Copy
Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi
Welsh language events in the Cardigan area

Pethe Cylch Teifi

Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi. 
Welsh language events in the Cardigan area.

Llun yr Wythnos - manylyn o Awyr 22 (2020) gan Huw Jones.
Pic of the Week - detail from Awyr 22 (2020) by Huw Jones.

Pethe Newydd
New Stuff

Sa i'n siŵr a fydda i'n wneud hyn bob tro, ond dyma beth sy'n newydd yn y cylchlythyr yr wythnos hon:
I'm not sure if I'll do this every time, but here's some shortcuts to the new or updated items in this week's Pethe.

Hysbysebion
Announcements

Cyrsiau Newydd yn Dechrau
New Welsh Courses Starting

Cyrsiau ar-lein newydd i ddechreuwyr pur sy'n dechrau wythnos nesaf o 1 Tachwedd!  Mae gostyngiad o 50% ar gael gyda'r cod TACH21.

Cofrestrwch yma:
https://learnwelsh.cymru/ceredigion

(Cliciwch ar y teil "from November 2021".) 
It's not too late for you learn Welsh this academic year! New online Learn Welsh courses for beginners starting next week from 1 November! 50% off discount code is TACH21.

Register here:
https://learnwelsh.cymru/ceredigion

(Click on the "from November 2021" tile.)

Eisteddfod SSiW
(tan/until 05/11/21)

Eisteddfod Ar-lein i Ddysgwyr y Gymraeg

Dyma eich cyfle CHI i ymuno a chael hwyl gyda'r traddodiad Cymreig gwych hwnnw - yr Eisteddfod - yn hollol ar-lein. Dewisir y categorïau i weddu i wahanol lefelau eich dysgu ac i'ch annog i ymestyn eich Cymraeg mewn ffordd greadigol a dangos i ni'r holl dalent sydd allan yna, ond y prif nod yw cael hwyl gyda'ch Cymraeg.

Rhaid derbyn pob cais erbyn 5 Tachwedd 2021.

Manylion llawn yr holl gystadlaethau ar wefan SaySomethinginWelsh.
 
Online Eisteddfod for Welsh Learners

This is YOUR opportunity to join in and have fun with that great Welsh tradition – the Eisteddfod – completely online. The categories are chosen to suit the different levels of your learning and to encourage you to stretch your Welsh in a creative way and show us all the talent that is out there, but the main aim is to have fun with your Welsh.

All entries must be received by 5 November 2021.

Full details of all competitions on the SaySomethinginWelsh website.

Sgwrsio... a mwy!
Conversation... and more!

Mae sawl grŵp wedi dechrau cwrdd "yn y cnawd" eto. Allwch chi roi gwybod i ni os bydd eich grŵp yn dechrau cwrdd eto? Diolch! nic@dysgu.com

Dydy'r rhan fwya o grwpiau sgwrsio arferol ddim yn cwrdd ar hyn o bryd, ond mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gwrdd â'i gilydd a gyda Chymry Cymraeg a siaradwyr rhugl eraill bob wythnos. Os ydych chi'n gwybod am grwpiau eraill sy ddim yn y rhestr yma, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 
Some groups have started to meet "in the flesh" again. Please let us know if your local group will be starting meeting again. Diolch! nic@dysgu.com

Most of the usual conversation groups aren't meeting at the moment, but there are still lots of online opportunities for Welsh learners to meet each other and with fluent Welsh speakers every week. If you know of other groups not listed here, please let us know.
Dydd Llun
  • Clwb Darllen Sir Gâr - bob yn ail dydd Llun / every other Monday, 3.00pm - 4.00pm. Addas i lefel Mynediad 1 a 2, sesiwn hwyliog ar Zoom / Suitable for Entry 1 & 2 level, an informal Zoom meeting. (Cara Llywelyn-Davies cel19@aber.ac.uk)

Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sul

Digwyddiadau

Nos Wener, 29 Hydref 2021
FFRWD/Ceri Rhys Matthews

Cerddoriaeth fyw gyda syntheseisyddion modiwlaidd a ffliwt gan FFRWD a CERI RHYS MATTHEWS, cyngerdd cyntaf mewn cyfres newydd yn fyw o DREGARON

