Copy
On The Record -  October 2021
Please scroll down for 'Ar Gof a Chadw'
 
Hello and welcome to this month's On the Record. We are pleased to announce that the upgraded Online Recording System (ORS) and the new Data Request Portal are now live. There is more detail below.

We had a successful online Conference last month and have shared the talks on YouTube in case you missed any.
Our Species of the Month is an easily identifiable Harvestman which is increasing its range.

One of our Monad of the Month squares only has 2 records, a false scorpion and a rabbit. We'd love to have more records to add to these and the other under-recorded squares highlighted this month.

We also have information about two Cofnod courses, and two waxcap walks in north Wales with Plantlife.
 
Cofnod Conference Playlist on YouTube
 
We’d like to say a big thank you to all those who gave talks at this year’s Cofnod Conference, held on 20th October. If you were able to join us, we hope you enjoyed the talks and videos. These have now been made available through a Playlist on our YouTube Channel. The Conference Programme also contains links to each of the videos.

Please feel free to circulate the programme or the Playlist link:
https://youtube.com/playlist?list=PLW-D0qw1a2oB8uG8q3oUKpoUMkvr9j5ox

We are keen to have ideas for topics you'd like to see covered next year or the names of people who could give talks. Participants can do this by filling in questions 5 and 6 on the feedback form emailed last month.

 
New Cofnod Systems

New Online Recording System
 
We’re pleased to announce that we have recently upgraded our Online Recording System (ORS), providing a new look and feel as well as some added functionality. If you have previously used the ORS you’ll recognise some of the features, like being able to choose the species from our online dictionary or locate where you saw it on a map. However, the new ORS has enhanced species dictionary searching and allows you to attach as many pieces of evidence (photos etc.) as you wish to each record.

The interface has been designed so that it scales easily for use on mobile phones or tablets, meaning that if you’re connected to the internet, you can submit your records in the field.

We’ve produced a short video which gives you an overview of using the ORS, otherwise you can log in using your previous login details or register using our simple online registration form.

We hope you enjoy using the new ORS and it helps you submit your wildlife records more easily.

New Data Request Portal
 
Making Data Requests from us has just become much easier, as the Data Request page on our website now directs you to the My LERC website.

Although developed by Cofnod, My LERC has previously only been used by two other Local Environmental Records Centres (LERCs) in England. We’re pleased to finally be using this system, as we feel it provides a much more simplified and generic way of requesting data.

It includes all the features of our old website, including online quoting and the ability to submit your request using a variety of different geographic formats. However, by using My LERC you can see all your requests made to us alongside those you’ve made to other My LERC users. We hope in the next year to add many more LERCs to My LERC, making it the place to request data whether you’re interested in North Wales or North Norfolk!


Cofnod Course

Advanced notice:

Pete Boardman from the Cranefly Recording Scheme will be leading a two-day Cranefly course in North Wales in June 2022.

Day 1 will be spent in the field at two sites demonstrating sampling methods (Anglesey & Snowdonia). Day 2 will be in the lab learning how to identify specimens.

We'll be running this course with the Carneddau Project. More information and bookings will be available nearer the event.


 
Species Focus: Harvestman (Opilio canestrinii)

Have you encountered these miniature War of the Worlds machines in your garden? Unlike their sci-fi lookalikes, the harvestman Opilio canestrinii is currently staging a rapid invasion of Britain.

It was first recorded in the UK in 1999 and since then has spread throughout Britain. Its march across Europe from Italy appears to have displaced an earlier invading species, Opilio parietinus, reflecting the exciting and ever-changing nature of our harvestman fauna.

Opilio canestrinii is easy to find in gardens as it sits out in the open on walls in full view. Some care is needed to identify it from other UK species, but fortunately only O. canestrinii has orange leg trochanters (arrowed below), so you can easily distinguish it from other large harvestmen species you might find sitting on house or garden walls.

Unlike spiders, harvestmen don’t produce silk and also lack venom. They eat a variety of small invertebrates and will even scavenge dead prey and nibble fruit!

Please submit your records to the Cofnod ORS or the LERC Wales App so we can map the range expansion of this species.

More information on this species can be found here.




Opilio canestrinii


Opilio canestrinii is easily distinguished from other large UK harvestman by the orange colour of its leg bases (trochanter segment arrowed).


10km squares in North Wales with records of Opilio canestrinii
Choose a Conference!
 
 
The NBN conference 2021 will be held on 24th November using Teams. It is a one day event with the theme “Biodiversity data – from collection to use”. For more information and booking click here.

