Copy

Cerddwyr Cylch Teifi

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.
Terwyn

Cerddwyr Cylch Teifi

14 Mai 2022 - Castellnewydd Emlyn

Annwyl Bawb,

Gobeithio byddwch chi’n gallu dod i ymuno â ni ar ein taith ddydd Sadwrn nesaf. Isod, mae’r manylion llawn am y daith, a'n canllawiau diogelwch. 

Er bod y rheolau am fesurau amddiffyn rhag Covid yng Nghymru wedi’u llacio, gofynnwn i bawb gymryd pob gofal posibl, gan beidio dod os bydd unrhyw arwydd o haint gennych neu os ydych yn fregus.

Byddem yn croesawu’n wresog unrhyw gynnig am arwain taith i ni flwyddyn nesaf (mis Hydref 2022 ymlaen). Cysylltwch os gallwch gynnig un.

Cofion gorau,

Philippa

Dear All,

We hope you will be able to join us for our walk next Saturday. Below are full details of the walk, information about the programme so far, and our safety guidelines.

Although the rules for Covid protection measures in Wales have been relaxed, we ask everyone to take all possible precautions, and not to come if you have any sign of infection or are vulnerable.

We’d warmly welcome any offer to lead a walk for us next year (October 2022 onwards). Please get in touch if you can offer one.

Best wishes,

Philippa

Cerddwyr Cylch Teifi
Sadwrn 14 Mai
Castellnewydd Emlyn
Arweinydd: Dafydd Davies

Cwrdd wrth y peiriant talu ym mhrif faes parcio’r dre (ar bwys y farchnad dda byw – SN 306 406;  Cod post: SA38 9BA) gan gychwyn ar y daith am 10.30 yn brydlon.

Y daith
Taith gylch ddwy awr o ryw ddwy filltir a hanner sy’n annisgwyl o wledig er ei bod yn swnio’n drefol. O'r maes parcio, cerddwn tua'r Ysgol Uwchradd ac yn fuan ar ôl croesi’r briffordd troi i'r dde ar y trac i lawr i Gwm Sarah, ymlaen heibio Capel y Mormoniaid i ymuno â’r briffordd, wedyn yn ôl at CNE ar y palmant, troi i'r llwybr wrth yr afon heibio Ysgol y Ddwylan a’r Eglwys; wrth gloc y dre mynd am y Castell ac yna’n ôl i'r maes parcio. Byddwn yn clywed am hanes y dre wrth fynd.

Taith sych dan draed ar dir caled heb lawer o ddringo.  Angen gofal rhesymol wrth groesi’r heolydd.

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers
Saturday 14 May
Newcastle Emlyn
Leader: Dafydd Davies

Meet at the payment machine at the town's main car park (near the livestock market - SN 306 406; Postcode: SA38 9BA). We’ll start the walk at 10.30 prompt.

The walk
A two-hour circular walk of about two and a half miles that is surprisingly rural even though it sounds urban. From the car park, we’ll walk towards the Secondary School and shortly after crossing the main road turn right on the track down to Cwm Sarah, continue past the Mormon Chapel to join the main road, then back to NCE on the pavement, turn onto the path by the river past Ysgol y Ddwylan and the Church; at the town clock head for the Castle and then back to the car park. We will hear about the history of the town along the way.

A walk which is dry underfoot on hard ground with little to no climbing. We’ll need to take reasonable care when crossing the roads.

