Copy

Cerddwyr Cylch Teifi

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.
Terwyn

Cerddwyr Cylch Teifi

Aberteifi: Tref a Gwlad - 4 Rhagfyr 2021

Llun gan "welshweekender" ar Instagram

Annwyl Bawb,

Gobeithio byddwch chi’n gallu dod i ymuno â ni ar ein taith ddydd Sadwrn nesaf. Isod, mae’r manylion llawn am y daith, gwybodaeth am y rhaglen hyd yn hyn sy'n cynnwys taith Ionawr, a'n canllawiau diogelwch.

Cofion gorau,
Philippa

Dear All,

We hope you will be able to join us for our walk next Saturday. Below are full details of the walk, information about the programme so far which includes our January walk, and our safety guidelines.

Best wishes,
Philippa

Cerddwyr Cylch Teifi
Bore Sadwrn 4 Rhagfyr 
Aberteifi - Tref a Gwlad
Arweinydd: Siân Bowen

 
Gadael maes parcio’r Cei am 10.30yb (SN175 460) (Cod post SA43 1HR), sef y maes parcio lle roedd yr hen archfarchnad wrth yr afon. Codir tâl (carden yn unig) £2.90 am 3 awr - a sylwch fod angen ychydig o amser i ddeall iaith y peiriant os nad ydych yn arfer! Ond efallai bydd am ddim ar Sadyrnau mis Rhagfyr.

Braslun: dilyn Llwybr Arfordir Cymru a lonydd tawel yn ôl i’r dref.

Manylion: Taith ar hyd llwybrau a heolydd tawel ac er bod ambell riw hwnt ac yma does yr un ohonyn nhw yn serth. O ran cyflwr y llwybrau, diau y bydd ambell lecyn mwdlyd. Bydd y daith yn dirwyn i ben ar y Cei a bydd cyfle i chi ymweld ag un o amryw o lefydd bwyta os dymunwch. 

Dyma rai o’r pynciau a fydd yn derbyn ein sylw: porthladd Aberteifi a’r diwydiant adeiladu llongau (byddwn yn cerdded heibio i Bwll y Rhwydi, un o’r mannau lle y câi llongau bach eu hadeiladu); Eisteddfod Genedlaethol 1976 (saif Meini’r Orsedd yn y parc ar lan afon Teifi er nad dyna eu safle gwreiddiol); safle hen gastell Aberteifi,  cyn y codwyd castell yr Arglwydd Rhys c.1171-76; dyffryn presennol afon Teifi a’r hen ddyffryn; afon Mwldan a cherrig adeiladu Theatr y Mwldan a thai cyfagos. 

Hyd y daith:  3.4 milltir.

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers
Saturday morning 4 December
Cardigan - Town and Country
Leader: Siân Bowen 

Leaving the Quay car park at 10.30am (SN175 460) (Postcode SA43 1HR), the car park where the old supermarket was by the river. There is a charge (card only) of £2.90 for 3 hours - and note that you need a little time to understand the machine’s language if you are not used to it! But it may be free on Saturdays in December.

Outline: following the Wales Coast Path and quiet lanes back to town.

Details: A walk along paths and quiet roads and although there are a few hills here and there, none are steep. In terms of the condition of the paths there will undoubtedly be some muddy spots. The walk will end on the Quay and you will have the opportunity to visit one of a variety of restaurants if you wish.

Some of the topics that will receive our attention are: Cardigan port and the shipbuilding industry (we will walk past Netpool, one of the places where small ships were built); the 1976 National Eisteddfod (the Gorsedd Stones stand in the park on the banks of the Teifi although not their original site); the site of the old Cardigan castle, before Lord Rhys's castle was built c.1171-76; the existing Teifi valley and the old valley; the river Mwldan and the building stones of Theatr y Mwldan and nearby houses.

Length of walk: 3.4 miles.