 
BIS, our fellow Local Environmental Records Centre in Powys and the Brecon Beacons, are holding their annual Recorders' Forum on 24th November from 9:30am to 12:15pm using Zoom. This event is free. For more information and booking click here.
Waxcap Wanders with Plantlife
 
Join us for a wander around meadow and grassland areas in the search for the most colourful fungi of all – waxcaps. With Debbie Evans, you will find out how to identify them, why they are becoming rare and how you can help with mapping unique waxcap areas. You will receive a free waxcap identification guide on the day. There will be a limit of 15 people per walk and they can be booked using the following links:

Thursday 18/11/21 Moelyci, Tregarth
Friday 19/11/21 Chirk Castle

 





 
Monad of the Month - November 2021

Every month we will be providing maps and information about poorly recorded monads in North Wales to encourage recorders to get out to locations with few or zero records. We are currently targeting squares with fewer than 20 records. The latest monads of the month are now available:

SH3083 Llanfachraeth
SJ1568 Nannerch
SH7058 Above Capel Curig
SH2828 Near Abersoch
SH7333 Near Trawsfynydd

Click here to download a file with details of each square, including maps and any previous records. You can also use the link below to see previous Monads of the Month.


 
Click here for Monad of the Month
Cofnod Grant for Biological Recording
 
We have reopened our Recording grants of up to £500 for equipment, travel expenses or to cover other small incidental costs. You are welcome to fill in the newest grant application form if you are interested in applying.

...and in other news
 
Please look at our website for other items of interest.

Please remember to email details of any events, surveys and training opportunities you know of which might be of interest to recorders in North Wales or contact our Recording Specialist Richard Gallon.
 
Submit Your Records
Do you observe wildlife? Do you make a note of your sightings? Do you pass these on to anyoneVisit the Submit Records page on our website for more information on different ways to do this. One great way is to use our Online Recording System, within the Members area of the Cofnod website!

We need your records to help build a more complete picture of the status of species in North Wales. Our Data We Hold page shows you what we already hold on our database.
Website
Twitter
Instagram
Facebook
YouTube
Email
Ar Gof a Chadw - Tachwedd 2021
 
Helo a chroeso i rifyn y mis yma o Ar Gof a Chadw. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod yr System Cofnodi Ar-lein wedi'i uwchraddio a'r porth cais Data newydd bellach yn fyw. Mae mwy o fanylion isod.

Fe gawsom ni Gynhadledd ar-lein lwyddiannus fis diwethaf ac rydyn ni wedi rhannu'r sgyrsiau ar YouTube rhag ofn eich bod wedi methu unrhyw rai. Rhywogaethau y Mis yw Carw’r Gwellt sy'n cynyddu ei amrediad ac yn hawdd ei adnabod.

Dim ond 2 gofnod sydd gan un o'n sgwariau Monad y Mis, sgorpion ffug a chwningen. Byddem wrth ein bodd yn cael mwy o gofnodion i'w hychwanegu at y rhain ac am y sgwariau eraill sydd wedi’u tangofnodi rydyn ni wedi tynnu sylw atyn nhw y mis yma.

Mae gennym ni hefyd wybodaeth am ddau gwrs Cofnod a dwy daith gerdded capiau cwyr yng ngogledd Cymru gyda Plantlife.  
Cynhadledd Cofnod 2021 ar YouTube
 
Hoffem ddweud diolch yn fawr wrth bawb a roddodd sgyrsiau yng Nghynhadledd Cofnod eleni, a gynhaliwyd ar 20fed Hydref. Os oedd yn bosib i chi ymuno â ni, gobeithio eich bod wedi mwynhau'r sgyrsiau a'r fideos. Mae'r rhain bellach ar gael drwy Restr Chwarae ar ein Sianel YouTube. Mae Rhaglen y Gynhadledd hefyd yn cynnwys dolenni i bob un o'r fideos.

Mae croeso i chi ddosbarthu'r rhaglen neu'r ddolen i'r Rhestr Chwarae: https://youtube.com/playlist?list=PLW-D0qw1a2oB8uG8q3oUKpoUMkvr9j5ox

Rydym yn awyddus i gael syniadau ar gyfer pynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw y flwyddyn nesaf neu enwau pobl a allai roi sgyrsiau. Gall cyfranogwyr wneud hyn drwy lenwi cwestiynau 5 a 6 ar y ffurflen adborth a e-bostiwyd fis diwethaf.

 
 
Newydd System Gofnodi Ar-lein
 
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi uwchraddio ein System Gofnodi Ar-lein (ORS) yn ddiweddar, gan ddarparu edrychiad a theimlad newydd iddi yn ogystal â rhywfaint o swyddogaethau ychwanegol. Os ydych chi wedi defnyddio'r ORS o'r blaen, byddwch chi'n adnabod rhai o'r nodweddion, fel gallu dewis y rhywogaeth o'n geiriadur ar-lein neu leoli lle gwnaethoch chi ei gweld ar fap. Fodd bynnag, mae gan yr ORS newydd well swyddogaeth ar gyfer chwilio am rywogaeth yn y geiriadur ac mae’n galluogi i chi atodi cymaint o ddarnau o dystiolaeth (lluniau ac ati) ag y dymunwch gyda phob cofnod.

