Copy
Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi
Welsh language events in the Cardigan area

Pethe Cylch Teifi

Digwyddiadau Cymraeg yn ardal Aberteifi. 
Welsh language events in the Cardigan area.

Llun yr Wythnos - Yr Ysgyfarnog, ysgythriad nodwydd sych gan Polly Dixon, Castellnewydd Emlyn, o'r sioe cyfredol yn oriel Stiwdio Cennen, ger Llandeilo.
Pic of the Week - The Hare, drypoint etching by Polly Dixon, Castellnewydd Emlyn, from a current show at Studio Cennen, near Llandeilo.

Pethe Newydd
New Stuff

Beth sy'n newydd yn y cylchlythyr yr wythnos hon:
Shortcuts to the new or updated items: 

Hysbysebion 

Gwefan Fro i Dde Ceredigion?
Hyperlocal Website for South Ceredigion?

Ydych chi’n byw yn ne Ceredigion? Eisiau gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn lleol? Newyddion? Digwyddiadau? Datblygiadau?

Bydd prosiect Bro360 o ddiddordeb i chi.

Mae cwmni Golwg Cyf. wedi comisiynu IAITH i gynnal yr arolwg er mwyn iddyn nhw fedru ystyried sut orau i ddatblygu prosiect Bro360 mewn pedair ardal yn ne Ceredigion – Dyffryn Aeron, Bro Siôn Cwilt, Llandysul ac Aberteifi.

Rhagor o fanylion ar wefan Bro360.

A survey about a proposed Welsh-language "hyper-local" website for south Ceredigion.

Ysgoloriaethau Tiwtoriaid Yfory
Tutor Training Scholarships

Ysgoloriaeth gwerth £1,000!

Wyt ti’n fyfyriwr sy awydd bod yn diwtor sy’n dysgu Cymraeg i oedolion?

Haf nesaf, mi fyddwn ni’n cynnig:
- Pythefnos o hyfforddiant yng Nghaerdydd i gychwyn y daith.
Dim ond lle i 14 sy ar y cwrs!

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, ac mae croeso i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru a thu hwnt i ymgeisio.
Awydd? https://buff.ly/3HgeBkW

The National Learn Welsh Centre is offering 14 scholarships to students who would like to train as Learn Welsh tutors for adults. Interested? https://buff.ly/3DuL0So

Sgwrsio... a mwy!
Conversation... and more!

Mae sawl grŵp wedi dechrau cwrdd "yn y cnawd" eto. Allwch chi roi gwybod i ni os bydd eich grŵp yn dechrau cwrdd eto? Diolch! nic@dysgu.com

Dydy'r rhan fwya o grwpiau sgwrsio arferol ddim yn cwrdd ar hyn o bryd, ond mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gwrdd â'i gilydd a gyda Chymry Cymraeg a siaradwyr rhugl eraill bob wythnos. Os ydych chi'n gwybod am grwpiau eraill sy ddim yn y rhestr yma, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 
Some groups have started to meet "in the flesh" again. Please let us know if your local group will be starting meeting again. Diolch! nic@dysgu.com

Most of the usual conversation groups aren't meeting at the moment, but there are still lots of online opportunities for Welsh learners to meet each other and with fluent Welsh speakers every week. If you know of other groups not listed here, please let us know.
Dydd Llun
  • Clwb Darllen Sir Gâr - bob yn ail dydd Llun / every other Monday, 3.00pm - 4.00pm. Addas i lefel Mynediad 1 a 2, sesiwn hwyliog ar Zoom / Suitable for Entry 1 & 2 level, an informal Zoom meeting. (Cara Llywelyn-Davies cel19@aber.ac.uk)

Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
  • Coffi a Clonc Sir Benfro - wedi gorffen am y tro / finished for now
     
  • Cyd Aberteifi (yn fyw!) - 11.00 - 12.30 bob dydd Gwener, yn Hafan y Pysgotwyr, Aberteifi - cyswllt: howard.swnynant@btinternet.com
Dydd Sul