Oriel Rhiannon, Y Sgwâr, Tregaron, SY25 6JL
Nos Wener, 29 Hydref 2021, 7.30yh

Tocynnau (£8) ar gael yma
Live music with modular synthesizers and flute by FFRWD & CERI RHYS MATTHEWS, first concert in a new series live from TREGARON

Oriel Rhiannon, The Square, Tregaron, SY25 6JL
Friday, 29 October 2021, 7.30pm

Tickets available here (£8)

Nos Sadwrn, 6 Tachwedd 2021
Cân y Ffordd Euraidd - Parti Gwrando

Ar ôl haf o sgyrsiau a theithiau cerdded llawn gwybodaeth yn ardal y Preselau, mae’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd yn barod o’r diwedd ar gyfer ei darllediad cyhoeddus cyntaf.  Bydd y rhaglen radio dwyieithog ar-lein, awr o hyd, hon yn cael ei lansio yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. 

Cliciwch yma am ragor o fanylion ac i gadw eich lle.

 
After a summer of informative talks and walks in the Preseli area the radio ballad Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road is finally ready for its first public broadcast.  This hour-long online bilingual radio programme will be launched at Tafarn Sinc on the 6th November.  

Click here for more details and to reserve your place.
Parti Gwrando Cân y Ffordd Euraidd / Song of the Golden Road Listening Party 

Nos Sadwrn, 6 Tachwedd 2021
Cymdeithas Ceredigion

Cymdeithas Ceredigion - Meinir Mathias
Nos Sadwrn 6/11/21
Caffi Emlyn, Tanygroes am 7.30

Cyflwyniad gan yr artist Meinir Mathias

Croeso cynnes i bawb.

Tâl Aelodaeth am y flwyddyn £10 (am 9 cyfarfod) neu £3 am un noson.

Am fod yr haint yn dal o gwmpas gofynnir i chi:
peidio â dod (wrth gwrs) os oes symptomau arnoch neu os ydych wedi cael cyngor swyddogol i hunan-ynysu
ac os ydych yn bwriadu bod yn y Caffi
  • sicrhau eich bod wedi cael y ddau frechiad
  • gwisgo mwgwd os nad oes ’da chi resymau cryf am beidio
  • cadw pellter cymdeithasol rhesymol (fe fydd digon o le rhwng y cadeiriau ta beth)
A presentation in Welsh by the artist Meinir Mathias

Nos Fercher, 10 Tachwedd 2021
Grŵp Sgwrsio Lland'och

Mae grŵp swgrsio Llandudoch wedi ail-ddechrau eu cyfarfodydd, ac hynny yn nhafarn Yr Hydd Gwyn, sy newydd ail-agor. Llongyfarchiadau i'r tîm sy wedi gweithio mor galed i sicrhau dyfodol y dafarn arbennig hon.

Bydd y grŵp yn cwrdd ar yr ail a'r bedwaredd nos Fercher yn y mis, a bydd y manylion yn ein hadran "Sgwrsio" bob tro. 

Cysylltwch â Kathleen am ragor o fanylion.

Enw - Grŵp Sgwrsio Lland'och
Lle - Yr Hydd Gwyn, Llandudoch
Noson - yr ail a'r 4edd nos Fercher y mis
Amser - 7.00yh
Cyswllt - Kathleen Finlayson   tlwsfan1@gmail.com
St Dogmaels conversation group have resumed their meetings, now in the newly reopened White Hart. Congratulations to the team who have worked so hard to secure the future of this special pub.

The conversation group will meet on the second and fourth Wednesday evenings of the month, and details will always be in our "Sgwrsio" section. 

Contact Kathleen for more details.

Name - Grŵp Sgwrsio Lland'och
Where - The White Hart, St Dogmaels
When - 2nd and 4th Wednesday evenings of each month
Time - 7.00pm
Contact - Kathleen Finlayson   tlwsfan1@gmail.com

Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2021
Cyflwyniad i Merched y Wawr

Wyt ti eisiau ymarfer dy Gymraeg, gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chael tipyn o hwyl? Wyt ti wedi ystyried ymuno â Merched y Wawr? Pam lai? Mae'r mudiad yn lle croesawgar a chyfeillgar i ddysgwyr.

Bydd Tegwen Morris, Prif Weithredwr Merched y Wawr, yn ymuno â dysgwyr Ceredigion, Powys a Sir Gâr am 11.00 ar 12 Tachwedd i gyflwyno'r mudiad, ac mae croeso cynnes i bob menyw sy'n dysgu ar lefelau Canolradd, Uwch a Hyfedredd.