Mae’r rhyngwyneb wedi cael ei ddylunio fel ei fod yn addasu’n hwylus o ran graddfa i'w ddefnyddio ar ffonau symudol neu dabledi, sy'n golygu os oes gennych chi gyswllt â'r rhyngrwyd y gallwch chi gyflwyno'ch cofnodion yn y maes.

Rydyn ni wedi creu fideo byr sy'n rhoi trosolwg i chi o ddefnyddio'r ORS, fel arall gallwch fewngofnodi gan ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi blaenorol neu gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflen gofrestru ar-lein syml.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau defnyddio'r ORS newydd ac y bydd yn eich helpu chi i gyflwyno'ch cofnodion bywyd gwyllt yn haws.

Newydd Porthol Cais am Ddata
 
Mae gwneud Ceisiadau Data gennym ni wedi dod yn llawer haws, gan fod y dudalen Cais am Ddata ar ein gwefan bellach yn eich cyfeirio chi at wefan Fy LERC.

Er iddo gael ei ddatblygu gan Cofnod, dim ond dwy Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERCs) arall yn Lloegr sydd wedi defnyddio LERC o'r blaen. Rydyn ni’n falch o fod yn defnyddio'r system yma o’r diwedd, gan ein bod yn teimlo ei bod yn darparu ffordd lawer symlach a generig o ofyn am ddata.

Mae'n cynnwys holl nodweddion ein hen wefan, gan gynnwys dyfynnu ar-lein a'r gallu i gyflwyno eich cais gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fformatau daearyddol. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio Fy LERC gallwch weld yr holl geisiadau rydych chi wedi’u gwneud i ni ochr yn ochr â'r rhai rydych chi wedi'u gwneud i ddefnyddwyr eraill Fy LERC. Yn ystod y flwyddyn nesaf rydyn ni’n gobeithio ychwanegu llawer mwy o LERCs at Fy LERC, gan ei wneud y lle gorau i ofyn am ddata, os oes gennych chi ddiddordeb yng Ngogledd Cymru neu Ogledd Norfolk!


Cwrs Cofnod

Rhybudd ymlaen llaw:

Bydd Pete Boardman o’r Cynllun Cofnodi Pryfed Teiliwr yn arwain cwrs Pryfed Teiliwr deuddydd yng Ngogledd Cymru ym mis Mehefin 2022.

Bydd Diwrnod 1 yn cael ei dreulio yn y maes ar ddau safle yn arddangos dulliau samplu (Ynys Môn ac Eryri). Bydd Diwrnod 2 yn y labordy yn dysgu sut i adnabod sbesimenau.

Byddwn yn cynnal y cwrs yma gyda Phrosiect y Carneddau. Bydd mwy o wybodaeth ac archebion ar gael yn nes at y digwyddiad.

 
Ffocws ar Rywogaeth: Carw'r Gwellt (Opilio canestrinii)

Ydych chi wedi dod ar draws un o’r peiriannau War of the Worlds bach yma yn eich gardd? Yn wahanol i’w dynwaredwyr mewn ffuglen wyddonol, mae Carw'r Gwellt Opilio canestrinii yn cynnal ymosodiad cyflym iawn ar Brydain ar hyn o bryd.

Fe’i cofnodwyd yn gyntaf yn y DU yn 1999 ac ers hynny mae wedi lledaenu ledled Prydain. Mae ei orymdaith ar draws Ewrop o’r Eidal fel pe bai wedi cymryd lle rhywogaeth ymledol gynharach, Opilio parietinus, gan adlewyrchu natur gyffrous ein ffawna carw’r gwellt, sy’n newid yn gyson.

Mae Opilio canestrinii yn hawdd iawn dod o hyd iddo mewn gerddi gan ei fod yn eistedd ar waliau yn gwbl hawdd ei weld. Mae angen rhywfaint o ofal i’w adnabod a gwahaniaethu rhyngddo a rhywogaethau eraill y DU, ond yn ffodus dim ond O. canestrinii sydd â throcantrau coesau oren (dangosir gan y saethau isod), felly mae’n hawdd gwahaniaethu rhyngddo â rhywogaethau mawr eraill o garw’r gwellt sydd i’w gweld ar waliau tai neu erddi.

Yn wahanol i bryf cop, nid yw carw’r gwellt yn cynhyrchu sidan ac nid oes ganddo wenwyn chwaith. Mae’n bwyta amrywiaeth o infertebrata bach a bydd yn bwyta ysglyfaeth marw hyd yn oed, a ffrwythau!

Cyflwynwch eich cofnodion i Cofnod ORS neu Ap LERC Cymru fel ein bod yn gallu mapio amrediad y rhywogaeth yma.

