’r beirniad llên, y Prifardd Aneirin Karadog a’r Meuryn, y Prifardd Ceri Wyn Jones Mynediad £5.00 (yn cynnwys lluniaeth ysgafn)

Cyhoeddwyd gan Dysgu.com yn 2022 , dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

datdanysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

adnoddau ar-lein eraill / other online resouces

Facebook | Twitter

Email Marketing Powered by Mailchimp