RHAGLEN 2021 - 22 (HYD YN HYN)

Bydd pob taith yn para rhyw 2 awr, gan ddechrau am 10.30yb.
  • Sadwrn Hydref 9fed yn ardal Llandudoch, gyda Terwyn Tomos yn arwain
     
  • Sadwrn Tachwedd 13eg yn dechrau yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, gyda Howard Williams yn arwain
     
  • Sadwrn Rhagfyr 4ydd yn dechrau yn Aberteifi a cherdded ar hyd yr afon. gyda Siân Bowen yn arwain
  • Sadwrn  Ionawr 8fed yn ardal Foel Drygarn (i’w gadarnhau) gyda Hefin Wyn yn arwain

Ond wrth gwrs os bydd rheolau Cymru am Covid yn newid, bydd angen inni addasu neu ganslo teithiau. Rhoddwn wybod i chi trwy e-bost. Ni fyddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl y teithiau er mwyn peidio annog pobl i gwrdd dan do, ond gallwch wneud fel y mynnwch wrth gwrs.

Bydd e-bost gyda’r manylion llawn am bob taith yn dod atoch chi wythnos cyn y daith bob tro. Ond hoffwn eich annog i ddarllen y nodiadau isod am ddiogelwch rhag Covid a diogelwch rhag damweiniau ar y teithiau cyn i chi ddod ar y teithiau.

PROGRAMME 2021 - 22 (SO FAR)

Each walk will last about 2 hours, starting at 10.30am.
  • Saturday October 9th in the St Dogmaels area, led by Terwyn Tomos
     
  • Saturday November 13th starting at the Wildlife Centre, Cilgerran, led by Howard Williams
     
  • Saturday December 4th starting in Cardigan and walking along the river. led by Siân Bowen
     
  • Saturday January 8th in the Foel Drygarn area (to be confirmed) with Hefin Wyn
But of course if the Welsh rules about Covid change, we will need to adjust or cancel trips. We’ll let you know by email. We won’t arrange a place for socializing after the walks so as not to encourage people to meet indoors, but you can do as you please of course.

An email with the full details of each walk will be sent to you a week before the walk each time. But I would encourage you to read the notes below about Covid and accident protection before you come on the walks.

IECHYD A DIOGELWCH


Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain.

Diogelwch rhag Covid-19

O 7 Awst 2021 cododd Llywodraeth Cymru weddill y cyfyngiadau statudol ynglŷn â chwrdd yn yr awyr agored ond, am fod yr haint yma o hyd, eu cyngor yw parhau i fod yn ofalus ac yn synhwyrol.

Ac felly gofynnir i’n cerddwyr:
  • sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau i gyd sydd ar gael ichi;
  • ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
  • ac wrth gwrs, peidio â dod i daith os ydych chi’n: 
    • hunan-ynysu, neu
    • dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.
Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau
  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded: 
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

HEALTH AND SAFETY


Remember that you are responsible for your own health and safety.

Protection from Covid-19

From 7 August 2021 the Welsh Government lifted the remaining statutory restrictions on meeting outdoors but, as the virus still exists, their advice is to remain cautious and sensible.

And so our walkers are asked to:
  • make sure you have had all the vaccinations which are available to you;
  • try to keep some reasonable social distance from walkers from other households;
  • and of course, don't come to a walk if you are:
    • self-isolating, or
    • showing any symptom associated with the infection.

Safety on walks - from accidents
  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without undue delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecasts, especially footwear suitable for wet and uneven terrain;
  • stay in touch with the rest of the group by keeping in front of the organizer who will be at the back of the line of walkers;
  • inform an organizer if you leave early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without pavements;
    • on steep slopes;
    • on routes where there is a descent on one side as is often the case on coastal paths
Rhannwch Rhannwch
Trydarwch Trydarwch
Anfonwch at ffrind Anfonwch at ffrind
Cyhoeddwyd gan dysgu.com yn 2021, dan drwydded Comins Creadigol.
Erys hawlfraint y lluniau gyda'r ffotograffwyr gwreiddiol. 




darllen ar y we / read on the web

dat-danysgrifio o'r rhestr / unsubscribe from this list   

diweddaru dewisiadau tanysgrifio / update subscription preferences 

Email Marketing Powered by Mailchimp