Dyma'r ddolen:

https://zoom.us/j/93471289318?pwd=ODNmUzdWUDlvKzlRYlA0WkRyUmtWQT09

Passcode: 783050

An introduction to Merched y Wawr, the Welsh-language women's group, suitable for students at Intermediate level and above.

Nos Iau, 18 Tachwedd 2021
Clwb Hanes - Dr Elen Phillips

Dr Elen Phillips, Amgueddfa Sain Ffagan (Llun BBC)

Nod y Clwb Hanes yw cyflwyno gwahanol agweddau ar hanes Cymru o Oes y Tywysogion i ferched Comin Greenham.

Y bwriad yw cwrdd unwaith y mis ar-lein ar un ai nos Iau neu fore Gwener, gan ddibynnu ar argaeledd y siaradwyr gwadd, a bydd y sesiynau hyn yn addas i ddysgwyr lefel Uwch a Hyfedredd a dysgwyr da ar lefel Canolradd.

Bydd cyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd pob sesiwn.

Er mwyn derbyn manylion cysylltu, cysylltwch â Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).


18 Tachwedd am 7y.h. (i’w gadarnhau)

Dr Elen Phillips, prif guradur Amgueddfa Cymru (Sain Ffagan), fydd ein siaradwr nesaf.


“Casglu Covid, Cymru 2021” yw’r  pwnc, sef holiadur torfol sy’n cofnodi profiadau pobl Cymru o’r cyfnod clo.

Dyma gyflwyniad rhagorol a hynod o ddiddorol.


A new monthly History Club, meeting online with a different guest speaker every month. Suitable for learners at lefelau Uwch ac Hyfedredd

Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd 2021
Sadwrn Siarad Arlein / Online Day School

Sadwrn Siarad ar-lein + gig Gwilym Bowen Rhys

20 Tachwedd 2021, 9.30 tan 15.30 - £10 / £6
Gyda gig yn y prynhawn.

Dosbarthiadau ar bob lefel - iaith y de neu'r gogledd.

Mae rhagor o fanylion, a dolenni cofrestru yn eich Bwletin y Myfyrwyr - cewch lawrlwytho copi fan hyn.
Online Day School + Gwilym Bowen Rhys gig

20 November 2021, 9.30 until 15.30 - £10 / £6
With an afternoon gig.

Classes at all levels - North or South dialects, and including a taster class for absolute beginners.

Further details and enrollment links are in your Student Bulletin - download a copy here.

Adnoddau Ar-lein
Online Resources

Byddwn ni'n ychwanegu pethau newydd at frig y rhestr yma, a byddan nhw mewn teip du
We'll add any new links to the top of this list, and they will be in black type

Gwaith Cartre

Er ei bod yn eithaf tebyg na fydd Eisteddfod yn digwydd go iawn am sbel, mae ambell Eisteddfod rithiol yn digwydd, ac isod mae manylion un leol gyda chystadleuaeth i ddysgwyr (sy'n cael eu galw'n bobl 'Cymraeg Ail Iaith'). Mae rhestr o Eisteddfodau eraill yma:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285
Although it is unlikely that an Eisteddfod will take place for a while, there are a few virtual Eisteddfodau taking place, and below are the details of local ones with a competition for learners (known as 'Welsh Second Language'). There is a list of other Eisteddfodau here:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285

EISTEDDFOD CYMDEITHAS CEREDIGION

Caffi Emlyn, Tanygroes

5 Mawrth 2022

Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi - (i ddechrau am 7:00 yr hwyr)

Mae angen bwcio i ddod i'r noson:  c.byrnejones257@btinternet.com

Beirniad: Y Prifardd Aneirin Karadog

CYSTADLEUAETH 12: Cystadleuaeth i siaradwyr newydd: Cerdd neu ryddiaith ar y testun ‘Gwreiddiau’
Gwobr: £10

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost.

Dyddiad Cau: dydd Sul 20ed o Chwefror

Y cyfansoddiadau i law Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tre-saith, Aber-porth, SA43 2EB c.byrnejones257@btinternet.com
Cyhoeddwyd gan Dysgu.com yn 2021 , dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

datdanysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

 

Facebook | Twitter

Email Marketing Powered by Mailchimp