RHAGLEN 2021 - 2022 

Bydd pob taith yn para rhyw 2 awr, gan ddechrau am 10.30yb.
  • Sadwrn Hydref 9fed yn ardal Llandudoch, gyda Terwyn Tomos yn arwain
     
  • Sadwrn Tachwedd 13eg yn dechrau yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, gyda Howard Williams yn arwain
     
  • Sadwrn Rhagfyr 4ydd yn dechrau yn Aberteifi a cherdded ar hyd yr afon. gyda Siân Bowen yn arwain
  • Sadwrn  Ionawr 8fed yn ardal Mynachlog-ddu gyda Hefin Wyn yn arwain

  • Sadwrn Chwefror 12fed yn Llangrannog gyda Dafydd Davies yn arwain
     
  • Sadwrn Mawrth 12fed - Cwm Gwaun gyda Judith Wainwright 
     
  • Sadwrn Ebrill 2il - Trefdraeth gyda Hedd Ladd Lewis
     
  • Sadwrn Mai 14eg - Castellnewydd Emlyn gyda Dafydd Davies
     
  • Sadwrn Mehefin 11eg - Foel Drygarn yn y Preselau gyda Hefin Wyn

Ond wrth gwrs os bydd rheolau Cymru am Covid yn newid, bydd angen inni addasu neu ganslo teithiau. Rhoddwn wybod i chi trwy e-bost. Ni fyddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl y teithiau er mwyn peidio annog pobl i gwrdd dan do, ond gallwch wneud fel y mynnoch wrth gwrs.

Bydd e-bost gyda’r manylion llawn am bob taith yn dod atoch chi wythnos cyn y daith bob tro. Ond hoffwn eich annog i ddarllen y nodiadau isod am ddiogelwch rhag Covid a diogelwch rhag damweiniau ar y teithiau cyn i chi ddod ar y teithiau.

PROGRAMME 2021 - 2022 

Each walk will last about 2 hours, starting at 10.30am.
  • Saturday October 9th in the St Dogmaels area, led by Terwyn Tomos
     
  • Saturday November 13th starting at the Wildlife Centre, Cilgerran, led by Howard Williams
     
  • Saturday December 4th starting in Cardigan and walking along the river. led by Siân Bowen
     
  • Saturday January 8th in the Mynachlog-ddu area with Hefin Wyn
     
  • Saturday February 12th at Llangrannog with Dafydd Davies leading
     
  • Saturday March 12th - Gwaun Valley with Judith Wainwright
     
  • Saturday April 2nd - Newport with Hedd Ladd Lewis
  • Saturday May 14th - Newcastle Emlyn with Dafydd Davies

  • Saturday June 11th - Foel Drygarn in the Preselis with Hefin Wyn

But of course if the Welsh rules about Covid change, we will need to adjust or cancel trips. We’ll let you know by email. We won’t arrange a place for socializing after the walks so as not to encourage people to meet indoors, but you can do as you please of course.

An email with the full details of each walk will be sent to you a week before the walk each time. But I would encourage you to read the notes below about Covid and accident protection before you come on the walks.

IECHYD A DIOGELWCH

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain.

Diogelwch rhag Covid-19

Gofynnir i’n cerddwyr:
  • gadw draw os nad ydych wedi cael y brechiadau i gyd sydd ar gael ichi,

  • geisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;

  • ac wrth gwrs, peidio â dod i daith os ydych chi’n: 

    • hunan-ynysu, neu

    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded: 
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

HEALTH AND SAFETY

Remember that you are responsible for your own health and safety.

Protection from Covid-19

Our walkers are asked to:
  • stay away if you haven't had all the vaccinations available to you,

  • attempt to maintain some socially reasonable distance from walkers from other households;

  • and of course, don't come to a walk if you are:

    • self-isolating, or

    • showing any symptom associated with the infection.



Safety on walks - from accidents
  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without undue delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecasts, especially footwear suitable for wet and uneven terrain;
  • stay in touch with the rest of the group by keeping in front of the organizer who will be at the back of the line of walkers;
  • inform an organizer if you leave early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without pavements;
    • on steep slopes;
    • on routes where there is a descent on one side as is often the case on coastal paths
Rhannwch Rhannwch
Trydarwch Trydarwch
Anfonwch at ffrind Anfonwch at ffrind
Cyhoeddwyd gan dysgu.com yn 2022, dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

dat-danysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

Email Marketing Powered by Mailchimp