Copy

Cerddwyr Cylch Teifi

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.
Terwyn

Cerddwyr Cylch Teifi

11 Mehefin 2022 - Ardal Foel Drygarn

Golygfa o Garn Menyn o Eglwyswrw (Dylan Moore / Wikipedia Commons)

Annwyl Bawb,

Gobeithio byddwch chi’n gallu dod i ymuno â ni ar ein taith ddydd Sadwrn nesaf. Isod, mae’r manylion llawn am y daith a'n canllawiau diogelwch. Y daith hon fydd yr un olaf yn ein rhaglen eleni, ond gobeithiwn ailddechrau ym mis Hydref. 

Er bod y rheolau am fesurau amddiffyn rhag Covid yng Nghymru wedi’u llacio, gofynnwn i bawb gymryd pob gofal posibl, gan beidio dod os bydd unrhyw arwydd o haint gennych neu os ydych yn fregus.

Byddem yn croesawu’n wresog unrhyw gynnig am arwain taith i ni flwyddyn nesaf (mis Hydref 2022 ymlaen). Cysylltwch os gallwch gynnig un.

Cofion gorau,
Philippa

Dear All,

We hope you will be able to join us for our walk next Saturday. Below are full details of the walk and our safety guidelines. This will be the last walk in this year’s programme, but we’ll hope to restart in October.

Although the rules for Covid protection measures in Wales have been relaxed, we ask everyone to take all possible precautions, and not to come if you have any sign of infection or are vulnerable.

We’d warmly welcome any offer to lead a walk for us next year (October 2022 onwards). Please get in touch if you can offer one.

Best wishes,
Philippa

Cerddwyr Cylch Teifi
Sadwrn 11 Mehefin 
Ardal Foel Drygarn
Arweinydd: Hefin Wyn

 
Gadael y man parcio am 10.30
Taith egnïol o 3.25 milltir, a fydd yn gorffen erbyn 1:00.  

Parcio wrth yr heol o Grymych i Fynachlog-ddu (‘Croes Mihangel’) ar SN 165 330 (ychydig yn nes at Fynachlog-ddu na’r man parcio ar fapiau OS). Ar gyfer Satnav, SA66 7SA yw’r cod post agosaf, er nad yw’n arwain i’r union le iawn.

Cerdded ar hyd y ffordd wedyn i gyfeiriad Mynachlog-ddu am ryw hanner awr a throi i'r dde ar hyd feidir Glanrhyd Fach ac wedyn dilyn llwybr am ryw hanner awr arall (esgyniad: tua 400 troedfedd) nes cyrraedd Carnmeini. Bydd yn wlyb mewn mannau. Dylid gwneud yn siŵr nad yw sgidie yn gollwng neu efalle gwisgo wellintons. Cyfle i oedi ymhlith y meini cyn cydio yn Llwybr y Ffordd Euraidd a cherdded ar y gwaered i lawr i Groes Mihangel at y cerbydau.

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers
Saturday 11 Mehefin
Foel Drygarn area
Leader: Hefin Wyn


Leaving the parking place at 10.30
A strenuous 3.25 mile walk, which will finish by 1:00. Parking by the road from Crymych to Mynachlog-ddu (‘Croes Mihangel’) at SN 165 330 (slightly closer to Mynachlog-ddu than the parking area on OS maps). For a Satnav, SA66 7SA is the nearest postcode, although it does not lead to exactly the right place. 

Walk along the road then towards Mynachlog-ddu for about half an hour and turn right along Glanrhyd Fach lane and then follow a path for another half an hour (ascent: about 400 feet) until reaching Carnmeini. It will be wet in places. You should make sure that your shoes don’t leak, or wear wellingtons. A chance to pause amongst the stones before joining the Golden Way Trail and walking downhill to Croes Mihangel to the cars.

