Copy
Darllen yr e-bost hwn yn eich porwr | View this email in your browser
Croeso i rifyn yr haf o newyddion CGA, y cylchlythyr tymhorol gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Mae proses gofrestru 2022-23 wedi’i chwblhau

Mae’r broses adnewyddu cofrestriadau ar gyfer 2022-23 wedi’i chwblhau. Felly dylai’r holl gyflogwyr wirio bod eu staff wedi adnewyddu eu cofrestriadau ar gyfer 2022-23 yn y categori cywir gan ddefnyddio eich mynediad ar-lein at y Gofrestr.

Cofiwch, nid oes hawl gan ymarferwyr addysg i weithio yng Nghymru heb gofrestru gyda CGA. Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i wirio a yw’ch staff wedi cofrestru ai peidio. 


Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau. I gael mwy o wybodaeth ynghylch eich cyfrifoldebau fel cyflogwr, ewch i wefan CGA.
Recriwtio aelodau o’r Bwrdd Achredu AGA
Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd Achredu AGA. Hoffem glywed gennych os oes gennych brofiad helaeth ar lefel uwch ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), ysgolion, arolygu ysgolion, addysg uwch, sicrhau ansawdd neu reoleiddio proffesiynol. 

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pecyn cais, ar gael ar ein gwefan. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1 Gorffennaf 2022.
Recriwtio aelodau o’r Panel Priodoldeb i Ymarfer
Rydym yn recriwtio aelodau panel sy’n gofrestreion ar gyfer ein gwaith achos priodoldeb i ymarfer. 

Mae gan CGA rôl bwysig o ran cynnal safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol, a diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gofalwyr a’r cyhoedd. Mae’r rolau hyn yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd pecynnau cais ar gael ar ein gwefan o ddydd Llun 30 Mai 2022. 
Rydym yn annog ceisiadau oddi wrth unigolion amrywiol ar gyfer y ddwy broses recriwtio hyn. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau oddi wrth ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, anabl a lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, gan nad yw’r grwpiau hyn wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar ein Paneli Priodoldeb i Ymarfer a’r Bwrdd Achredu AGA ar hyn o bryd.

Cofrestru a rheoleiddio

Adolygu’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Nid yw’n rhy hwyr ichi roi eich sylwadau a’ch barn ar gynnwys y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol presennol. Gallwch e-bostio eich adborth at priodoldebiymarfer@cga.cymru gan ddefnyddio ‘ADOLYGU’R COD’ yn y llinell destun. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw dydd Mawrth 7 Mehefin 2022.

Canllaw, adnoddau a gwasanaethau proffesiynol

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddatblygu gan CGA, mae Addysgwyr Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n caniatáu ichi bostio’r swyddi, cymwysterau a chyfleoedd dysgu proffesiynol sydd gennych i’w cynnig.
 
Pan fyddwch ar y system, byddwch yn dechrau paru â gweithwyr addysg proffesiynol talentog sy’n chwilio am y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.
 
I greu proffil a chael gwybod mwy, ewch i wefan Addysgwyr Cymru.

Digwyddiadau'r dyfodol

Ymunwch â ni yn Eisteddfod yr Urdd

Rydym yn ymuno â’n cydweithwyr o Addysgwyr Cymru yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni (27 Mai – 2 Mehefin 2022). Bydd ein tîm wrth law i siarad â chi am waith CGA ac i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! 

Gwell rheolaeth gyda diweddariad newydd i’r PDP

Mae diweddariad a wnaed yn ddiweddar i’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn golgyu bod gan eich cyflogeion fwy o reolaeth dros y ffordd y byddant yn rhyngweithio â’u safonau proffesiynol. Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy.

Defnyddio’r PDP i gefnogi cyflogwyr

Rydym yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, yn datblygu templedi wedi’u teilwra yn y PDP i gefnogi prosesau datblygu proffesiynol a myfyrio ymarferwyr . Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut gall y PDP gefnogi’r sefydliad chi, cysylltwch â datblygiadproffesiynol@cga.cymru.

Meddwl Mawr

Mae ein clwb llyfrau a chyfnodolion yn parhau i roi argymhellion ichi ynghylch amrywiaeth o bynciau diddorol, gan eich cyfeirio chi at y cynnwys gwych sydd ar gael ar EBSCO, eich llyfrgell ar-lein am ddim. Ewch i'n gwefan i weld yr argymhellion diweddaraf ac i gofrestru nawr.

Rhannwch eich stori gyda Sôn

Rydym wedi cyhoeddi ein blog diweddaraf o’r enw “Mae’n bryd shifflo’r ACEs ac adnabod trawma hiliol”. Mewn blogbostiad llawn angerdd, mae Sunil Patel yn sôn am ei brofiadau ei hun o hiliaeth a pham y dylid ystyried cam-drin hiliol yn brofiad niweidiol yn ystod plentyndod. Os hoffech ddysgu mwy am gyfrannu at Sôn (ein cyfres o flogiau), neu ddarllen blogiau blaenorol, ewch i'r wefan.

Estynnwch wahoddiad inni

Rydym wedi bod yn brysur yn ymweld â chofrestreion a rhanddeiliaid i siarad am bynciau gan gynnwys ein rôl â’n cylch gwaith, y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, Addysgwyr Cymru a’r PDP. Os hoffech inni ymweld â chi i siarad â’ch cydweithwyr, ewch i'r wefan.