Digwyddiadau

Nos Sadwrn, 4 Rhagfyr 2021
Cymdeithas Ceredigion

Eddie Ladd yn wneud panad yn Eisteddfod Sir Conwy, 2019
Caffi Emlyn, Tanygroes am 7yh

Cyflwyniad gan Eddie Ladd, a bwffe Nadoligaidd

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 7:00 gyda chyflwyniad gan Eddie Ladd, neu Gwenith Owen Maesglas, sef sioe sy’n seiliedig ar ei magwraeth ar un o ffermydd yr ardal, gyda chaneuon, a dawns, a thipyn o sbri!

Ar ôl y cyflwyniad, tua 8yh, bydd bwffe Nadoligaidd (cost £10) i’w archebu ymlaen llaw.

Os nad ydych chi wedi archebu’r bwffe yn barod, bydd angen cysylltu â Carol Byrne Jones (Pencartws, Ffordd Tresaith, Aber-porth, SA43 2EB;  01239 811024;  c.byrnejones257@btinternet.co) erbyn dydd Sadwrn 27 Tachwedd.

Cewch dalu’r £10 ar y noson ond os bydd rhaid ichi dynnu’n ôl am ryw reswm bydd yn bwysig dweud wrth Carol yn syth gan fod y Caffi yn codi tâl am fwyd sy wedi’i archebu ond heb ei fwyta.
Cysylltwch â Philippa Gibson os hoffech wybod mwy. philippa.gibson@gmail.com

A presentation in Welsh by the multitalented performer Eddie Ladd, and a Christmas buffet with Cymdeithas Ceredigion. Suitable for more experienced learners. Contact Philippa Gibson if you'd like to know more. philippa.gibson@gmail.com

Nos Sadwrn, 4 Rhagfyr 2021
Gig: Pwdin Reis yn y Selar

Bar y Selar, Stryd y Cei, Aberteifi, am 7.30 tan stop tap.

Band Cymraeg o'r Gorllewin Gwyllt sydd yn cael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth rockabilly.

Rhagor o fanylion: cliciwch yma.
Cellar Bar, Quay St, Aberteifi, from 7.30 until stop tap.

A band from West Wales who take their inspiration from Rockabilly.

More details: click here.
Pwdin Reis | Disci'r Clustie

Nos Iau, 9 Rhagfyr 2021
Dolig Dysgwyr

7.00, nos Iau, 9fed o Ragfyr 2021, yn rhad ac am ddim ar Zoom.

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cyflwyno:

Dolig Dysgwyr - Sesiwn Zoom Nadoligaidd arbennig ar gyfer dysgwyr a siaradwyr newydd. Cyhoeddir llinell y limrig yn rhifyn Rhagfyr o Steddfota. 

Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Facebook y Gymdeithas, neu gysylltwch â Lois Williams (lois@steddfota.org)

An evening of Welsh language entertainment for Welsh learners and new speakers.

Nos Sadwrn, 11 Rhagfyr 2021
Sioe: "Nadolig Plentyn yng Nghymru"

Theatr Soffa: Nadolig Plentyn yng Nghymru gan Dylan Thomas (Perfformiad Cymraeg)

11 Rhagfyr am 7.30yh

I'w berfformio ar-lein ar sianel YouTube SPAN - gallwch wylio am ddim o'ch 'stafell fyw adref! Cliciwch y ddolen i gael eich hatgoffa.

Mae Theatr Soffa yn ôl gyda stori fer hyfryd Dylan Thomas, y stori berffaith i ysgogi naws Nadoligaidd ynoch!

Nadolig Plentyn yng Nghymru:

Cyfieithiad Bryan Martin Davies o stori enwog Dylan Thomas, sy'n trafod hanes telynegol Nadoligau ei blentyndod mewn tref fach yng Nghymru, gan gynnwys bleiddiaid, eirth, hipos a chath Mrs Prothero. Perfformiad tymhorol perffaith i bobl o bob oed!