RHAGLEN 2021 - 2022 

Mae pob taith yn para rhyw 2 awr, gan ddechrau am 10.30yb.
  • Sadwrn Hydref 9fed yn ardal Llandudoch, gyda Terwyn Tomos yn arwain
     
  • Sadwrn Tachwedd 13eg yn dechrau yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, gyda Howard Williams yn arwain
     
  • Sadwrn Rhagfyr 4ydd yn dechrau yn Aberteifi a cherdded ar hyd yr afon. gyda Siân Bowen yn arwain
  • Sadwrn  Ionawr 8fed yn ardal Mynachlog-ddu gyda Hefin Wyn yn arwain

  • Sadwrn Chwefror 12fed yn Llangrannog gyda Dafydd Davies yn arwain
     
  • Sadwrn Mawrth 12fed - Cwm Gwaun gyda Judith Wainwright 
     
  • Sadwrn Ebrill 2il - Trefdraeth gyda Hedd Ladd Lewis
     
  • Sadwrn Mai 14eg - Castellnewydd Emlyn gyda Dafydd Davies
     
  • Sadwrn Mehefin 11eg - Foel Drygarn yn y Preselau gyda Hefin Wyn

Ni threfnir man i gymdeithasu ar ôl y teithiau er mwyn peidio annog pobl i gwrdd dan do, ond gallwch wneud fel y mynnoch wrth gwrs.

Hoffem eich annog i ddarllen y nodiadau isod am ddiogelwch rhag Covid a diogelwch rhag damweiniau ar y teithiau cyn i chi ymuno â ni.

PROGRAMME 2021 - 2022 

Each walk lasts  about 2 hours, starting at 10.30am.
  • Saturday October 9th in the St Dogmaels area, led by Terwyn Tomos
     
  • Saturday November 13th starting at the Wildlife Centre, Cilgerran, led by Howard Williams
     
  • Saturday December 4th starting in Cardigan and walking along the river. led by Siân Bowen
     
  • Saturday January 8th in the Mynachlog-ddu area with Hefin Wyn
     
  • Saturday February 12th at Llangrannog with Dafydd Davies leading
     
  • Saturday March 12th - Gwaun Valley with Judith Wainwright
     
  • Saturday April 2nd - Newport with Hedd Ladd Lewis
  • Saturday May 14th - Newcastle Emlyn with Dafydd Davies

  • Saturday June 11th - Foel Drygarn in the Preselis with Hefin Wyn

No place for socialising after the walks is organised so as not to encourage people to meet indoors, but you can do as you please of course.

We would encourage you to read the notes below about Covid and accident protection before you join us.

IECHYD A DIOGELWCH

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain.

Diogelwch rhag Covid-19

Gofynnir i’n cerddwyr:
  • gadw draw os nad ydych wedi cael y brechiadau i gyd sydd ar gael ichi

  • geisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;

  • ac wrth gwrs, peidio â dod i daith os ydych chi’n: 

    • hunan-ynysu, neu

    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded: 
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

HEALTH AND SAFETY

Remember that you are responsible for your own health and safety.

Protection from Covid-19

Our walkers are asked to:
  • stay away if you haven't had all the vaccinations available to you,

  • attempt to maintain some reasonable social distance from walkers from other households;

  • and of course, don't come to a walk if you are:

    • self-isolating, or

    • showing any symptom associated with the infection.


Safety on walks - from accidents
  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without undue delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecasts, especially footwear suitable for wet and uneven terrain;
  • stay in touch with the rest of the group by keeping in front of the organizer who will be at the back of the line of walkers;
  • inform an organizer if you leave early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without pavements;
    • on steep slopes;
    • on routes where there is a descent on one side as is often the case on coastal paths
Rhannwch Rhannwch
Trydarwch Trydarwch
Anfonwch at ffrind Anfonwch at ffrind
Cyhoeddwyd gan dysgu.com yn 2022, dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

dat-danysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

Email Marketing Powered by Mailchimp