Polisi CGA

Ymatebion diweddar i ymgynghoriadau

Rydym wedi ymateb i ddau ymgynghoriad yn ddiweddar:

Pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau? 

Rydym eisiau gwybod sut y gallwn wella hygyrchedd ein cyfathrebiadau a’n gwasanaethau. Rhowch eich sylwadau inni nawr drwy gwblhau’r arolwg byr hwn. 

Rhag ofn eich bod chi wedi’i fethu

Ry'n ni wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2022-25. Ry'n ni hefyd wedi diweddaru ein dogfen y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.ar gyfer 2020-24.

Dilynwch ein sianelau

Darllenwch newyddion diweddaraf CGA ar Twitter, LinkedIn, YouTube ac ar ein gwefan.
Twitter
LinkedIn
YouTube
Website
Welcome to the summer edition of EWC news, the termly newsletter from the Education Workforce Council (EWC).

Registration 2022-23 is now complete

The registration renewal process for 2022-23 is now complete. All employers should therefore check their staff have renewed registration for 2022-23 in the correct category using your online access to the Register.
 
Remember, education practitioners can’t work in Wales without EWC registration. As an employer, you have a legal responsibility to check your staff are registered.
 
If you have any queries, please
contact us. For more information on the responsibilities on you as an employer, visit the EWC website.
ITE Accreditation Board recruitment
We are looking for new members to join our ITE Accreditation Board. If you have extensive experience at a senior level in Initial Teacher Education (ITE), schools, the inspection of schools, higher education, quality assurance or professional regulation, then we want to hear from you. 

More information, including an application pack, is available on our website. The deadline for applications is 1 July 2022.
Fitness to Practise Panel recruitment
We are recruiting registrant panel members for our fitness to practise casework.

The EWC has an important role in maintaining standards of professional conduct and practice, and safeguarding the interests of learners, parents/carers and the public. These roles provide a unique opportunity for personal and professional development. Application packs will be available via our website from Monday 30 May 2022.
We encourage applications from a diverse range of individuals for both of these recruitments. We particularly encourage applications from Welsh language, Black, Asian and minority ethnic, disabled, and lesbian, gay, bisexual and transgender applicants as these groups are currently under-represented on our ITE Accreditation Board and  FTP Panels.

Registration and regulation

Code of Professional Conduct and Practice review

There is still time for you to provide comments and views on the content of the current Code of Professional Conduct and Practice. Please email your feedback to fitnesstopractise@ewc.wales using the subject line ‘CODE REVIEW’. The deadline for comments is Tuesday 7 June 2022.

Guidance, resources and professional services

Funded by Welsh Government and developed by the EWC, Educators Wales is a completely free service which allows you to post the jobs, qualifications, and professional learning opportunities you have on offer.
 
Once you’re up and running, you’ll start matching with talented education professionals looking for the next step in their careers.
 
To create a profile and find out more, visit the Educators Wales website.

Upcoming events

Join us at the Urdd

We are joining colleagues from Educators Wales at this year’s Urdd Eisteddfod in Denbighshire (27 May – 2 June 2022). Our team will be on hand to talk to you about the work of the EWC and to answer any queries you may have. We look forward to seeing you there!

Greater control with new PLP update

A recent update to the Professional Learning Passport (PLP) now means your employees have greater control over how they interact with their professional standards. Find out more on our website.

Using the PLP to support employers

We continue to work with a range of organisations, developing bespoke templates in the PLP to support practitioner professional development and reflection. If you are interested in finding out more on how the PLP can support your organisation, contact professionaldevelopment@ewc.wales.

Meddwl Mawr

Our book and journal club continues to bring registrants recommendations covering a range of interesting topics, pointing them to some of the great content available on their free online library. For the latest recommendations, or to subscribe, direct them to the EWC website.

Share your story with Sôn

We’ve released our latest blog entitled “Time to shuffle the ACEs and recognise racial trauma”. In a passionate piece, Sunil Patel talks of his own experiences of racism and why he thinks it’s time racial abuse was considered an Adverse Childhood Experience (ACE). If you would like to find out more about contributing to Sôn (our blog series), or to read previous blogs, visit the website.’

Invite us along

We’ve been busy visiting registrants and stakeholders to talk about topics including our role and remit, the Code of Professional Conduct and Practice, Educators Wales, and the PLP. If you want us to come speak to your colleagues, visit the website.

EWC policy

Recent consultation responses 

We have recently responded to two consultations:

How accessible are our services?

We are keen to know how we can improve the accessibility of our communications and services. Tell us your thoughts now by completing this short survey.

In case you missed it

We've published our new Strategic Plan for 2022-25. We've also updated our Strategic Equality Plan 2020-24.

Stay up to date with Follow our channels

Stay up to date with the latest news from EWC on Twitter, LinkedIn, YouTube and our website.
Twitter
LinkedIn
YouTube
Website
Hawlfraint © 2022 Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyngor y Gweithlu Addysg
35-43 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0AB

Dad-danysgrifio o'r rhestr bostio hon.
Copyright © 2022 Education Workforce Council

Education Workforce Council
35-43 Newport Road
Cardiff 
CF24 0AB

Unsubscribe from this list.






This email was sent to <<Cyfeiriad e-bost | Email address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Cyngor y Gweithlu Addysg / Education Workforce Council · 35-43 Newport Road · Cardiff · Wales, Cardiff CF24 0AB · United Kingdom