(Fe fydd y sioe yma yn cael ei berfformio yn Saesneg ar 3 Rhagfyr am 7.30yh.)

Welsh language performance of Dylan Thomas's classic short story. (The English language version will be performed on 3 December - heno 'ma!)

Nos Fercher, 15 Rhagfyr 2021
Cwis Mawr y Nadolig (ar-lein)

Nos Fercher, 15 Rhagfyr 2021 am 7.00yh.

Cwis Mawr y Nadolig, trwy Zoom. Wedi'i drefnu ar y cyd gan Mentrau Iaith Sir Benfro, Cered, Gorllewin Sir Gâr, Cwm Gwendraeth Elli a Dinefwr.

Manylion Zoom:

ID: 867 3855 0280
Cyfrinair: 219134

Rhagor o fanylion: cliciwch yma.
Wednesday, 15 December 2021 at 7.00pm.

Big Christmas Quiz, via Zoom. Organized jointly by Mentrau Iaith Pembrokeshire, Cered, West Carmarthenshire, Gwendraeth Elli and Dinefwr.

Zoom Details:

ID: 867 3855 0280
Password: 219134

For more details click here.

Nos Iau, 16 Rhagfyr 2021
Clwb Hanes: Elinor Wyn Reynolds

Y bardd a’r awdur Elinor Wyn Reynolds fydd ein siaradwr ar nos Iau, 16 Rhagfyr am 7y.h. 

Bydd Elinor yn trafod traddodiadau Nadoligaidd ac yn cyflwyno ambell drysor o’i chyfrol Llyfr Bach Nadolig. 

https://zoom.us/j/96220974441?pwd=ZGs3OVFtM2NIT0ZWdTR0YTk5N2FPdz09

Croeso cynnes i bawb – dysgwyr, tiwtoriaid a ffrindiau. Dewch yn llu!

A virtual evening with poet and author Elinor Wyn Reynolds. Suitable for Welsh learners at Canolradd level and above, and a warm welcome to all.

Nos Wener, 17 Rhagfyr 2021
Gig: Al Lewis yn y Castell

Daw Al Lewis, canwr a chyfansoddwr Cymraeg, i Bafiliwn Castell Abereifi. Yn syth o'i gyngherddau blynyddol yn Eglwys St John, Caerdydd, bydd Al yn dod a naws y Nadolig gyda'i berfformiad personol ddwyieithog o'i ganeuon.

Bydd y gantores lleol, Mari Mathias, yn cefnogi Al ar y noson. Perfformiodd ar Cân i Gymru 2020 ar S4C.

Digwyddiad dan do ar gadeiriau bydd hon. Bydd rhif cadair yn cael eu aseinio'n awtomatig pan yn archebu. Bydd y drysau'n agor am 7yh gyda'r perfformiad yn dechrau tua 8yh. Bydd bar y Pafiliwn ar agor cyn i'r gyngerdd dechrau ac yn ystod hanner amser, gan gynnwys 'Hot Dogs' Nadoligaidd!

Ymunwch â ni am noson sydd yn argoeli i fod yn wych i ddechrau dathliadau'r Wyl!

Bydd angen i bod unigolyn dangos pas Covid dilys i fynychu'r gyngerdd. Bydd heyfd angen i bawb wisgo gorchudd wyneb trwy gydol y gyngerdd heblaw am pan yn bwyta neu yfed.

*Tocynnau*
£12 yr un - Ar werth dydd Sadwrn 20fed o Dachwedd i aelodau ac yn gyhoeddus dydd Llun 22ain o Dachwedd. Cliciwch yma i archebu ar-lein.
Welsh singer-songwriter Al Lewis comes to Cardigan Castle's Pavilion. Fresh from his annual Christmas concerts at St John's Church in Cardiff, Al will be getting us all in the Christmas spirit with his songs with an intimate bilingual performance.