Mwy o wybodaeth am y rhywogaeth ar gael yma.



Opilio canestrinii


Mae’n hawdd dweud y gwahaniaeth rhwng Opilio canestrinii a charw’r gwellt mawr arall y DU oddi wrth y lliw oren sydd ganddo ar waelod ei goesau (dangosir segment y trocantr gyda saethau).
 

Sgwariau 10km yng Ngogledd Cymru gyda chofnodion o Opilio canestrinii
Dewiswch gynhadledd!
 
 
Bydd cynhadledd NBN 2021 yn cael ei chynnal ar 24ain Tachwedd gan ddefnyddio Teams. Mae'n ddigwyddiad undydd gyda'r thema “Data bioamrywiaeth - o'u casglu i'w defnyddio”. Am fwy o wybodaeth ac i archebu cliciwch yma..

 
Mae BIS, ein cyd Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol ym Mhowys a Bannau Brycheiniog, yn cynnal eu Fforwm Cofnodwyr blynyddol ar 24ain Tachwedd rhwng 9:30 am a 12:15 pm gan ddefnyddio Zoom. Mae'r digwyddiad yma am ddim. Am fwy o wybodaeth ac i archebu cliciwch yma..
“Crwydro gyda'r Capiau Cwyr” efo Plantlife
 
Ymunwch â ni ar grwydr o amgylch dolydd a glaswelltiroedd i chwilio am y ffyngau mwyaf lliwgar ohonyn nhw i gyd - capiau cwyr. Gyda Debbie Evans, byddwch yn darganfod sut i'w hadnabod, pam eu bod yn prinhau a sut gallwch chi helpu gyda mapio ardaloedd unigryw o gapiau cwyr. Byddwch yn derbyn canllaw adnabod capiau cwyr am ddim ar y diwrnod. Bydd cyfyngiad o 15 o bobl ar bob taith gerdded. Sicrhewch eich tocynnau yma:

Dydd Iau 18/11/21 Moelyci, Tregarth
Dydd Gwener 19/11/21 Castell y Waun

 





 
Monad y Mis - Tachwedd 2021

Bob mis fe fyddwn yn darparu mapiau a gwybodaeth am fonadau gyda phrinder cofnodion yng Ngogledd Cymru, er mwyn annog cofnodwyr i fynd allan i’r lleoliadau heb fawr ddim cofnodion, os o gwbl. Mae’r monadau diweddaraf ar gael nawr:

SH3083 Llanfachraeth
SJ1568 Nannerch
SH7058 gorllewin o’r Gapel Curig
SH2828 ger Abersoch
SH7333 ger Trawsfynydd

Fedrwch chi helpu i lenwi rhai o’r bylchau yma? Cliciwch yma i weld manylion pob sgwâr, gan gynnwys mapiau ac unrhyw gofnodion blaenorol. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddolen isod i weld pob Monad y Mis blaenorol.


 
Cliciwch yma i weld Monad y Mis
Grant Cofnod ar gyfer Cofnodi Biolegol
 
Rydyn ni wedi ailagor ein grantiau Cofnodi o hyd at £500 ar gyfer offer, costau teithio neu i dalu am gostau bychain eraill. Mae pedwar o bobl wedi gwneud cais yn ystod y mis diwethaf ac mae croeso i chi lenwi’r ffurflen gais am grant newydd hefyd os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais. 
...ac mewn newyddion arall!
 
Edrychwch ar ein gwefan ni fam eitemau eraill sydd o ddiddordeb.


 
Cofiwch e-bostio manylion unrhyw ddigwyddiadau, arolygon a chyfleoedd hyfforddi rydych yn gwybod amdanynt a allai fod o ddiddordeb i gofnodwyr yng Ngogledd Cymru neu gysylltu a’n Harbenigwr Cofnodi,  Richard Gallon.
 
Cyflwyno Cofnodion

A ydych yn gwylio bywyd gwyllt? A ydych yn nodi yr hyn a welsoch? A ydych yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw un? Ewch i'r dudalen Cyflwyno Cofnodion ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth am ffyrdd gwahanol o wneud hyn. Un ffordd wych yw defnyddio ein System Gofnodi Ar-lein sydd wedi'i hailddatblygu, o fewn adran yr Aelodau ar wefan Cofnod!

Rydym angen eich cofnodion i helpu adeiladu darlun mwy cyflawn o statws y rhywogaethau yng Ngogledd Cymru. Mae ein tudalen Y Data Sydd Gennym yn dangos beth sydd gennym yn ein cronfa ddata yn barod.

Website
Twitter
Instagram
Facebook
YouTube
Email






This email was sent to <<Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Cofnod - North Wales Environmental Information Service · Cofnod, Intec, Ffordd y Parc · Parc Menai · Bangor, Gwynedd LL57 4FG · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp