Copy
Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi
Welsh language events in the Cardigan area

Pethe Cylch Teifi

Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi. 
Welsh language events in the Cardigan area.

Llun yr Wythnos - manylyn o Y Ddihangfa Fawr (cyfryngau cymysg, 2020) gan Kate Milsom.
Pic of the Week - detail from The Great Escape (cyfryngau cymysg, 2020) by Kate Milsom.
Pethe Newydd
New Stuff
Beth sy'n newydd yn y cylchlythyr yr wythnos hon:
Shortcuts to the new or updated items in this week's Pethe.

Sgwrsio... a mwy!
Conversation... and more!

Mae sawl grŵp wedi dechrau cwrdd "yn y cnawd" eto. Allwch chi roi gwybod i ni os bydd eich grŵp yn dechrau cwrdd eto? Diolch! nic@dysgu.com

Dydy'r rhan fwya o grwpiau sgwrsio arferol ddim yn cwrdd ar hyn o bryd, ond mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gwrdd â'i gilydd a gyda Chymry Cymraeg a siaradwyr rhugl eraill bob wythnos. Os ydych chi'n gwybod am grwpiau eraill sy ddim yn y rhestr yma, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 
Some groups have started to meet "in the flesh" again. Please let us know if your local group will be starting meeting again. Diolch! nic@dysgu.com

Most of the usual conversation groups aren't meeting at the moment, but there are still lots of online opportunities for Welsh learners to meet each other and with fluent Welsh speakers every week. If you know of other groups not listed here, please let us know.
Dydd Llun
  • Clwb Darllen Sir Gâr - bob yn ail dydd Llun / every other Monday, 3.00pm - 4.00pm. Addas i lefel Mynediad 1 a 2, sesiwn hwyliog ar Zoom / Suitable for Entry 1 & 2 level, an informal Zoom meeting. (Cara Llywelyn-Davies cel19@aber.ac.uk)

Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener Dydd Sul

Digwyddiadau

Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2021
Cyflwyniad i Merched y Wawr

Wyt ti eisiau ymarfer dy Gymraeg, gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chael tipyn o hwyl? Wyt ti wedi ystyried ymuno â Merched y Wawr? Pam lai? Mae'r mudiad yn lle croesawgar a chyfeillgar i ddysgwyr.

Bydd Tegwen Morris, Prif Weithredwr Merched y Wawr, yn ymuno â dysgwyr Ceredigion, Powys a Sir Gâr am 11.00 ar 12 Tachwedd i gyflwyno'r mudiad, ac mae croeso cynnes i bob menyw sy'n dysgu ar lefelau Canolradd, Uwch a Hyfedredd.

Dyma'r ddolen:

https://zoom.us/j/93471289318?pwd=ODNmUzdWUDlvKzlRYlA0WkRyUmtWQT09

Passcode: 783050

An introduction to Merched y Wawr, the Welsh-language women's group, suitable for students at Intermediate level and above.

Dydd Sadwrn, 13 Tachwedd 2021
Cerddwyr Cylch Teifi - Corsydd Teifi

Cerddwyr Cylch Teifi

Bore Sadwrn 13 Tachwedd

Corsydd Teifi

Arweinydd: Howard Williams 

Dechrau am 10:30 yn brydlon o’r prif faes parcio, Gwarchodfa Bywyd Gwyllt, Cilgerran SN 185 448 (dilynwch yr arwyddion brown o Aberteifi). Taith 2 awr.  Cawn barcio am ddim ar lefel uchaf y maes parcio trwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth sy’n cadw’r warchodfa.  

Disgrifiad 

Taith gylch hamddenol o 2.75 milltir (a chyfle i’w chwtogi) heb adael y warchodfa (rhyw 250 erw) ar lwybrau cadarn, yn bennaf ar dir gwastad. O’r maes parcio byddwn ni’n mynd heibio Canolfan y Warchodfa ac allan ar y bryncyn y tu ôl iddi; wedyn i lawr i’r afon ac ar ei hyd i weld gweddillion un o hen chwareli Fforest. Cerddwn wedyn ar lwybr y chwarelwyr i gyfeiriad Cilgerran cyn croesi’r ffordd fynediad (cyfle fan hyn i fynd yn ôl yn syth i’r maes parcio) i ddilyn y llwybr pren newydd sy’n ymuno yn y pen draw â hen drac y Cardi Bach ar bwys Pont y Priordy; wedyn yn ôl ar y trac i’r maes parcio.  

Pwyntiau o ddiddordeb 

Mae digon i dynnu ein sylw yn y warchodfa heblaw natur. Cawn olygfa wych tuag at Aberteifi o’r bryncyn (lle mae dwrgi enfawr newydd yn sefyll) a chyfle i glywed rhyw ychydig am hanes y diwydiant llechi lleol a’i berthynas â’r afon wrth inni sefyll y tu mewn i hen chwarel.  Mae canolfan bren y warchodfa yn un o adeiladau modern hynotaf yr ardal. Mae hynt a helynt y rheilffordd yn ddiddorol hefyd ac oddi ar y trac fe fyddwn ni’n gweld  amryw adar yr afon ac – efallai – ddwrgi ifanc go iawn sydd newydd gael ei daflu allan o wâl y teulu.

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers

Saturday morning 13 November

Teifi Marshes

Leader: Howard Williams 

Starting at 10:30 prompt from the main car park of the Wildlife Reserve, Cilgerran SN 185 448 (follow the brown signs from Cardigan); 2 hour walk. We can park for free on the top level of the car-park by kind permission of the Trust which runs the reserve. 

Description

A leisurely walk of about 2.75 miles (with an optional short-cut) without leaving the reserve (of some 250 acres) on sound paths, mainly on level ground. From the car-park we will go past the Reserve Centre and out on to the hillock behind it; then down to the river and along it to see the remains of one of the old Fforest quarries. We’ll walk afterwards on the quarry workers’ path towards Cilgerran before crossing the entrance road (opportunity here to go straight back to the car-park) to follow the new board-walk which eventually joins the old track of the Cardi Bach near the Priory Bridge; then back along the track to the car-park. 

Points of Interest

There is plenty to draw our attention in the reserve besides nature. We’ll have a splendid view towards Cardigan from the hillock (where a new enormous otter stands) and an opportunity to hear a bit about the history of the local slate industry and its relationship with the river from inside an old quarry. The wooden reserve centre is one of the most remarkable modern buildings in the area.  The fortunes of the railway are of interest also and from it we will see several sorts of river bird and – perhaps – a young, real otter which has just been thrown out of the family holt.

Nos Iau, 18 Tachwedd 2021
Clwb Hanes - Medi James

Nod y Clwb Hanes yw cyflwyno gwahanol agweddau ar hanes Cymru o Oes y Tywysogion i ferched Comin Greenham.

Y bwriad yw cwrdd unwaith y mis ar-lein ar un ai nos Iau neu fore Gwener, gan ddibynnu ar argaeledd y siaradwyr gwadd, a bydd y sesiynau hyn yn addas i ddysgwyr lefel Uwch a Hyfedredd a dysgwyr da ar lefel Canolradd.

Bydd cyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd pob sesiwn.

Er mwyn derbyn manylion cysylltu, cysylltwch â Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).


18 Tachwedd am 7y.h. (manylion newydd!)

Medi James fydd y siaradwraig, ac hanes Merched Comin Greenham fydd ei thestun.

Dyma gyflwyniad rhagorol a hynod o ddiddorol.

Nos Iau 18 Tachwedd am 7y.h. yng nghwmni Medi. Dyma'r linc:

https://zoom.us/j/96220974441?pwd=ZGs3OVFtM2NIT0ZWdTR0YTk5N2FPdz09

A new monthly History Club, meeting online with a different guest speaker every month. Suitable for learners at Advanced and Profiency levels.

Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd 2021
Sadwrn Siarad Arlein / Online Day School

Sadwrn Siarad ar-lein + gig Gwilym Bowen Rhys

20 Tachwedd 2021, 9.30 tan 15.30 - £10 / £6
Gyda gig yn y prynhawn.

Dosbarthiadau ar bob lefel - iaith y de neu'r gogledd.

Mae rhagor o fanylion, a dolenni cofrestru yn eich Bwletin y Myfyrwyr - cewch lawrlwytho copi fan hyn.
Online Day School + Gwilym Bowen Rhys gig

20 November 2021, 9.30 until 15.30 - £10 / £6
With an afternoon gig.

Classes at all levels - North or South dialects, and including a taster class for absolute beginners.

Further details and enrollment links are in your Student Bulletin - download a copy here.

Nos Iau, 9 Rhagfyr 2021
Dolig Dysgwyr

7.00, nos Iau, 9fed o Ragfyr 2021, yn rhad ac am ddim ar Zoom.

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cyflwyno:

Dolig Dysgwyr - Sesiwn Zoom Nadoligaidd arbennig ar gyfer dysgwyr a siaradwyr newydd. Cyhoeddir llinell y limrig yn rhifyn Rhagfyr o Steddfota. 

Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Facebook y Gymdeithas, neu gysylltwch â Lois Williams (lois@steddfota.org)

An evening of Welsh language entertainment for Welsh learners and new speakers.

 

Adnoddau Ar-lein
Online Resources

Byddwn ni'n ychwanegu pethau newydd at frig y rhestr yma, a byddan nhw mewn teip du
We'll add any new links to the top of this list, and they will be in black type

Gwaith Cartre

Er ei bod yn eithaf tebyg na fydd Eisteddfod yn digwydd go iawn am sbel, mae ambell Eisteddfod rithiol yn digwydd, ac isod mae manylion un leol gyda chystadleuaeth i ddysgwyr (sy'n cael eu galw'n "Siaradwyr Newydd"). Mae rhestr o Eisteddfodau eraill yma:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285
Although it is unlikely that an Eisteddfod will take place for a while, there are a few virtual Eisteddfodau taking place, and below are the details of local ones with a competition for learners (known as 'New Speakers'). There is a list of other Eisteddfodau here:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285

EISTEDDFOD CYMDEITHAS CEREDIGION

Caffi Emlyn, Tanygroes

5 Mawrth 2022

Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi - (i ddechrau am 7:00 yr hwyr)

Mae angen bwcio i ddod i'r noson:  c.byrnejones257@btinternet.com

Beirniad: Y Prifardd Aneirin Karadog

CYSTADLEUAETH 12: Cystadleuaeth i siaradwyr newydd: Cerdd neu ryddiaith ar y testun ‘Gwreiddiau’
Gwobr: £10

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost.

Dyddiad Cau: dydd Sul 20ed o Chwefror

Y cyfansoddiadau i law Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tre-saith, Aber-porth, SA43 2EB c.byrnejones257@btinternet.com
Cyhoeddwyd gan Dysgu.com yn 2021 , dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

datdanysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

 

Facebook | Twitter

Email Marketing Powered by Mailchimp