Al will be supported by local artist Mari Mathias, who performed on Cân i Gymru 2020 on S4C.

This will be a seated indoor event. Seat numbers will be assigned automatically when purchasing. The doors will open at 7:00pm with the performance starting at approximately 8pm. The Pavilion bar will also be open before the show begins and during the interval, including our delicious festive Festive Hot Dogs!

Join us for what is bound to be an awesome night of music to get you in the festive mood!

All attendees will need to show a valid Covid Pass to attend the concert and mask are required at all times in the Pavilion except when consuming food or alcohol.

*Tickets*
£12 each - On sale on Saturday 20th November for members and on general sale Monday 22nd November. Click here for online ordering.
cleaned by Adblock for Youtube™
Al Lewis - Symud 'Mlaen

Adnoddau Ar-lein
Online Resources

Byddwn ni'n ychwanegu pethau newydd at frig y rhestr yma, a byddan nhw mewn teip du
We'll add any new links to the top of this list, and they will be in black type

Gwaith Cartre

Er ei bod yn eithaf tebyg na fydd llawer o Eisteddfodau yn digwydd go iawn am sbel, mae ambell Eisteddfod rithiol ac ambell Eisteddfod fyw yn digwydd, ac isod mae manylion am Eisteddfod fyw leol gyda chystadleuaeth i ddysgwyr (sy'n cael eu galw'n "Siaradwyr Newydd"). Mae rhestr o Eisteddfodau eraill yma:  http://smala.net/steddfota/?page_id=285
Although it is unlikely that many Eisteddfodau will actually be held for a while, there are some virtual and some live Eisteddfods happening, and below are details of a local live Eisteddfod with a competition for learners (called "New Speakers"). There is a list of other Eisteddfodau here: http://smala.net/steinebota/?page_id=285

The Eisteddfod below will be most suitable for learners at Canolradd and Uwch levels and above.
If you would like more details, please contact Philippa Gibson  philippa.gibson@gmail.com   01239 654561

EISTEDDFOD CYMDEITHAS CEREDIGION

Caffi Emlyn, Tanygroes

Mae Cymdeithas Ceredigion yn grŵp Cymraeg llenyddol. Mae’n cwrdd yng Nghaffi Emlyn Tanygroes (SA43 2JE) unwaith y mis yn ystod y gaeaf ac mae croeso i aelodau newydd. Bob blwyddyn, cynhelir Eisteddfod gyda chystadlaethau llenyddol, yn ystod noson Cawl Gŵyl Dewi. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o Gymdeithas Ceredigion i gymryd rhan yn yr Eisteddfod, ac mae’n bosibl cystadlu yn yr Eisteddfod a pheidio dod i’r noson. 

Mae’r manylion am yr Eisteddfod nesaf yma    http://smala.net/steddfota/wp-content/uploads/2021/11/Eisteddfod-Cymdeithas-Ceredigion-2022.pdf ac isod:

Nos Sadwrn 5 Mawrth 2022

Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi - (i ddechrau am 7:00 yr hwyr)

Mae angen bwcio i ddod i'r noson:  c.byrnejones257@btinternet.com

Beirniad yr Eisteddfod: Y Prifardd Aneirin Karadog

CYSTADLEUAETH Rhif 12: Cystadleuaeth i siaradwyr newydd: Cerdd neu ryddiaith ar y testun ‘Gwreiddiau’

Gwobr: £10

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost.

Dyddiad Cau: dydd Sul 20ed o Chwefror

Y cyfansoddiadau i law Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tre-saith, Aber-porth, SA43 2EB c.byrnejones257@btinternet.com

Os hoffech chi gael mwy o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com    01239 654561

Cyhoeddwyd gan Dysgu.com yn 2021 , dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

datdanysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

 

Facebook | Twitter

Email Marketing Powered by Mailchimp